Darllenwch flog gan ein Prif Weithredwr

Group of women smiling

Ail-ddychmygu Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol

Dyma David Knott, Prif Weithredwr, yn trafod sut a pham rydym yn cynyddu cefnogaeth ar gyfer cyllid ar lawr gwlad

Mae heddiw’n nodi dechrau’r newid mwyaf yng nghyllid y Loteri Genedlaethol am genhedlaeth, wrth i ni ddyblu uchafswm y cyllid sydd ar gael i brosiectau ar lawr gwlad ledled y DU.

Rydym wedi cael ein hysbrydoli i ail-ddychmygu Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol oherwydd yr hyn rydym wedi’i weld, ei deimlo a’i glywed am y gwahaniaeth enfawr y mae symiau bach o gyllid yn ei wneud bob dydd.

O heddiw ymlaen, gall prosiectau cymunedol ymgeisio am gyllid rhwng £300 a £20,000 i gefnogi eu prosiectau am hyd at ddwy flynedd. Mae hyn yn golygu y gall grwpiau dderbyn hyd at £40,000 o fewn cyfnod o ddwy flynedd, gan feddu ar un grant ar y tro.

O’n hymgysylltiad gyda chymunedau a’n gwaith bob dydd, gwyddom fod grantiau bach yn sylfaen i gymunedau. Rydym yn gweld y cyrhaeddiad mwyaf gyda grantiau bach ac mae eu heffeithiau bron ymhob man. I chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae eu prosiect cymunedol mwyaf lleol bob amser diolch i grant bach.

Dyma pam mai nod cyntaf ein strategaeth a gyhoeddwyd yn gynt yn 2023 oedd dyblu ein cyllid cymunedol ar lawr gwlad. Rydym yn gyffrous i weld syniadau cymunedau nawr ein bod wedi datgloi mwy o arian a mwy o hyblygrwydd.

Yn gynharach eleni, ymwelais ag un o’n prosiectau a ariennir gan Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol gyda Gweinidog y Gymdeithas Sifil. Yn Lerpwl, mae’r sefydliad anhygoel Daisy Inclusive UK yn cefnogi pobl ifanc ag anableddau neu sy’n agored i niwed i gyrraedd eu llawn botensial, trwy wasanaethau gan gynnwys cymorth addysg a chyflogaeth, a chyngor iechyd meddwl arbenigol. Dros bêl-droed a the, teimlais y gwahaniaeth trawsnewidiol y mae’r grant bach hwn wedi’i gael ar gymaint o fywydau. A’r angerdd a’r balchder yr oedden nhw i gyd yn ei deimlo dros eu cymuned.

Grŵp arall i fuddio o gyllid y Loteri Genedlaethol oedd Nottingham News Centre, a gynhaliodd digwyddiad arbennig ar Ddiwrnod Windrush (Dydd Iau 22 Mehefin) yng Nghanolfan Gymunedol Haywood Road yn Nottingham. Dathlwyd cyfraniadau gweithwyr diwydiannol o dras Affricanaidd Garibïaidd y genhedlaeth Windrush trwy gyflwyniadau ac arddangosfa. Roeddem wrth ein boddau i fynd â’n cyllid i gyfeiriad newydd a denu ymgeiswyr newydd i goffáu 75 mlynedd ers Windrush trwy gyllid Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol.

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn ni’n rhannu enghreifftiau o brosiectau gwych sydd wedi buddio o Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli ceisiadau pellach gyda’r uchelgeisiau, twf a chreadigrwydd i gael effaith barhaus ar gymunedau.