Pobl ifanc yn creu dyfodol disglair

Gwyddom fod materion amgylcheddol yn bwysig iawn i nifer o bobl ifanc. Yn yr erthygl hon, rydym ni’n rhannu pedair ffordd y gwnaeth Our Bright Future (OBF), rhaglen £33 miliwn a ariennir gan y Loteri Genedlaethol ac a arweinir gan Yr Ymddiriedolaethau Natur, adnabod a chaffael yr angerdd honno’n llwyddiannus.

Ar ôl cael y cyfleoedd a’r gefnogaeth gywir i gychwyn arni, gwnaeth pobl ifanc welliannau gwirioneddol, ymarferol, o leihau allyriadau CO2 a dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi i gyfrannu at economi mwy gwyrdd. Gwnaethant ddatblygu sgiliau cadwraeth, adeiladu busnesau gwyrdd, a siarad â phenderfynwyr am eu hawydd i ddysgu rhagor am fyd natur.

Lle’r oedd rhai’n teimlo’n ddigalon, neu’n amau a allen nhw wneud gwahaniaeth, cododd y rhaglen eu hyder a’u cymhelliant i arwain newid amgylcheddol.

“O’r blaen, roedd gen i’r feddylfryd ‘nid yw pŵer i bobl fel fi’ ac nawr mae gen i’r feddylfryd ‘rwy’n gallu adeiladu a bod yn rhan o’r dyfodol hwnnw os ydw i eisiau hynny’.” Cyfranogwr prosiect

Beth oedd Our Bright Future?

Rhwng 2016 a 2021, cynhaliodd OBF 31 o brosiectau amgylcheddol amrywiol i bobl 11-24 oed ledled y DU. O gadw gwenyn i waith cynnal fferm, roedd rhywbeth i bawb.

Cyfranogwyr o brosiect Our Bright Future

Er enghraifft, achubodd Your Shore Beach Rangers yng Nghernyw blastig o draethau, a ddefnyddiwyd ganddynt i greu gemwaith.

Hyfforddodd Creu Cymunedau Cynaliadwy yn Abertawe bobl ifanc mewn gwaith adeiladu sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, gan ddefnyddio deunyddiau naturiol i greu adeiladau di-garbon.

Yn y cyfamser, cynhaliodd Vision England deithiau preswyl lle’r oedd pobl ifanc â nam ar eu golwg yn cysylltu â byd natur trwy deithiau cerdded bywyd gwyllt a gwaith cadwraeth.

Hyfforddodd Environmental Leadership Programme bobl ifanc i arwain ar wella a chynnal mannau naturiol yn eu cymunedau.

Er oedd amrywiaeth enfawr, roedd rhywbeth cyffredin yn yr holl waith: cefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau a lles, ac i weithredu fel catalyddion ar gyfer newid.

Beth wnaeth y rhaglen ei gyflawni?

Cymerodd mwy na 128,000 o bobl ifanc ran. Gwnaethant blannu coed, creu a chynnal rhandiroedd a gerddi cymunedol, a chlirio ac amddiffyn gwlyptiroedd a choetiroedd.

Yn gyfangwbl, gwnaethant weithio ar wyth milltir o’r arfordir a 400 hectar o dir – ardal bron yr un faint â 1,000 o gaeau pêl-droed.

Gwnaeth eu gwaith wahaniaeth gwirioneddol i’r amgylchedd, gan arbed amcangyfrifiad o 30,000 tunnell o allyriadau CO2 a dargyfeirio 1,343 tunnell o wastraff o safleoedd tirlenwi – tua’r un faint â gwastraff blynyddol dros 3,000 o dai.

Ond nid gwelliannau ymarferol yn unig a wnaeth OBF. Fe wnaethant hefyd annog pobl ifanc i godi llais ac ymgysylltu â phenderfynwyr, gan geisio dylanwadu newid o’r brig.

Gyda chefnogaeth OBF, ymwelodd pobl ifanc â Senedd Ieuenctid yr Alban a chyflwyno i Aelodau Seneddol yn San Steffan. Cyfarfu pobl ifanc yng Ngogledd Iwerddon â’r Gweinidog Addysg fel rhan o’u hymgyrch cyfryngau cymdeithasol #LearnMoreOutdoors, ac ysbrydolwyd Finn Jones o Gymru i ysgrifennu at ei MP lleol.

Ac mae bellach gan 19 o sefydliadau partner, fel Cyfeillion y Ddaear a Yorkshire Wildlife Trust, ymddiriedolwyr ifanc neu strwythuro llywodraethiant ieuenctid, gan gryfhau lleisiau ifanc yn y sector amgylcheddol.

Cyflawnodd OBF hyn drwy roi pobl ifanc wrth wraidd gweithredu amgylcheddol, gan ddangos nid yn unig sut y gallen nhw wneud gwahaniaeth yn unigol, ond hefyd sut y gallen nhw alluogi eraill i gael effaith hyd yn oed yn fwy.

Beth wnaethom ni ei ddysgu?

Dyma bedair gwers y gwnaethom eu dysgu am ysbrydoli pobl ifanc i ymuno ac arwain ar weithredu amgylcheddol.

1. Manteisio ar wahanol gymhellion a’u cefnogi

Mae pobl ifanc yn ymuno â gweithgareddau amgylcheddol am wahanol resymau – nid oes diddordeb ganddyn nhw i gyd yn yr amgylchedd yn syth.

Cymerodd sawl un ohonynt ran oherwydd y manteision eraill oedd ar gael iddynt – roedd pobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau wedi’u cymell yn benodol gan gyfleoedd i gymdeithasu. Roedd diddordeb gan bobl ifanc o oedran gweithio mewn ennill profiad gwaith a chymwysterau.

Roedd rhai ohonynt eisiau cyfrannu, gan wybod y gallai eu gwaith wella bywydau pobl ifanc eraill. Ail-ddatblygodd cyfranogwyr ifanc o Green Academy ardal eistedd awyr agored mewn caffi lleol a gynhelir gan yr elusen anableddau Smile for Life. Mae’r elusen bellach yn defnyddio’r lle i weini cwsmeriaid, codi arian a chynnig hyfforddiant lletygarwch i bobl ifanc ag anawsterau dysgu.

Roedd cymryd yr amser i ddysgu am anghenion a diddordebau pobl yn ei gwneud hi’n fwy tebygol y bydden nhw’n parhau i ymgysylltu. Er enghraifft, roedd cyfleoedd i gyn-droseddwyr ifanc i ddysgu sgiliau byw yn y gwyllt, cynnau tân neu ddefnyddio cyllyll mewn amgylchedd diogel wedi’i oruchwylio’n eu galluogi i archwilio eu diddordebau’n gynhyrchiol.

Creodd y rhaglen gymhelliant parhaus ac ymgysylltiad â materion gwyrdd. Hyd yn oed os nad hynny oedd eu ffocws cychwynnol, dywedodd 40% o bobl ifanc fod OBF wedi’u dylanwadu i ddilyn gyrfa yn yr amgylchedd.

2. Dangos sut all gwaith amgylcheddol hybu gyrfaoedd

Daeth y rhaglen i ben yng nghanol Covid, yn ystod adeg pan oedd nifer o bobl ifanc yn teimlo bod eu dyfodol yn ansicr. Helpodd OBF bobl ifanc i archwilio gwahanol ddewisiadau gyrfa a chael profiad gwaith.

Datblygodd rai ohonynt ddiddordeb newydd ym maes eu prosiect, roedd rhai ohonynt yn syml yn anymwybodol o’r cyfleoedd oedd ar gael.

Er enghraifft, rhoddodd Rachel gynnig ar gadw gwenyn am y tro cyntaf fel rhan o brosiect BEE You Lerpwl. Mae hi bellach yn dysgu eraill fel tiwtor cymwys ac yn datblygu busnes ei hun fel cadwr gwenyn llawn amser.

Roedd eraill yn dymuno cynyddu eu cyfleoedd gwaith gyda chymwysterau newydd. Cymerodd dros 37,000 o bobl ifanc ran mewn gwahanol raglenni dysgu amgylcheddol, gan gynnwys 2,400 ohonynt yn ennill gwobrwyon Dug Caeredin neu John Muir.

“Ymgeisiais am interniaeth yn llwyddiannus gyda’r RSPB, a flwyddyn yn ddiweddarach, cefais swydd llawn amser gyda Natural England. Ni fyddai gennyf yr hyder neu’r cymhelliant i ymgeisio am yr un ohonynt, heb yr egni newydd dros newid amgylcheddol a gefais gan UpRising.” Cyfranogwr prosiect​​​​​​​

3. I rymuso arweinwyr ifanc, cefnogwch nhw’n briodol

Dymunodd OBF weld mwy o bobl ifanc yn arwain ar newid amgylcheddol, boed trwy gynnal prosiectau eu hunain neu lywio gwaith oedd eisoes yn bodoli. Gwnaethom ddysgu bod y daith i arweinyddiaeth yr un mor bwysig â’r gyrchfan.

“Gallwch rymuso pobl ifanc i fod yn arweinwyr,” eglurodd un aelod o’r Fforwm Ieuenctid, “ond mae angen cefnogaeth ac arweiniad arnoch i gyrraedd yno”. Mae rôl sy’n gofyn llawer, heb gefnogaeth briodol, yn rhoi pobl ifanc mewn perygl o fethu.

Mae adeiladu perthnasoedd mewn sefydliad yn gwneud pobl ifanc yn fwy hyderus i ymgymryd â rolau llywodraethu. Eglurodd un ymddiriedolwr ifanc, “roedd hi’n ddefnyddiol fy mod wedi cyfarfod â’r cadeirydd ymddiriedolwyr yn barod, a rhai ymddiriedolwyr eraill, ac felly roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus wrth siarad â nhw”.

Mae digon o wybodaeth a hyfforddiant hefyd yn gallu helpu. Er enghraifft, lluniodd Yorkshire Dales Millennium Trust ganllaw mewnol i gefnogi eu hymddiriedolwyr ifanc. I sefydliadau, cynhyrchodd partneriaid OBF ganllaw arferion gorau ar gyfer strwythurau llywodraethu ieuenctid.

Mae’n bosibl y bydd angen cefnogaeth ar arweinwyr ifanc i ddatblygu eu syniadau. Weithiau, mae hyn yn golygu cael sgyrsiau agored, gonest am sut y gellir cyflawni eu huchelgeisiau.

“Rwy’n credu bod disgwyliad afrealistig bod ‘arweinir gan ieuenctid’ yn golygu bod rhaid i’r bobl ifanc feddwl am bopeth, yn hytrach na chael eu hysbrydoli ac yna cael cefnogaeth gan eraill i ystyried sut y gellir datblygu hynny.” Aelod Fforwm Ieuenctid

Roedd yr holl gefnogaeth hon i arweinwyr ifanc newydd yn chwerthchweil. Gadawodd 81% ohonynt y rhaglen yn teimlo y gallent wneud gwahaniaeth yn yr amgylchedd, yn uwch na 37% cyn hynny.

4. Da ar gyfer y blaned, gwych ar gyfer iechyd meddwl

Gwyddom fod iechyd meddwl yn flaenoriaeth i nifer o bobl ifanc. Roedd pandemig Covid yn heriol iawn i nifer, ond yn enwedig i bobl ifanc a oedd yn dysgu sut i reoli straen a heriau’r glasoed.

Dangosodd OBF fod gweithredu hinsawdd yn gallu bod yn un o sawl ffordd o gefnogi lles pobl ifanc. O’r 258 o gyfranogwyr a gyfwelwyd â nhw, dywedodd 86% ohonynt fod cymryd rhan wedi cael effaith gadarnhaol ar eu lles meddyliol, gydag un mewn pedwar hefyd yn adrodd mwy o allu i reoli eu teimladau.

Helpodd OBF nifer o bobl i ffynnu: roedd rhai ohonynt yn mwynhau dysgu am fyd natur, tra bod eraill yn mwynhau amser y tu allan i’r ystafell ddosbarth gan droi “pobl ifanc gyda’r record uchaf o gael eu cadw ar ôl ysgol” i unigolion gweithgar, angerddol oedd yn rhagori mewn “adeiladu ffensys, gwaith pren a chadw a chynnal”.

Roedd sawl un wedi’u cymell gan ganlyniadau amgylcheddol gweladwy, fel creu man gwyrdd newydd neu blannu rhes o goed, oherwydd fe wnaeth eu galluogi i weld a dathlu eu cyraeddiadau. Roedd datblygu sgiliau newydd wedi’u grymuso, yn enwedig pan oedd hyn yn rhywbeth nad oedd cyfranogwyr yn credu y gallen nhw ei ddysgu.

Gwnaeth amser Loren
yn Putting Down Roots for Young People iddi sylweddoli bod eu sgiliau trefnu’n berffaith ar gyfer nodi cofnodion yn eu cyfarfodydd tîm wythnosol, a rhoddodd y prosiect “resymau iddi godi o’r gwely a chadw i fynd”. Aeth hi ymlaen i gynnal sesiynau am lais ieuenctid ac iechyd meddwl, yn ogystal ag ysgrifennu erthygl am sut y gall llais ieuenctid helpu iechyd meddwl.

"Rwy’n fwy hyderus a llai pryderus o fewn grwpiau a thimau ac wedi dod llawer yn fwy gwydn yn gwybod fy mod yn gallu gwneud pethau na fyddwn i erioed wedi meddwl y byddwn i’n cael y cyfle i’w gwneud." Cyfranogwr prosiect

Eisiau dysgu rhagor?

Darllenwch ragor am sut gefnogodd OBF bobl ifanc i arwain at weithredu hinsawdd, ond hefyd i gefnogi cryfderau eu hunain, yn adroddiadau gwerthuso a dysgu’r rhaglen.

Diolch i Cath Hare, The Royal Wildlife Trusts