Phil Chamberlain

Cyfarwyddwr Lloegr
Ymunodd Phil â’r Gronfa ym mis Mehefin 2022 fel Cyfarwyddwr Lloegr (Strategaeth, Partneriaethau ac Ymgysylltu). Mae’n gyfrifol dros oruchwylio ein portffolio ariannu mwyaf a sicrhau bod ein strategaeth ariannu newydd wedi’i hysbysu orau gan bartneriaethau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol.
Yn fwyaf diweddar, Phil oedd y Cyfarwyddwr Gweithredol dros Ymgysylltiad Allanol yn City Lit – coleg addysg i oedolion mwyaf Llundain. Cyn hynny, roedd ganddo nifer o rolau arwain uwch yn Youth Sport Trust, Legacy Trust UK a’r Gronfa Loteri Fawr. Treuliodd Phil 10 mlynedd yn y Gwasanaeth Sifil hefyd, gan weithio ar amrywiaeth o faterion polisi ac ymgyrchoedd rhyngwladol proffil uchel, yn ogystal â’n uniongyrchol o fewn swyddfa breifat Gweinidog.
Mae gyrfa Phil hyd heddiw wedi arwain at brofiad helaeth mewn datblygu strategaethau, cyfathrebu corfforaethol, ymgysylltiad gwleidyddol, datblygu polisïau a rhaglenni, dosbarthu cyllid, arweinyddiaeth strategol a chysylltiadau rhanddeiliaid. Mae’n unigolyn ymroddedig a brwdfrydig, sy’n cynnig ymdeimlad o bwrpas yn ogystal â hiwmor.
Rwy’n ddigon ffodus fy mod wedi fy hysbysu gan fy holl brofiadau, ac rwy’n gyffrous i ail-ymuno â theulu’r Loteri Genedlaethol – i helpu arwain a hyrwyddo gwaith Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi’r cymunedau a’r unigolion y mae’n eu gwasanaethu orau.