
Gweithio mewn Partneriaeth: Gwersi o’r Drydydd Sector yng Nghymru
Uchafbwyntiau ymchwil
Manteision
Mae manteision gweithio gyda'n gilydd yn hysbys yn y sector. Yn ôl yr ymchwil ddiweddar, mae tua 3 o bob 4 sefydliad yn cydnabod manteision gweithio mewn partneriaeth. Mae'r rhain yn cynnwys:
· Gwell cyrhaeddiad mewn cymunedau - Trwy weithio ar y cyd, gall sefydliadau gynyddu nifer y buddiolwyr y maent yn darparu'r gwasanaeth a'r gefnogaeth iddynt.
· Cymorth a gwasanaethau integredig a chyfunol - Mae cyfuno gwasanaethau gyda'i gilydd yn caniatáu i sefydliadau weithio'n fwy effeithlon ac effeithiol, yn ogystal â lleihau'r risg o ddyblygu.
· Sefydlu perthnasoedd parhaus, rhannu gwybodaeth, ac atgyfeiriadau - Mae adeiladu perthnasoedd a rhwydweithiau gyda sefydliadau eraill yn agor y drws ar gyfer cyfleoedd a gwaith cydweithredol yn y dyfodol.
· Gellir rhannu sgiliau, arbenigedd ac adnoddau - Caniatáu i sefydliadau ddysgu oddi wrth eraill a gall arwain at gyfleoedd nad oeddent yn ymwybodol ohonynt.
· Hyrwyddo cyflawni strategol - Creu gwasanaeth sy'n gwneud y mwyaf o alluoedd yr holl bartneriaid, sy’n wybodus am faterion ariannol, ac yn darparu canlyniad gwell i fuddiolwyr.
· Cefnogi dysgu a datblygiad gwell - Gall rhannu arbenigedd a phrofiadau helpu sefydliadau i ddysgu a thyfu trwy rannu arfer gorau.
Heriau
Er bod llawer o bethau cadarnhaol i weithio mewn partneriaeth, mae hefyd yn dod â'i heriau. I ymatebwyr yr arolwg, mae'n ymddangos mai capasiti ac amser yw'r ddwy her fwyaf. Fe wnaethant nodi cymhlethdod, gwrthdaro, risg ac ymddiriedaeth fel heriau pellach.
Gwersi allweddol i'r Gronfa
Cafodd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr (83%) a weithiodd ar brosiect partneriaeth a gefnogir gan y Gronfa brofiad cadarnhaol, ond dim ond 45% oedd yn teimlo bod y Gronfa yn darparu disgwyliadau clir ar weithio mewn partneriaeth, gan dynnu sylw at le i wella. Gwnaeth yr ymchwil sawl argymhelliad:
· Canllawiau a hyfforddiant – Dylai'r Gronfa archwilio ei gallu i ddarparu mwy o gymorth i sefydliadau ynghylch datblygu a chyflawni partneriaethau effeithiol. Gallai hyn gynnwys canllawiau ar sgiliau a meithrin gallu, canllawiau bras ar gyfer disgwyliadau maint partneriaeth, a chyngor ar gynnal ymddiriedaeth a pherthnasoedd.
· Partneriaethau o fewn Rhaglenni Ariannu – Ar gyfer sefydliadau, mae hyd y rhaglenni ariannu a lefel y grant sydd ar gael yn dylanwadu ar a yw dull partneriaeth yn briodol ac yn 'werth y buddsoddiad'.
· Ariannu ar gyfer Partneriaethau – Mae grant datblygu yn helpu sefydliadau i drafod y gofynion ychwanegol o ddatblygu ceisiadau partneriaeth cymhleth – yn enwedig ar gyfer sefydliadau llai.
· Dealltwriaeth – Dylai'r Gronfa gydnabod bod gweithio mewn partneriaeth yn ychwanegu cymhlethdod, heriau a chost. A gallai ddarparu lle ar gyfer mwy o ddysgu ar arfer gorau a dulliau arloesol.
Camau Nesaf
Mae'r Gronfa yn rhannu canfyddiadau'r ymchwil hon gyda chynulleidfaoedd allanol trwy'r adroddiad cryno hwn a chyfres o flogiau, digwyddiadau rhithiol, ac ymgyrch cyfryngau cymdeithasol i ysgogi sgwrs ehangach gyda'r trydydd sector, arianwyr
eraill a chyrff cyhoeddus. Bydd y Gronfa yn ystyried y canfyddiadau wrth ddatblygu rhaglenni yn y dyfodol.