Shane Ryan MBE
Uwch Gynghorydd i’r Prif Weithredwr
Shane Ryan yw’r Uwch Gynghorydd i’r Prif Weithredwr yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Cafodd ei benodi oherwydd ei arbenigedd helaeth mewn cyfiawnder cymdeithasol, ymgysylltiad cymunedol a dyngarwch strategol. Mae Shane yn chwarae rôl allweddol wrth lywio nod y Gronfa i gefnogi a grymuso cymunedau ledled y DU.
Cyn ymuno â’r Gronfa, Shane oedd Cyfarwyddwr Gweithredol Byd-Eang The Avast Foundation. Yno, ehangodd ei fentrau yn llwyddiannus i 27 o wledydd, gan ganolbwyntio ar gynhwysiant digidol a dinasyddiaeth. Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae arweinyddiaeth Shane wedi bod yn hollbwysig wrth greu ein strategaeth Llais Ieuenctid cychwynnol, sy’n sicrhau bod arweinwyr ifanc yn graidd i brosesau penderfynu, a’n strategaeth Partneriaeth. Fe wnaeth hefyd gychwyn a datblygu’r Gronfa Phoenix, menter sy’n cefnogi cymunedau du a lleiafrifol, ac yn fwy diweddar, Uned Arloesedd y Loteri Genedlaethol.
Mae gyrfa Shane wedi cwmpasu rolau arwyddocaol yn y sectorau cyhoeddus, preifat ac elusennol, a hynny’n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys amser yn DCMS fel cynghorydd strategaeth a chyfnod arwyddocaol fel Prif Weithredwr yn y sector elusennol. Mae wedi cydweithio â sefydliadau a busnesau byd-eang o Sony Columbia ac Unilever i UNESCO ac ITU, gan ddefnyddio ei arbenigedd i fynd i’r afael â materion cymdeithasol pwysig a hyrwyddo datblygiad cynaliadwy yn fyd-eang.
Fel eiriolwr cymunedol ymroddedig, mae Shane hefyd yn ymddiriedolwr ar gyfer sefydliadau amrywiol ac yn parhau i weithredu yn ei gymuned ei hun. Cafodd ei gyfraniadau i’r sector elusennol eu cydnabod gydag MBE yn 2023 ar gyfer gwasanaethau i elusennau a phobl ifanc. Mae addysg Shane yn Ysgol Fusnes Judge, Prifysgol Caergrawnt yn cefnogi gwaith presennol a dyfodol y sefydliad o ran cynaliadwyedd. Roedd ei astudiaethau MBA ym Mhrifysgol Cumbria yn canolbwyntio ar Arweinyddiaeth a Chynaliadwyedd, sy’n cefnogi ei ymagwedd strategol tuag at ddyngarwch a datblygiad cymunedol.
Drwy gydol fy ngyrfa hyd yn hyn, rydw i wedi cael fy ysgogi gan ymrwymiad i degwch cymdeithasol a lles cymunedol. Mae fy arweinyddiaeth yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn adlewyrchu fy angerdd dros greu cymunedau cynhwysol, gwydn a meithrin newid cadarnhaol.