Kate Beggs MBE
Cyfarwyddwr Gogledd Iwerddon
Penodwyd Kate yn gyfarwyddwr Gogledd Iwerddon Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ym mis Ionawr 2019.
Mae Kate yn arwain gweithgareddau arian grant, rheoli perthnasoedd a gweithrediadau'r Gronfa yng Ngogledd Iwerddon. Cyn ymuno â'r Gronfa, bu Kate yn arweinydd profiadol yn y sector cyhoeddus, gyda 17 mlynedd yng Ngwasanaeth Sifil y Deyrnas Unedig. Yn flaenorol bu'n Ddirprwy Gyfarwyddwr yn Swyddfa Gogledd Iwerddon, gan arwain eu gweithgareddau ennyn diddordeb gwleidyddol a chymunedol allanol.
Cyn ymuno â Swyddfa Gogledd Iwerddon, daliodd Kate gyfres o rolau yn y Gwasanaeth Diplomyddol, yn y Deyrnas Unedig a thramor.
Yn 2025, cafodd Kate ei chydnabod gydag MBE (Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig) yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd am ei gwasanaethau i’r cyhoedd a gwasanaethau cymunedol yng Ngogledd Iwerddon.
Rwy'n falch o weithio dros Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a chael y cyfle i gwrdd ag amrywiaeth eang o fudd-ddeiliaid, gwirfoddolwyr a buddiolwyr sy'n ymwneud â'r prosiectau a ariannwn. Mae'n gyffrous gweld pobl yn defnyddio grantiau Loteri Genedlaethol i gymryd rheolaeth a dod â'u syniadau eu hunain am gryfhau cymunedau yng Ngogledd Iwerddon ac ar draws y Deyrnas Unedig yn fyw. Mae'n anhygoel gweld y gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaus y mae hyn yn ei wneud i fywydau pobl hefyd.