Dosbarthwr mwyaf arian y Loteri Genedlaethol i rymuso’r drydydd sector i arddangos sut maen nhw’n newid bywydau a chymunedau
Bydd elusennau a grwpiau cymunedol y DU yn cael gwell cefnogaeth ac adnoddau i gynhyrchu a defnyddio tystiolaeth ac arddangos y gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud i gymdeithas, diolch i gynlluniau a gyhoeddwyd heddiw gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Fel rhan o’u strategaeth, ‘Cymuned yw’r man cychwyn’, mae dosbarthwr mwyaf arian y Loteri Genedlaethol yn y Deyrnas Unedig wedi nodi cynllun i’w gwneud yn haws i sefydliadau’r drydydd sector gael hyd i’r dystiolaeth, syniadau, ac arferion da y maen nhw eu hangen i arddangos sut y maen nhw’n newid bywydau a chymunedau a’u rhannu hefyd.
Meddai Tom Walters, Dirprwy Gyfarwyddwr Tystiolaeth ac Effaith yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl yn siarad â ni ynglŷn â’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw a’u cymunedau. Y problemau y maen nhw’n eu hwynebu. Yr atebion sydd ganddynt. Rydym yn gwybod o’r sgyrsiau hyn - yn enwedig gyda sefydliadau llai - fod adrodd ar effaith, rheoli data a chael mynediad i ddysgu yn gallu bod yn heriol – ac rydym am helpu i wella hynny.”
Mae dysgu o ymarfer a defnyddio tystiolaeth i ddylunio prosiectau yn gallu helpu cymunedau i arwain sut caiff adnoddau’r Loteri Genedlaethol eu defnyddio. Fel nododd un ymatebwr: “Pan rydych chi’n gwneud cais am grant, un o’r pethau pwysicaf i’w brofi yw bod angen y grant hwnnw... dangos bod gwir angen.”
Mae cynlluniau Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a gyflwynir yn Strategaeth Tystiolaeth ac Effaith newydd y sefydliad, yn ceisio gwneud y broses hon yn haws. Fel yr esboniodd Walters: “Rydym am weithio ar y cyd â sefydliadau’r drydydd sector i gasglu tystiolaeth glir a chadarn a chydweithio i drawsnewid cymdeithas. I ddefnyddio tystiolaeth a dysgu yn fwy effeithiol. I daclo tlodi, anfantais a gwahaniaethu. I ysbrydoli newid cymdeithasol ystyrlon.”
Mae rhai o’r ymrwymiadau newydd gan yr ariannwr yn cynnwys:
- Creu banc dysgu ar-lein ar gyfer arferion gorau lle bydd cymunedau yn cael hyd i syniadau newydd, tystiolaeth hawdd i’w gyrchu, ac atebion bywyd go iawn defnyddiol, a darganfod cyfleoedd newydd i gydweithio.
- Ei gwneud yn haws i’n deiliaid grantiau gael mynediad i’r rhwydweithiau, pecynnau cymorth; mentora, hyfforddi a chyfleoedd dysgu a gynigir gan y Gronfa a phartneriaid ledled y DU.
- Sefydlu panel amrywiol o gynghorwyr cymunedol o ledled y DU – yn cynghori Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar ddysgu, a chyd-ddylunio ffyrdd newydd y gall cymunedau ddysgu, cysylltu a datblygu mewn gofod diogel.
- Gwneud gwell defnydd o dystiolaeth i hyrwyddo newid cadarnhaol a dangos y gwahaniaeth a wna cymunedau gyda help arian y Loteri Genedlaethol.
Fel rhan o’r cynigion hyn, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn addo ‘byw eu proffes’ a rhoi systemau a phrosesau mewnol gwell yn eu lle sydd eu hangen er mwyn gwrando a dysgu o’r hyn y maen nhw’n ei glywed gan gymunedau – fel sefydliad cyfan. Ac yna, i rannu hyn gydag eraill.
Ychwanegodd Tom Walters: “Cymunedau sy’n ein harwain. Y nhw yw’r rheswm rydym yn gwneud yr hyn a wnawn. Ac er mai ni yw’r ariannwr mwyaf yn yr ystafell, nid ni yw’r arbenigwr. Yn enwedig pan ddaw at brofiadau bywyd. Dyna pam rydym yn gwneud addewid i ni’n hunain hefyd. I roi systemau a phrosesau gwell yn eu lle sydd eu hangen arnom i wrando ar beth mae ein cymunedau yn ei ddweud wrthym ni. I dyfu o hyn. Fel sefydliad cyfan. Ac yna, i rannu hyn gydag eraill.
Mae Strategaeth Tystiolaeth ac Effaith newydd y Gronfa yn nodi pum blaenoriaeth i ganolbwyntio arnynt. Sef:
- Dysgu gyda chymunedau - i gasglu a rhannu tystiolaeth ar y cyd a chreu mwy o gyfleoedd i gymunedau i ddysgu, cysylltu a datblygu.
- Arwain gyda thystiolaeth trwy harneisio tystiolaeth a dysgu i wneud y gwahaniaeth mwyaf i heriau difrifol cymdeithas.
- Galluogi ein dull sy’n seiliedig ar degwch fel ein bod yn defnyddio dysgu am dlodi, anfantais a gwahaniaethu i dargedu ein hariannu a’n cyfathrebu.
- Arddangos ein heffaith – defnyddio tystiolaeth a data i ddangos cyrhaeddiad ein hariannu, a’r effaith a gaiff ar gymunedau, ac i wneud penderfyniadau ariannu gwell yn y dyfodol.
- Defnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth wrth ariannu - gan ddefnyddio tystiolaeth a dysgu o du mewn a thu allan i’r Gronfa i wneud penderfyniadau.
Bydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn datblygu ei chynlluniau ar gyfer y panel dysgu cymunedol dros y misoedd nesaf. Gall elusennau, grwpiau llawr gwlad a sefydliadau sy’n gwasanaethu cymunedau sydd â nodweddion gwarchodedig sy’n dymuno cymryd rhan gysylltu ar community.learning@tnlcommunityfund.org.uk.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi ariannu prosiectau ym mhob awdurdod lleol ac, yn y flwyddyn ddiwethaf, wedi dyfarnu dros hanner biliwn o bunnoedd o grantiau trawsnewidiol i bron i 14,000 o brosiectau.
I gael gwybod rhagor ewch i https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig