Cyflogaeth ieuenctid

Talent match conference

Gwersi ar gyfer dylunio polisi a rhaglenni

Dylid rhoi Pobl Ifainc ar lwybr hir dymor cynaliadwy

Mae angen ystod lawn o gefnogaeth arbenigol ar y rhai sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur

  • Mae pobl ifainc yn arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain: defnyddiwch yr arbenigedd hwn i gyfeirio eich polisi a'ch arfer
  • Deallwch eich cynulleidfa darged o bobl ifainc; nid yn unig eu hanghenion a'r rhwystrau sy'n eu hwynebu, ond hefyd eu cryfderau, dymuniadau a'u dyheadau
  • Dechreuwch greu perthnasoedd gyda chyflogwyr lleol mor gynnar â phosib
  • Ymdriniwch ag achosion craidd problemau sy'n rhwystrau i gyflogaeth a dechreuwch gydag anghenion sylfaenol
  • Tywyswch bobl ifainc ar hyd eu taith i mewn i/tuag at gyflogaeth neu gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu llwybr gwasanaethau di-dor
  • Ystyriwch yr hyn y gall partneriaid gwahanol ddod ag ef at y bwrdd, a chanlyniadau gadael nhw allan
  • Gall mudiadau gwirfoddol, fel mudiadau ieuenctid a grwpiau cymunedol, arwain partneriaethau cyflogaeth ieuenctid mawr a strategol
  • Mae ansawdd a 'ffit' swyddi a lleoliadau gwaith cyntaf yn bwysig
  • Mae cefnogaeth yn y gwaith yn gwella'r cyfle o'u cadw
  • Mae dulliau gwaith allweddol a adeiledir o gwmpas egwyddorion gwaith ieuenctid yn ffordd bwerus o gyrraedd ac ennyn diddordeb pobl ifainc sydd ag anghenion cymhleth

Cefnogwch bobl ifainc i adeiladu eu hyder, gwydnwch a rhwydweithiau seiliedig ar waith

Heb fewnbwn gan bobl ifainc, eu hadborth a'u dylanwad byddai'r penderfyniadau ariannu a wnaed wedi bod yn hollol wahanol ac efallai heb fod mor fuddiol i bobl ifainc ddi-waith ag yr oeddem yn tybio
Cynrychiolydd prosiect, TalentMatch Middlesbrough

Ymddiriedwch mewn pobl ifainc fel arbenigwyr ar eu teithiau eu hunain

  • Mae cyd-gynhyrchu'n ehangu ymgyrhaeddiad eich gwasanaethau ac yn ymateb i anghenion a dymuniadau eich buddiolwyr arfaethedig
  • Mae'n helpu ymdrechion i wella polisi ac arfer hefyd
  • Mae cynnwys pobl ifainc yn cael effaith gadarnhaol ar eu sgiliau ardrawslin hefyd

Ystyriwch integreiddio cefnogaeth iechyd meddwl gyda chefnogaeth gyflogaeth

Rydym wedi gweld bod yr heriau personol mwyaf y mae pobl ifainc yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn gysylltiedig â chyflyrau fel awtistiaeth neu salwch meddwl, sy'n amrywio o ddiagnosis clinigol i bryder ac iselder.

Mae cefnogaeth un i un yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu pobl ifainc i bontio i'r farchnad lafur

Mae cefnogaeth a adeiledir ar berthynas un i un yr ymddiriedir ynddi'n hanfodol, felly mae bron pob un o'r prosiectau Talent Match yn cynnwys model 'gweithiwr allweddol'.

Wrth i gyfranogwyr fynd yn nes at gyflogaeth, mae angen i weithwyr allweddol addasu a newid eu dulliau: gan symud o ffocws ar ddatblygiad emosiynol, personol a chymdeithasol i bwyslais ehangach ar gyflogadwyedd ac arweiniad gyrfaol

Gall cefnogaeth yn y gwaith wella cynaladwyedd canlyniadau cyflogaeth

Mae pobl ifainc sydd angen y gefnogaeth fwyaf dwys i fachu swydd hefyd yn fwyaf tebygol o'i chael hi'n anodd cadw cyflogaeth dros y tymor byr. Mae cefnogaeth lwyddiannus tra yn y gwaith yn darparu cyfle i'r person ifanc fynegi ei farn, gan roi cyngor ar ystod o faterion yn hytrach na chymryd camau ar eu rhan.

Er bod 81% o gyfranogwyr TM a dderbyniodd gefnogaeth yn y gwaith wedi dal gafael ar eu swyddi am 6 mis, dim ond 75% o'r rhai nad ydynt wedi derbyn y fath gefnogaeth sydd wedi aros yn eu swyddi

Mae angen newid sylweddol go iawn yn y berthynas a'r cysylltiadau rhwng cyflogwyr a phobl ifainc

Mae creu cysylltiadau pwrpasol gyda chyflogwyr o'r cychwyn cyntaf yn bwysig, yn hytrach na'i adael fel ystyriaeth eilaidd, docynistaidd

  • Dylid cynnwys cyflogwyr wrth ddylunio eich gwasanaethau
  • Crëwch fwy o brofiadau adeiladol o ymgeisio am swyddi
  • Cynigiwch 'ddewislen' o opsiynau i gyflogwyr gymryd rhan
  • Adolygwch ddisgwyliadau cyflogwyr o ran swyddi lefel fynediad

Ceir risg y bydd canfyddiadau pennawd yn cuddio problem gynyddol 'pobl ifainc guddiedig’

Mae'n bosib y bydd y sawl sy'n llunio polisi, arianwyr a chomisiynwyr yn gweld cyflogaeth ieuenctid fel problem sydd wedi'i 'datrys' ond mae'r rhai ar y rheng flaen yn gweld rhai pobl ifainc, yn enwedig y rhai sy'n wynebu rhwystrau lluosog neu gymhleth i gyflogaeth, yn crwydro hyd yn oed ymhellach i ffwrdd o'r farchnad lafur nag o'r blaen.

Ceir pryder cynyddol hefyd ynglŷn â'r nifer cynyddol o bobl ifainc erbyn hyn sydd, yn ogystal â bod yn NEET (Heb Fod mewn Cyflogaeth, Addysg neu Hyfforddiant) ‘yn unig’, yn mynd yn ‘guddiedig’ hefyd – heb dderbyn budd-daliadau, nac yn ymwneud ag addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Mae cyflogaeth ieuenctid ‘guddiedig’ wedi dyblu i 168,000 ers 2012

Mae angen buddsoddi mewn cyflogaeth ieuenctid dros yr hir dymor i wneud gwahaniaeth go iawn

Mae ein partneriaethau wedi dysgu na ellir troi bywydau o gwmpas ymhen rhai wythnosau. Gall fod angen amser, adnoddau ac ymyraethau lluosog i gyflawni newid cynaliadwy.

  • Mae atal yn rhatach na 'gwella'
  • Mae angen i bartneriaethau lleol weithio ar draws sectorau i sicrhau gwasanaethau di-dor ac nad oes neb yn cael ei adael ar ôl
  • Mae angen newidiadau i gomisiynu ac ariannu
  • Mae angen atebion lleol i broblemau lleol

Gall mudiadau gwirfoddol a chymunedol arwain partneriaethau cyflogaeth ieuenctid strategol yn llwyddiannus

Yn gyffredinol. rhedir rhaglenni cyflogaeth gan Awdurdodau Lleol neu ddarparwyr preifat mwy sylweddol ond dengys TM y gall grwpiau ieuenctid a chymunedol arwain a chyflwyno contractau o safon uchel sy'n ffocysu ar ganlyniadau, yn llwyddiannus. Yn aml mae pobl ifainc y mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn pennu eu bod yn 'anodd eu cyrraedd' yn ymddiried mewn mudiadau lleol, ac felly nhw sydd yn y sefyllfa gryfach i'w hadnabod ac ennyn eu diddordeb.

Awgrymiadau da

Sut i gynnwys pobl ifainc wrth ddylunio a chyflwyno gwasanaethau

Ein ‘hawgrymiadau da’ ar sut i gynnwys pobl ifainc wrth ddylunio a chyflwyno gwasanaethau

  • Mae cyd-gynhyrchu go iawn yn cymryd amser ac adnoddau i'w sefydlu
  • Gwnewch yn siŵr fod yr holl staff a phartneriaid yn deall y manteision a'r gwahaniaethau bach ond pwysig mewn mathau gwahanol o gyfranogiad defnyddwyr gwasanaeth
  • Pennwch egwyddorion allweddol ar gyfer cynnwys pobl ifainc wrth ddylunio a chyflwyno:
    • Dylid cynnwys pobl ifainc ar lefel y maent yn teimlo sy'n briodol iddynt ar y pryd
    • Croesewch bobl ifainc, anogwch nhw i herio dulliau gweithio sydd eisoes yn bodoli; parchwch eu cyfraniadau
    • Sicrhewch fod cyfranogiad yn wirfoddol a bod angen iddynt fedru newid eu meddwl.
    • Dylid ymgorffori hyblygrwydd - ni fydd pobl ifainc yn gallu mynychu pob cyfarfod
    • Ystyriwch ysgogiadau neu daliadau ar gyfer rhai pobl ifainc sy'n cymryd rhan mewn cyd-gynhyrchu
  • Gwelodd rhai o'n partneriaethau fod rhoi pobl ifainc mewn rolau arweinyddiaeth di-dal yn golygu eu bod yn eithrio'r rhai na allent fforddio mynychu sesiynau. Mae rhai wedi cyflogi eu cyn-fuddiolwyr, neu eu cymryd ymlaen fel prentisiaethau er mwyn sicrhau y gallant gyfrannu at bob agwedd ar ddylunio a chyflwyno
  • Rhedir cyfarfodydd a darperir gwybodaeth ysgrifenedig mewn iaith glir, heb jargon ac mewn fformat y gellir ei ddeall yn hawdd sy'n addas i'r oedran
  • Gwnewch yn siŵr fod eich cynulleidfa darged o bobl ifainc yn deall sut y gallant elwa o gymryd rhan mewn cyd-gynhyrchu
  • Gwnewch yn siŵr fod staff, mudiadau partner a phobl ifainc yn gwybod beth sydd wedi newid o ganlyniad i'w cyfraniadau
  • Meddyliwch am sut i gywain barn pobl o gefndiroedd gwahanol a gyda phrofiadau gwahanol
Maent yn ein trin fel oedolion… Gwrandewir ar bopeth y mae'r bobl ifainc yn ei ddweud ac rydym yn derbyn cydnabyddiaeth dros y pethau rydym yn eu cyflawni
Cynrychiolydd prosiect, TalentMatch Nottingham

Awgrymiadau da

Ennyn diddordeb cyflogwyr

Ein ‘hawgrymiadau da’ ar ennyn diddordeb cyflogwyr

  • Ystyriwch gynnig portffolio o ddulliau gwahanol i gymryd rhan; o opsiynau ysgafn (e.e. helpu pobl ifainc gyda ffug gyfweliadau, ymweliadau gweithlu) i ddewisiadau sy'n ddwysach o ran amser ac ymdrech (e.e. darparu lleoliadau gwaith, prentisiaethau)
  • Galw ar gynlluniau sydd eisoes yn bodoli, fel Talent Match Mark i sicrhau nad yw cyflogwyr yn cael eu 'gorlethu' gyda gormod o raglenni cyflogadwyedd gwahanol
  • Byddwch yn rhagweithiol ac estynnwch allan i gyflogwyr yn eu milltir sgwâr eu hunain, peidiwch â disgwyl iddynt hwy ddod atoch chi
  • Dylid cydnabod, dathlu a 'rhannu' negeseuon am gyfraniad cyflogwyr
  • Byddwch yn broffesiynol a gwnewch gyfranogiad cyflogwyr mor hawdd â llyfn â phosib ar eu cyfer: ystyriwch benodi pwynt cyswllt sengl y gall cyflogwyr gyfathrebu â nhw
  • Ystyriwch gynnig rhywbeth yn gyfnewid am eu cyfranogiad i gyflogwyr
  • Hyfforddwch a datblygwch staff rheng flaen i ddeall anghenion cyflogwyr a chyfleoedd
  • Helpwch bobl ifainc i adeiladu eu gwybodaeth eu hunain am y gweithle a'r farchnad swyddi ehangach trwy gyfleoedd profiad gwaith lluosog
  • Dylid cynnwys cyflogwyr wrth ddylunio a datblygu gwasanaethau cefnogaeth gyflogaeth
Mae 63% o gyflogwyr ledled y wlad yn mynnu profiad blaenorol ar gyfer rolau lefel fynediad