Hwb i brosiectau hinsawdd cymunedol, diolch i bartneriaeth arloesol newydd
Mi fydd partneriaeth arloesol newydd a gomisiynwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn trawsnewid gweithredu dros yr hinsawdd gan gymunedau ledled y DU drwy gysylltu prosiectau llawr gwlad, rhannu arbenigedd, a chynyddu effaith leol ar raddfa genedlaethol.
Bydd Partneriaeth Dysgu a Chymorth y Gronfa Gweithredu Hinsawdd (CAF) yn dod â dros 130 o brosiectau hinsawdd cymunedol at ei gilydd gyda rhai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r DU i gyfrannu at fudiad eang a all sbarduno newid systematig.
O dan arweiniad Arup, mewn cydweithrediad ag Innovation Unit, Creature & Co., a Phrifysgol Leeds, bydd y bartneriaeth saith mlynedd uchelgeisiol hon yn cefnogi prosiectau sy’n cael eu hariannu drwy Gronfa Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Mae’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd (CAF) yn rhaglen 10 mlynedd, gyda chyllid o £100 miliwn sy’n ysbrydoli ac yn galluogi cymunedau ledled y DU i weithredu yn erbyn effeithiau newid yn yr hinsawdd. Cafodd ei sefydlu yn 2019 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cyllidwr mwyaf gweithredu cymunedol yn y DU a’i nod yw cyfrannu at fudiad ehangach sy’n ymgyrchu dros newid. Hyd yma, cafodd dros 130 o brosiectau eu hariannu, gan annog pobl i weithredu dros yr hinsawdd ar lefel gymunedol ledled y DU.
Mi fydd y bartneriaeth newydd yn ymdrechu i gyflymu gweithredu dros yr hinsawdd drwy annog cydweithredu a rhannu dysgu rhwng prosiectau amrywiol sy’n rhoi pwyslais ar themâu amgylcheddol gan gynnwys ynni, trafnidiaeth, bwyd, gwastraff a defnydd, ac ar yr amgylchedd naturiol. Bydd yn cynnig cyfleoedd dysgu ymarferol, yn cynhyrchu syniadau gwerthfawr, ac yn helpu i sicrhau bod lleisiau arweinwyr hinsawdd llawr gwlad ledled y wlad yn cael eu clywed i ysbrydoli cymunedau eraill i weithredu dros yr hinsawdd.
Prif Fuddiannau’r Bartneriaeth:
- Cymorth Gwell i Ddeiliaid Grantiau: Mynediad at wybodaeth, arbenigedd a chymorth a rennir, gan helpu prosiectau i gynyddu eu heffaith ac i gyflawni mwy
- Sector Amgylcheddol a Gweithredu Hinsawdd Cryfach: Bydd prosiectau unedig a dulliau cydweithredol yn cryfhau’r holl fudiad hinsawdd cymunedol
- Effaith Gymdeithasol Ehangach: Bydd prosiectau sydd wedi’u cysylltu’n well yn cynyddu ymgysylltiad â’r cyhoedd, yn creu datrysiadau mwy cynaliadwy ac yn hybu newid systematig
- Cynyddu Gwybodaeth: Bydd pum mlynedd o ddysgu yn sgil gweithredu dros yr hinsawdd ar lawr gwlad yn cael ei goladu, ei ledaenu a’i rannu i gyflawni mwy o ganlyniadau
- Ysbrydoliaeth i Weithredu dros yr Hinsawdd yn y Dyfodol: Bydd storïau gafaelgar a gwybodaeth newydd yn arwain at syniadau y gall pobl uniaethu â hwy a’u hailadrodd i annog mwy o gymunedau i weithredu.
Meddai Ben Smith, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Hinsawdd a Chynaliadwyedd gydag Arup: "Rydym wrth ein bodd yn cael arwain y consortiwm sy’n gweithio â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i helpu’r rhai sydd wedi cael grantiau gan eu Cronfa Gweithredu Hinsawdd. Mae wedi bod mor braf cael cwrdd â rhai o ddeiliaid y grantiau a dysgu mwy am y prosiectau lleol ysbrydoledig maent yn eu harwain. Rydym yn gweld cymaint o botensial i godi ymwybyddiaeth, darparu cymorth dysgu, hwyluso rhannu gwybodaeth ac yn y pen draw ysbrydoli mwy o bobl i weithredu dros yr hinsawdd. Yn bwysicach na dim, rydym yn credu y gall gweithredu dros yr hinsawdd ar lefel unigol a chymunedol arwain at newid systemau ehangach. Pobl angerddol sy’n creu newid.”
Meddai Mel Eaglesfield, Cyfarwyddwr Strategaeth Gyllido, Cyfathrebu ac Effaith gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae gweithredu lleol yn cael effaith yn genedlaethol a bydd yn cyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy i bawb. Mae’r bartneriaeth newydd arloesol hon yn arwydd o’n hymrwymiad nid yn unig i ariannu prosiectau amgylcheddol cymunedol ond hefyd i sbarduno gweithredu dros yr hinsawdd ledled y DU. Drwy gysylltu arbenigedd ar lawr gwlad gydag adnoddau cenedlaethol, mi fydd y dull cydweithredol hwn yn helpu i gynyddu galluedd a rhwydweithiau a all annog y newidiadau systematig sydd eu hangen ar ein cymunedau.”
Meddai Matthew Horne, Cyd-Brif weithredwr Innovation Unit: “Mae hi’n fraint inni gael gweithio â deiliaid grantiau’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd. Maent yn gwneud gwaith arbennig iawn â chymunedau lleol i fynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd, i newid ymddygiadau ac i ddarbwyllo pobl o’i effeithiau. Rydym yn edrych ymlaen at eu helpu i gael mwy fyth o effaith yn lleol, i leihau anghyfiawnder hinsawdd ac i gael mwy o ddylanwad ar ein systemau cenedlaethol.”
Ychwanegodd Peter Johnson, Rheolwr GyfarwyddwrCreature & Co.: "Mae gennym gyfle gwirioneddol i helpu nid yn unig deiliaid grantiau ond hefyd ymateb y wlad i’r argyfwng hinsawdd byd-eang. Gobeithir y bydd helpu derbynwyr y grantiau hyn i gyfathrebu’n bywiogi cymunedau ar hyd a lled y wlad."
Ynghylch y Partneriaid
Arup – Y partner arweiniol, sy’n arbenigwyr mewn cynaliadwyedd a chydnerthedd hinsoddol a chynhyrchu tystiolaeth am weithredu dros yr hinsawdd ar lefel gymunedol.
Innovation Unit – Menter gymdeithasol sy’n gweithio i leihau anghydraddoldebau a thrawsnewid systemau drwy helpu cymunedau i ddatblygu mentrau arloesol sy’n cael eu gyrru gan bobl. Byddwn yn annog cydweithrediad a dysgu rhwng deiliaid grantiau’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd.
Creature & Co. – Asiantaeth gyfathrebu sy’n creu ac yn curadu llais ar y cyd i ddeiliaid grantiau’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd.
Prifysgol Leeds – Sefydliad academaidd blaenllaw sy’n cynhyrchu ymchwil a gwybodaeth am weithredu dros yr hinsawdd ac ymgysylltu â’r cyhoedd.
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw cyllidwr cymunedol mwyaf y DU, sy’n cefnogi gweithgarwch i greu cymunedau cydnerth, cynhwysol ac sy’n amgylcheddol gynaliadwy ledled y DU. Mae pobl sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn bob wythnos at achosion da ym mhob rhan o’r DU. Diolch i’w cyfraniad hwy, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn bwriadu buddsoddi dros £4 biliwn mewn cymunedau erbyn 2030.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig