Rhagnodi Cymdeithasol

Yr hyn rydym wedi ei ddysgu

Yr hyn rydym wedi ei ddysgu

Mae gan ragnodi cymdeithasol y potensial i fod o fudd i unigolion, y Sector Gwirfoddol a Chymunedol a’r system iechyd drwy wneud gwell ddefnydd o adnoddau a rhoi rheolaeth well i bobl o’u lles eu hunain.

Mae’n llawer mwy na chyfeirio yn unig. Mae’n gweithio gyda’r claf fel unigolyn, wrth eu cefnogi a’u galluogi i oresgyn rhwystrau tuag at iechyd a budd a lles.

Mae elusennau a sefydliadau cymunedol yn chwarae rôl hanfodol mewn rhagnodi cymdeithasol. Mae grwpiau Sector Gwirfoddol a Chymunedol yn rhedeg nifer o’r gweithgareddau rhagnodol, a’n aml yn darparu swyddogaeth i’r gweithiwr cyswllt neu’r swyddogaeth “rhagnodi”. Mae rhagnodi cymdeithasol yn cynnig cyfleoedd i’r Sector Gwirfoddol a Chymunedol gyrraedd pobl newydd a hybu ffordd gyfannol o weithio. Ond mae hefyd yn cyflwyno her ar gyfer ariannu ac adnoddau drwy greu mwy o alw am wasanaethau.

Mae rôl y gweithiwr cyswllt yn rhan allweddol o ragnodi cymdeithasol. Ond, mae hefyd yn rôl heriol iawn. Mae’n gofyn am amryw o sgiliau, profiad a gwybodaeth leol. Mae ymarfer gweithiwr cyswllt da yn teilwra cymorth i anghenion yr unigolyn drwy ddod o hyd i’r hyn sy’n eu cymell a’u grymuso orau.

Er mwyn i ragnodi cymdeithasol ffynnu mae’n rhaid inni gefnogi rôl y gweithiwr cyswllt a’r ddarpariaeth o wasanaethau terfynol. Mae angen gweithgareddau ar weithwyr cyswllt i ragnodi, mae angen i gyfeirwyr ac unigolion fod yn hyderus bod gweithgareddau o safon ar gael, ac mae’n rhaid i sefydliadau Sector Gwirfoddol a Chymunedol allu diwallu â’r anghenion.

Rydym yn ymwybodol fod rhai â diffyg hyder mewn rhagnodi cymdeithasol fel opsiwn triniaeth hyfyw. Mae yna angen am dystiolaeth well i ddangos cryfder ac effaith y dull. Gallwn gefnogi rhagnodi cymdeithasol i gydnabod ei botensial, a chael effaith barhaol drwy wneud ymyriadau cymdeithasol yn fwy gweledol, darganfod ffyrdd o ddangos eu heffaith a sicrhau safon y gwasanaeth terfynol.

Ymarfer Rhagnodi Cymdeithasol

Ymarfer Rhagnodi Cymdeithasol

Sefydlu perthnasau da gyda Meddygon Teulu a chyfeirwyr eraill:

  • Byddwch yn flaenweithgar, ewch allan, a chymryd amser i feithrin perthnasau
  • Byddwch yn eglur gyda’ch partneriaid am yr hyn gall, ac na all eich gwasanaeth ei gynnig
  • Gwnewch y broses gyfeirio mor syml â phosibl. Drwy gydleoli gwasanaethau gydag arferion Meddygon Teulu, lleihau biwrocratiaeth a chysylltu gofal iechyd â systemau TG.
  • Rhannwch eich llwyddiannau a dangoswch y buddiannau i’r holl bartïon.

Gweithwyr cyswllt yw calon rhagnodi cymdeithasol – felly rydym angen edrych ar eu holau

Mae gweithwyr cyswllt angen gwybodaeth ddiweddar o’r hyn sydd ar gael gan y Sector Gwirfoddol a Chymunedol lleol, sut mae’n gweithio a’i gysylltiadau, yn ogystal â deall anghenion y gymuned. Mae’n rhaid iddynt fod yn effeithiol ar lefel un i un, a’n gallu gweithredu’n strategol â phartneriaid.

Edrychwch ar ôl gweithwyr cyswllt – darparwch:

  • Dâl sy’n adlewyrchu ysgiliau a’r profiad sydd ei angen
  • Gyfleoedd i adlewyrchu ar eu gwaith

Gefnogaeth gan gymheiriaid neu oruchwyliaeth ffurfiol

Mae gennym dîm cefnogol iawn , felly os oes achos lle rydym yn gadael ymweliad gan feddwl ‘Waw, roedd hynny’n anodd iawn’, gallwn fynd i siarad â nhw...
Gweithiwr cyswllt o brosiect Brightlife

Mae pobl yn fwy na chleifion yn unig

Gall y ffordd mae gweithiwr cyswllt yn gweithio â rhywun fod yr un mor bwysig â’r gweithgareddau maent yn eu cyfeirio atynt. Symudwch i ffwrdd o berthynas cleient/gweithiwr traddodiadol i bartneriaeth fwy cyfartal i gyd-gynhyrchu rhagnodi cymdeithasol.

Cymerwch agwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn drwy:

  • Gwneud pobl deimlo’n groesawgar a diogel
  • Meithrin perthnasau a chysylltiadau – Gwrando, cymryd diddordeb yn yr unigolyn a’u sefyllfa.
  • Cydweithio i greu opsiynau sy’n cefnogi annibyniaeth, nid dibyniaeth.
  • Adnabod rhwystrau a chydweithio i’w goroesi.
  • Darganfod y gweithgaredd neu wasanaeth sy’n eich gweddu’r person orau.
Fe helpodd [gweithiwr cyswllt] mi sylweddoli os ydwyf yn cymryd pethau mewn camau bach.. gallaf wneud mwy i fi fy hun nag oeddwn wedi ei sylweddoli’n wreiddiol. Rwyf bellach yn teimlo’n fwy brwdfrydig a galluog nag o’r blaen...
Buddiolwr Bristol Ageing Better

Sut gallwn wneud rhagnodi cymdeithasol weithio i ofal iechyd yn ogystal â systemau Sector Gwirfoddol a Chymunedol?

Sut gallwn wneud rhagnodi cymdeithasol weithio i ofal iechyd yn ogystal â systemau Sector Gwirfoddol a Chymunedol?

Talwch am yr holl wasanaeth, nid rhannau o’r broses yn unig. Mae’n hanfodol fod y gwasanaethau a gweithgareddau a argymhellir i gleifion hefyd yn cael eu hariannu’n ddigonol ac yn gynaliadwy.

Dangoswch yr hyn sy’n bosibl gyda rhagnodi cymdeithasol, a byddwch yn fwriadol wrth ychwanegu i’r sail dystiolaeth. Drwy ddangos sut mae rhagnodi cymdeithasol yn atal salwch ac yn hybu budd a lles, gallwn ennill hygrededd a chefnogaeth.

Mae ein deiliaid grant yn helpu i gyfleu’r manteision drwy:

  • Weithio gydag amryw o sefydliadau Sector Gwirfoddol a Chymunedol i ddatblygu fframwaith canlyniadau eang - University of Westminster a’r Rhwydwaith Rhagnodi Cymdeithasol
  • Fesur a thracio canlyniadau unigol - Ways to Wellness a Fforwm Iechyd Bogside and Brandywell
  • Datblygu sicrwydd o ansawdd ar gyfer rhagnodi cymdeithasol sy’n nodi safonau i weithwyr cyswllt a grwpiau sy’n darparu gweithgareddau/gwasanaethau - The Conservation Volunteers.

Mae adeiladu ffydd a dealltwriaeth rhwng y Sector Gwirfoddol a Chymunedol a’r Grwpiau Comisiynu Clinigol a phartneriaethau strategol eraill yn hanfodol. Mae rhagnodi cymdeithasol yn gweithio orau pan fo sefydliadau yn fodlon i weithio hefo ei gilydd tuag at nodau a rennir ac i rannu dysgu, a phan nad yw ariannu yn creu cymhellion gwrthnysig a chystadleuaeth.

Fe dderbyniodd Ways to Wellness dros 4,500 o gyfeiriadau ac fe gefnogon nhw 3,400 o gleifion mewn tair blynedd. Mae bron i 2,000 o gleifion wedi eu hasesu, gyda gwelliant cyfartalog mewn budd a lles o 3.3 pwynt yn erbyn targed o 1.5 ar astudiaeth achos.
Wellbeing Star- GO Lab