O gymdogion i gymdogaeth: dysgu sut i hybu balchder dros lefydd

Mewnwelediadau a dysgu

Mewn blwyddyn arferol mae 42% o’n deiliaid grant yn dweud wrthym fod gan bobl mwy o falchder lleol ac ymdeimlad o berthyn oherwydd y gwasanaethau neu’r gweithgareddau yr ydym yn eu cefnogi i gynnal

Yn seiliedig ar dystiolaeth a dysgu gan ein deiliaid grant ac amrywiaeth o ffynonellau allanol, mae ein hawgrymiadau ar sut i gynyddu balchder lleol yn cynnwys:

  • Grymuso pawb: Y tu hwnt i gael eu hymgynghori’n unig, mae angen rhoi’r cyfle i bobl leisio’u barn am benderfyniadau lleol a sut mae cyllid yn cael ei neilltuo. Mae hyn yn cynnwys y rhai hynny nad yw eu lleisiau fel arfer yn cael eu clywed neu sy’n teimlo wedi’u heithrio. Gall tîm allgymorth amrywiol helpu amrywiaeth ehangach o bobl i deimlo’n ddigon hyderus i godi llais.
  • Gwella amwynderau: Mae perchnogaeth gymunedol o amwynderau allweddol, fel bwyd a thrafnidiaeth, yn gallu llenwi bwlch darpariaeth leol annigonol. Lle na all perchnogaeth gymunedol gyrraedd y raddfa sydd ei hangen ar gyfer anghenion lleol, mae’n dal i allu helpu adeiladu tystiolaeth ar gyfer gwasanaethau gwell.
  • Gwella’r amgylchedd: Mae angen ‘mannau cyfarfod anffurfiol’ ar gymdogaethau, lle mae pobl yn cyfarfod ar hap ac yn rhyngweithio’n naturiol i ddod i adnabod ei gilydd yn well. Os yw’r mannau hyn yn ddeniadol ac yn groesawgar, mae gwell cyfle ganddynt i gryfhau cysylltiadau cymdeithasol.
  • Gwerthfawrogi lleoliadau: Pan fydd lleoliadau cymunedol yn cael eu rheoli gan y gymuned, yn naturiol maen nhw’n troi i fod yn hybiau sy’n ymateb yn gyflym i anghenion lleol. Mae’r gweithgareddau a gynigir ganddynt yn gallu bod yn rhaff achub gymdeithasol, ac yn helpu pobl i gydnabod ei gilydd fel ffrindiau a chymdogion yn hytrach na dieithriaid.
  • Darparu cyfranogiad: Mae cyfleoedd gwirfoddoli’n helpu pobl i ymgysylltu’n weithredol, ond mae’n bwysig i ddarparu amrywiaeth o rolau a phwyntiau mynediad. Mae cysylltu cyfleoedd â dathliadau lleol a chenedlaethol yn gallu bod yn ffordd dda o ymgysylltu â phobl newydd.
  • Gwella’r stryd fawr: Wrth i fasnach ddirywio, mae cyfle i amrywio’r stryd fawr, gan gynnig cymysgedd o fusnesau cymunedol, gwasanaethau lleol, tai, mannau creadigol, llefydd cyfarfod a masnach draddodiadol. Gall hyn helpu cymunedau deimlo perchnogaeth dros eu trefi.
  • Caffael treftadaeth: Gall ymgysylltu â hanes lleol helpu pobl adeiladu ymdeimlad o hunaniaeth gyffredin trwy ddysgu rhagor am eu gorffennol. Mae adeiladau treftadaeth yn cynnig ffordd o wneud hyn, yn enwedig pan fyddant yn cael eu defnyddio fel lleoliadau cymunedol sy’n croesawu pawb.
  • Cysylltu trwy ddiwylliant: Mae digwyddiadau diwylliannol yn dod â phobl ynghyd ac yn rhoi ffordd iddyn nhw fynegi eu hunain i’w gilydd. Mae hyn yn cryfhau cysylltiadau cymunedol, yn enwedig pan fydd digwyddiadau’n helpu pobl i gysylltu dros y llinellau rhannu a grëwyd gan deimladau anymwybodol o berchnogaeth a phriodoldeb mewn mannau diwylliannol.