Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Caru'n Cynefin

IKEA Limited a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Mae IKEA Limited yn gweithio gyda Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar y rhaglen Caru'n Cynefin sy'n ceisio ysbrydoli a galluogi cymunedau i fuddsoddi yn eu cymuned leol fel estyniad i'w cartref. 

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio eich hawliau ac yn rhoi'r wybodaeth y mae gennych hawl iddi o dan GDPR y DU (fel y'i diffinnir yn adran 3(10) ac a ategir gan adran 205(4)) o Ddeddf Diogelu Data 2018), Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU ("y Ddeddfwriaeth Diogelu Data").

Sylwch fod yr hysbysiad preifatrwydd hwn ond yn cyfeirio at eich data personol yr ydym yn ei brosesu (er enghraifft, manylion unigolion yn eich sefydliad - enw, dyddiad geni, cyfeiriad cartref, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn).

Pwy sy'n rheoli'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu?

Arweinir Caru’n Cynefin gan IKEA Limited a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Mae'r ddau sefydliad yn rheoli ar y cyd y rhesymau dros gasglu eich data personol a sut mae’n cael ei brosesu at ddibenion y rhaglen grantiau Caru'n Cynefin.

Mae IKEA Limited a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cytuno y bydd y ddau ohonynt yn cymryd y cyfrifoldeb arweiniol am gydymffurfio â chyfreithiau diogelu data'r rhannau o'r prosesu maen nhw’n ymgymryd â nhw.

Cyhoeddir yr hysbysiad preifatrwydd hwn ar y cyd ar ran IKEA Limited a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Pam rydym yn casglu ac yn prosesu eich data personol?

Yn ystod y cam ymgeisio, y data personol rydym yn ei brosesu yw manylion unigolyn sy'n gyfreithiol gyfrifol yn eich sefydliad (enw, dyddiad geni, cyfeiriad cartref, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn). Bydd hyn yn cael ei brosesu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gynnal gwiriadau sefydliadol at ddibenion rhoi grantiau. Byddwn hefyd yn cadw manylion cyswllt (enw, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost) unigolyn yn eich sefydliad i gadw mewn cysylltiad yn ystod y rhaglen.

Bydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn defnyddio’r holl ddata a gesglir yn ystod y cam ymgeisio at ddibenion rhedeg y rhaglen hon a chaiff ei chadw at ddibenion goruchwylio, archwilio ac atal twyll a sicrhau bod yr arian wedi'i wario yn unol â rheoliadau a dibenion y rhaglen.

Efallai y bydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn defnyddio gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd amdanoch i gynnal gwiriadau cefndir at ddibenion asesu unrhyw risgiau i arian cyhoeddus wrth roi grant i'ch sefydliad.

Bydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn rhannu manylion cyswllt ag IKEA Limited at ddibenion IKEA Limited i wneud gwaith gwerthuso ar ran Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac IKEA Limited i asesu llwyddiant neu fethiant y prosiectau a'r rhaglen.

Bydd IKEA Limited yn rhannu manylion cyswllt â Participatory City (rhif cofrestru: 1175174) a Phrifysgol Middlesex (rhif cofrestru: XN92247) er mwyn darparu rhaglen gymorth rithiol i'r rhai sy'n ymwneud â'r rhaglen.

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn prosesu eich data personol gan ei bod yn angenrheidiol ar gyfer tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd.

Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich data personol?

Mae IKEA Limited a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cadw'r data personol a amlinellir uchod ar gronfeydd data unigol. Bydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gallu cael mynediad i'ch cyfeiriad e-bost i'w galluogi i gyfathrebu â chi ynglŷn â chynnydd y prosiect ac unrhyw wybodaeth berthnasol.

Efallai y byddwn yn rhannu eich data personol gyda sefydliadau sy'n ein helpu i redeg y rhaglen hon drwy gynnal gwiriadau sefydliadol a gwiriadau ar gyfer diwydrwydd dyladwy. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn rhannu data gydag IKEA Limited at ddibenion gwerthuso'r rhaglen hon. Byddwn ond yn rhannu data personol maen nhw ei angen i wneud eu gwaith ac yn amodol ar fesurau diogelwch priodol.

Bydd y data personol y bydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ei gasglu gennych chi’n cael ei rhannu ag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei ddefnyddio i atal twyll ac arian rhag gwyngalchu arian ac i ddilysu eich hunaniaeth. Os bydd twyll yn cael ei ganfod, gellid gwrthod rhai gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth.

Mae rhagor o fanylion am sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a'r asiantaethau atal twyll hyn, a'ch hawliau diogelu data, ar gael drwy e-bostio data.protection@tnlcommunityfund.org.uk.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Bydd eich data personol yn cael ei gadw am saith mlynedd os byddwch yn llwyddo i dderbyn grant gan y rhaglen hon. Caiff ei ddileu erbyn mis Mehefin 2028. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, bydd eich data'n cael ei gadw am ddwy flynedd.

Eich hawliau

Eich data personol chi yw'r data rydym yn ei gasglu, ac mae gennych hawl i’r canlynol:

  • gweld pa ddata sydd gennym amdanoch
  • gofyn i ni roi'r gorau i ddefnyddio eich data ond ei gadw ar ffeil
  • gofyn i ni roi'r gorau i ddefnyddio a dileu eich data mewn rhai amgylchiadau
  • cywiro'r cyfan neu rywfaint o'ch data
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth annibynnol os credwch nad ydym yn ymdrin â'ch data yn deg neu'n unol â'r gyfraith.

Cyswllt

Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy:

Os oes gennych unrhyw bryderon neu os hoffech arfer yr hawliau a amlinellir yma mewn perthynas â'r data personol y mae IKEA Limited yn ei brosesu, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data IKEA Limited ar dataprotection.officer.gb@ingka.ikea.com.

Neu am ddata personol mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn prosesu, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data ar gdpr.mailbox@tnlcommunityfund.org.uk.

Cywirdeb

Mae IKEA Limited a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cymryd pob cam rhesymol i gadw data personol yn ei feddiant neu ei reolaeth, a ddefnyddir yn barhaus:

  • yn gywir
  • yn gyflawn
  • yn gyfredol
  • yn berthnasol

yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael i ni. Os cawn wybod am newid mewn gwybodaeth, byddwn yn diweddaru'r data yn unol â hynny.

Rydym yn dibynnu arnoch i roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch data personol.

Ni fydd eich data personol yn cael ei anfon dramor ac ni fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomataidd.

Diogelwch gwybodaeth bersonol

Rydym wedi ymrwymo i gymryd pob cam rhesymol a phriodol i ddiogelu'r wybodaeth bersonol a gasglwn gennych chi rhag defnydd neu ddatgeliad amhriodol, mynediad heb awdurdod, addasu heb awdurdod, a dinistrio anghyfreithlon neu golli damweiniol.

Rydym wedi cymryd - a byddwn yn cymryd - mesurau diogelwch gwybodaeth, technegol, storio a threfniadol priodol i'r perwyl hwnnw, gan gynnwys mesurau i ddelio ag unrhyw achosion tybiedig o dorri data. Mae'n ofynnol i bob darparwr sy'n gysylltiedig â phrosesu eich gwybodaeth barchu cyfrinachedd eich data personol.