Canolfan Menywod Footprints yn cymryd camau tuag at gynaliadwyedd

Mae gofalu am ein hardal ar gyfer pant y dyfodol yr un mor bwysig a helpu teuluoedd nawr.

Dyna yw tyb Eileen Wilson, sydd wedi bod yn cefnogi menywod a phlant yng Nghanolfan Menywod Footprints yn Belfast, Gogledd Iwerddon am bron i 30 mlynedd, yn ogystal ag arwain ar eu gwaith amgylcheddol.

Footprints Women’s Centre

“Mae menywod yn dod atom am gymorth ar unwaith, ond rydym yn gweithio gyda nhw i ddarganfod beth maen nhw wir ei angen i newid eu bywydau yn y tymor hir, a bywydau eu teuluoedd. Mae’r un peth yn wir am gynaliadwyedd amgylcheddol, gall camau bach nawr effeithio’r dyfodol,” esboniodd Eileen.

“Mae menywod yn dod atom am gymorth ar unwaith, ond rydym yn gweithio gyda nhw i ddarganfod beth maen nhw wir ei angen i newid eu bywydau yn y tymor hir, a bywydau eu teuluoedd. Mae’r un peth yn wir am gynaliadwyedd amgylcheddol, gall camau bach nawr effeithio’r dyfodol,” esboniodd Eileen.

Sefydlwyd Canolfan Menywod Footprints ym 1991 i gefnogi, meithrin a grymuso menywod a’u teuluoedd. Dechreuodd mewn meddygfa oedd wedi dirywio a thrawsnewidiodd yn Ganolfan sydd wedi ennill gwobrau, y cyflogwr cymunedol mwyaf yn yr ardal sy’n darparu gofal plant, cymorth i fenywod a theuluoedd, rhaglenni addysg a hyfforddiant, prosiectau byw’n iach, cyfleoedd gwirfoddoli ac Archfarchnad Gymdeithasol.

Mae Eileen wedi bod yn flaenllaw i’w llwyddiant.

“Mae bwyd a’r gegin wedi bod yn ganolog i’n taith gynaliadwyedd erioed. Nid yn unig yn y dyddiau cynnar i fwydo teuluoedd oedd yn ei chael yn anodd, ond i dreulio amser gyda’n gilydd yn siarad am beth roeddem am ei gyflawni fel cymuned.

“Roedd dod o hyd i fwyd ac ailgylchu gwastraff yn rhan o’r sgyrsiau roeddem yn eu cael, ac arweiniodd hyn at ffurfio grŵp garddio fel y gallen ni dyfu ein cynnyrch ffres ein hunain ar y tiroedd. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae’r Ardd Fwyd yn dal i ffynnu,” ychwanegodd Eileen.

Roedd derbyn grant Lleoliadau Ynni Effeithlon gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn 2013 yn drawsnewidiol i Footprints, gan eu helpu i wneud gwelliannau i’w hadeilad.

“Fe wnaethom roi switshis synwyryddion ar y goleuadau, uwchraddio’r inswleiddio a gosod trydan a dŵr poeth solar. Mae 30% o drydan a dŵr poeth y Ganolfan yn dod o’r rhain, a bob blwyddyn rydym yn cael £1,000 yn ôl gan y grid - dyna arbediad o oddeutu £12,000 y gallwn ei ddefnyddio at bwrpasau eraill i helpu teuluoedd.”

Mae gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ystod o raglenni sydd ar agor ar hyn o bryd sy'n gallu helpu grwpiau i ystyried yr amgylchedd a bod yn fwy cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys rhaglen flaenllaw Arian i Bawb ar gyfer grantiau bychain a’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, sy’n darparu grantiau aml flwyddyn i gymunedau ddod ynghyd a chefnogi’r amgylchedd yn eu bywydau bob dydd.

Meddai Eileen: “Fel rhan o’n grant Loteri Genedlaethol yn 2013, fe gawson arbenigwr i gynnal archwiliad ynni, gan edrych ar y costau ac effaith popeth ar yr amgylchedd. Mae’n anodd esbonio beth mae cynaliadwyedd yn ei olygu wrth bobl, ond mae pawb yn deall mwy o arian yn eu poced a lleihau gwastraff.”

Footprints Women’s Centre

“Dechreuais fel Cydlynydd Arlwyo ac rydw i wedi dysgu mwy ar hyd y daith. Does dim angen i chi fod yn arbenigwr. Mae’n ymwneud â dod â chysyniadau mawr yn fyw a gwneud iddynt wneud synnwyr i bobl gyffredin, fel ailgylchu a thyfu.”

Diolch i ariannu pellach gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sefydlodd Footprints Archfarchnad Gymdeithasol i ailddosbarthu bwyd i deuluoedd mewn angen ac agorwyd Ysgol Goginio lle mae gwarged bwyd yn cael ei baratoi ar gyfer yr Archfarchnad a’r digartref, wrth ddarparu hyfforddiant achrededig.

“Bob blwyddyn rydym yn dargyfeirio 20 tunnell o fwyd rhag mynd i dirlenwi, mae hynny’n fwy na 54,000 o brydau bwyd ac yn arbediad o 47 tunnell o allyriadau carbon, yr un fath â thanwydd i 11 o geir.

“Ond mae’r effaith yn fwy na hynny. Rydym yn newid bywydau’r teuluoedd am genedlaethau, trwy eu dysgu sut i gael mynediad i brydau bwyd maethon ond rhad a sut i’w tyfu, gan ddod a theuluoedd ynghyd a gwella llesiant.

“Rydyn yn cynnal cyrsiau ar drwsio yn hytrach na thaflu ac yn gwneud gwaith crefft gydag eitemau o natur neu bethau a fyddai wedi cael eu taflu fel rheol. Mae’r menywod mor falch o beth maen nhw’n ei greu gyda’i gilydd wrth wneud ffrindiau, ac mae’n eu hatgoffa y gall beth sy’n sbwriel i un person fod yn drysor i un arall,” esboniodd Eileen.

Byddai Eileen yn annog sefydliadau cymunedol eraill i feddwl am gynaliadwyedd amgylcheddol. Meddai, “Doedden ni ddim yn gwybod i le y byddai hyn yn mynd pan ddechreuon ni. Rydw i mor falch ein bod wedi ennill gwobrau cenedlaethol yn ymwneud â chynaliadwyedd a’n safle.

“Rydym yn dal i gael sgyrsiau sy’n ein sbarduno ymlaen. Mae fy mhrosiect diweddaraf yn ymchwilio claddgell ddŵr tanddaearol i ailddefnyddio dŵr glaw mewn toiledau ac rydw i’n gobeithio dechrau hyn yn y dyfodol agos.

Wrth ystyried ei blynyddoedd yn y Ganolfan, meddai Eileen: “Mae wedi bod yn wych. Dod a’r syniadau mawr hyn i bobl a’u grymuso nhw i fod yn rhan o symudiad ar yr hinsawdd, a hynny wrth newid eu bywydau eu hunain. Mae’n fraint.”

“Rydw i’n edrych ymlaen at fod allan yn fy ngardd fy hun yn fuan eto hefyd, yn tyfu fy llysiau. Mae fy nheulu i gyd yn cymryd rhan. Rydym wrth ein boddau.”

Am ragor o wybodaeth am ariannu’r Loteri Genedlaethol ewch i: Cartref: Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol