Neil Ritch
Cyfarwyddwr yr Alban
Cafodd Neil ei benodi fel cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn yr Alban ym mis Gorffennaf 2019.
Neil sy’n gyfrifol am ddatblygiad, darpariaeth, gweinyddiaeth a chyfathrebu rhaglenni grant Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn yr Alban a hefyd gwaith ac enw da’r Gronfa yn y wlad.
Ymunodd Neil â’r Gronfa gyntaf yn 2000 i sefydlu Cronfa Tir yr Alban ac ers hynny mae wedi bod mewn sawl rôl, o Swyddog Ariannu i Ddirprwy Gyfarwyddwr.
Cyn ymuno â’r Gronfa, dechreuodd Neil ei yrfa fel gweithiwr cymunedol yn Shetland a gweithiodd fel Gwas Sifil yn yr Alban yn y maes polisi gofal cymunedol, a roddodd sylfaen drylwyr iddo mewn gweithredu cymunedol a phwysigrwydd pobl leol yn arwain.
Rwyf wrth fy modd i ddechrau fy rôl fel cyfarwyddwr yr Alban. Mae’r gwaith yr ydym yn ei wneud mor ddiddorol a chyffrous ag y mae wedi bod yn ystod yr holl amser yr wyf wedi bod yma. Mae’n lle gwych i fod ac rwy’n gyffrous i gael y cyfle i arwain ein gwaith ledled yr Alban.