Penodi Cadeirydd Cronfa Gymunedol Loteri Genedlaethol Cymru
Heddiw, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ariannwr gweithgarwch cymunedol mwyaf y DU, wedi cyhoeddi penodiad Cadeirydd newydd ei Bwyllgor Cymru.
Bydd Dr Simone Lowthe-Thomas yn arwain y Pwyllgor o 1 Gorffennaf 2021, wrth i Syr Adrian Webb gamu i lawr. Bydd yn goruchwylio'r gwaith o wneud grantiau yn y wlad ar adeg pan fo'r Gronfa'n parhau i gefnogi pobl a chymunedau y mae COVID-19 yn effeithio fwyaf arnynt – gan adeiladu ar y cysylltiadau, y sefydliadau a'r gwydnwch sy'n galluogi cymunedau i ffynnu a'u cryfhau.
Bydd Dr Lowthe-Thomas yn ymgymryd â'r swydd wrth i'r Gronfa barhau i gynnull, gwrando a dysgu gwersi'r pandemig, yng Nghymru a ledled y DU - gan ymgysylltu â'r holl gymunedau a gweithio i sicrhau bod yr arian a ddyferir yng Nghymru yn cael ei lunio gan eu profiad ac yn ymateb iddo.
Dr Lowthe-Thomas yw Prif Swyddog Gweithredol Asiantaeth Ynni Hafren-Gwy – elusen ynni gynaliadwy sy'n gweithio yng Nghymru a siroedd y gororau. Cyn dod yn Brif Swyddog Gweithredol, roedd ganddi rolau lluosog yn y sefydliad, gan gynnwys Cyfarwyddwr Cymru a Phennaeth Ynni Cymunedol. Mae hefyd yn Is-lywydd Effeithlonrwydd Ynni a Thlodi Tanwydd yn Federene (Ffederasiwn Asiantaethau Ynni Ewrop). Enillodd ei PhD ym Mhrifysgol Caerdydd, gan astudio Cnydau Ynni a Biomas.
Roedd Dr Lowthe-Thomas yn un o sylfaenwyr Ynni Cymunedol Cymru a threuliodd ddeng mlynedd ym Mhrifysgol Caerdydd fel cydymaith Ymchwil.
Dywedodd Dr Simone Lowthe-Thomas, Cadeirydd newydd Pwyllgor Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Mae'n fraint ac yn anrhydedd cael fy ngwahodd i arwain Pwyllgor Cymru ac ymuno â Bwrdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol y DU. Mae'r cyrhaeddiad a'r effaith anhygoel y mae'r Gronfa yn eu cael ar fywydau pobl, ariannu prosiectau sy'n cael eu gyrru gan egni a syniadau cymunedau o bob rhan o Gymru i ymateb i angen a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bawb, yn ysbrydoledig a'r rheswm pam y gwnes gais.
"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r staff, y partneriaid a'r rhai sy'n derbyn grant i rannu ein dysgu, tyfu ein syniadau, a chefnogi adferiad teg a chyfartal i bawb wrth i ni ailadeiladu ein bywydau a'n cymunedau yn dilyn effaith COVID-19. Mae nawr yn amser i ni i gyd fyfyrio, rhannu ein profiadau, a chyd-greu gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer ein dyfodol newydd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael rhan yn y gwaith o helpu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i lunio rhaglenni ariannu newydd i ymateb i angen ein cymunedau ledled Cymru ac i helpu i adeiladu ein rhwydweithiau o bobl a phartneriaid i gyflawni'r weledigaeth hon."
Dywedodd Blondel Cluff CBE, Cadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Rwy'n falch o groesawu Dr Lowthe-Thomas fel Cadeirydd newydd Pwyllgor Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae'n dod â chyfoeth o brofiad – yn enwedig o ran cefnogi mentrau ynni a arweinir gan y gymuned ar lefelau rhanbarthol a lleol. Bydd arbenigedd Dr Lowthe-Thomas yn ein gadael mewn sefyllfa well fyth i gael arian y Loteri Genedlaethol i gymunedau ledled Cymru. Y llynedd dosbarthwyd £31 miliwn mewn 850 o grantiau ledled y wlad, diolch i arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol."
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, codir £36 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da'r DU, ac mae £41 biliwn wedi'i ddosbarthu i 565,000 o achosion da ledled y DU ers 1994.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru