Arweinwyr â Phrofiad o Lygad y Ffynnon 2020 - amodau a thelerau

Arweinwyr â Phrofiad o Lygad y Ffynnon 2020 - amodau a thelerau

Yn yr amodau a thelerau hyn, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cael ei gyfeirio fel 'ni' ac mae'r mudiad a dderbynnir grant yn cael ei gyfeirio fel 'chi'. Rydym yn cyfeirio at y prosiect, digwyddiad neu weithgaredd a ddisgrifir yn eich cais, neu fel y cytunir fel arall gyda ni fel 'y prosiect'.

1. Trwy dderbyn y grant hwn, rydych yn cytuno i:

1.1. ddal y grant ar ymddiriedaeth i ni a'i ddefnyddio i'ch prosiect chi'n unig

1.2. defnyddio'r grant dim ond ar gyfer costau ar ôl dyddiad y llythyr cynnig eich grant a dim ond yn ystod cyfnod y prosiect fel y cytunir gyda ni;

1.3. dechrau ar eich prosiect a thynnu rhandaliad cyntaf y grant i lawr o fewn chwe mis ar ôl llofnodi'r llythyr cynnig grant, oni cytunir fel arall gyda ni;

1.4. darparu unrhyw wybodaeth ac adroddiadau y mae eu hangen arnom ni ynglŷn â'r prosiect a'i effaith, yn ystod ac ar ôl diwedd y prosiect yn brydlon;

1.5. gweithio gydag unrhyw drydydd parti y gallwn gontractio ag ef neu ei benodi er budd y prosiect a/neu'r rhaglen ariannu hon;

1.6. cael caniatâd gennym ni cyn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i'ch prosiect neu i statws, perchnogaeth neu gyfansoddiad eich mudiad;

1.7. hysbysu ni'n brydlon am unrhyw faterion sylweddol neu oedi gyda'ch prosiect neu unrhyw hawl gyfreithiol ac/neu ymchwiliad a wnaed neu a fygythiwyd yn eich erbyn chi, unrhyw aelod o'ch corff llywodraethu, neu unrhyw fudiad, cyflogai neu wirfoddolwr sy'n gweithio ar y prosiect;

1.8. gweithredu'n gyfreithiol wrth gyflawni'ch prosiect, yn unol ag arfer gorau ac arweiniad gan eich rheoleiddiwyr, a dilyn unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gennym ni mewn perthynas â'r rhaglen neu ddefnyddio'r grant;

1.9. datblygu cyfle cyfartal yn unol â'r gyfraith a'r canllawiau a gyhoeddir gennym ni;

1.10. os yw'r grant ar gyfer cyflog swydd newydd, hysbysebwch y swydd yn allanol oni cytunir fel arall gyda ni, a chynhaliwch broses deg a thryloyw yn unol â'r gyfraith ac unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gennym ni;

1.11. cydnabod arian gan y Loteri Genedlaethol gan ddefnyddio ein logo yn unol â'r canllawiau perthnasol ar gyfer cydnabod eich grant, y gallwch ddod o hyd iddynt ar ein gwefan;

1.12. cadw'r grant mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu Deyrnas Unedig sy'n bodloni ein gofynion fel a ddisgrifir yn y canllawiau ac yn mynnu bod o leiaf dau unigolyn nad oes unrhyw gyswllt rhyngddynt yn cymeradwyo pob trafodiad a didyniad;

1.13. trin y grant fel cronfeydd cyfyngedig yn eich cyfrifon blynyddol gan ddefnyddio'r cyfeirnod "Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol" ac enw'r rhaglen ac, os gofynnir amdano gennym ni, agor cyfrif banc dynodedig ar wahân at ddiben derbyn a gweinyddu'r grant yn unig;

1.14. dychwelyd unrhyw ran o'r grant na chaiff ei defnyddio ar gyfer eich prosiect neu ei wario erbyn diwedd y prosiect fel y cytunir gyda ni;

1.15. lle mae eich prosiect yn cynnwys gweithio gyda phlant, neu oedolion sydd dan risg, cydymffurfiwch â'n Canllawiau i Ddeiliaid Grant ar Ddiogelu'r Bobl Agored i Niwed yr ydym yn eu Cefnogi, sydd ar gael ar ein gwefan, a chynnal gwiriadau cefndir ar gyfer yr holl weithwyr, gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr neu gontractwyr fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith ac arweiniad arfer da gan eich rheolydd (rheolydd).

1.16. bod â pholisi a gweithdrefn(au) datgelu camarfer ysgrifenedig priodol ar waith, sicrhau bod y polisi a/neu'r gweithdrefnau'n cael cyhoeddusrwydd yn fewnol a sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddi ar ei egwyddorion a'i weithrediad, yn adolygu ac yn diweddaru eich polisi a'ch gweithdrefnau datgelu camarfer o leiaf bob dwy flynedd;

1.17. cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol a, lle bo hynny'n briodol, byddwch yn sicrhau caniatâd eich buddiolwyr i'n galluogi i dderbyn a phrosesu eu data personol ac i ni gysylltu â nhw;

1.18. cadw cofnodion cywir a chynhwysfawr o'ch prosiect yn ystod y prosiect ac am saith mlynedd wedyn ac, ar gais, darparu copïau i ni o'r cofnodion hynny a thystiolaeth o wario'r grant megis derbynebau a chyfriflenni banc gwreiddiol;

1.19. caniatáu mynediad rhesymol ar ein cyfer ni a/neu'r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol i'ch adeiladau a systemau perthnasol i archwilio cofnodion y prosiect a'r grant;

1.20. ni gyhoeddi a rhannu gwybodaeth amdanoch chi a'ch prosiect gan gynnwys eich enw a delweddau o weithgareddau prosiect. Trwy hyn rydych yn rhoi trwydded rhydd rhag breindaliadau i ni atgynhyrchu a chyhoeddi unrhyw wybodaeth brosiect a roddwch i ni. Byddwch yn ein hysbysu pan fyddwch yn darparu'r wybodaeth os nad oes gennych ganiatâd iddi gael ei defnyddio at y dibenion hyn; ac

1.21. os yw eich prosiect i'w gyflwyno yng Nghymru, galluogi pobl i gymryd rhan yn Gymraeg a Saesneg, gan drin y ddwy iaith yn gyfartal. Mae'n rhaid i siaradwyr Cymraeg fedru cyrchu gwybodaeth a gwasanaethau yn Gymraeg ac mae'n rhaid creu pob deunydd yn ddwyieithog.

2. Os defnyddir unrhyw ran o'r grant i brynu nwyddau neu wasanaethau, neu i brynu neu ddatblygu eiddo deallusol, sy’n costio dros £10,000, byddwch yn:

2.1. cyflawni tendr cystadleuol i’r nwyddau a/neu wasanaethau a chydymffurfio â rheolau caffael y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd os ydynt yn berthnasol i chi;

2.2. defnyddio asedau a brynwyd neu a wellwyd gan ddefnyddio'r grant dim ond ar gyfer y prosiect a'u cadw'n ddiogel, mewn cyflwr da ac wedi eu hyswirio'n ddigonol i fywyd y prosiect ac unrhyw gyfnod dilynol o fonitro asedau a nodwyd yn y canllawiau perthnasol;

2.3. diogelu unrhyw hawliau eiddo deallusol a brynwyd neu a ddatblygwyd gan ddefnyddio'r grant a pheidio ag ecsbloetio'r hawliau hyn yn fasnachol heb gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni ymlaen llaw; a

2.4. chael caniatâd ysgrifenedig gennym cyn gwaredu unrhyw asedau a brynwyd, ddatblygwyd neu a wellwyd gan ddefnyddio'r grant ac os bydd angen, talu cyfran o'r elw o'r cyfryw warediad i ni.

3. Rydych yn cydnabod bod gennym ni'r hawl i atal neu derfynu'r grant a/neu fynnu eich bod yn ad-dalu'r grant cyfan neu ran ohono a/neu osod amodau ychwanegol arnoch yn y sefyllfaoedd a ganlyn. Mae'n rhaid i chi ein hysbysu os yw unrhyw un o'r sefyllfaoedd hyn wedi digwydd neu'n debygol o ddigwydd.

3.1. Rydych yn defnyddio'r grant mewn unrhyw ffordd heblaw am yr hyn a gymeradwyir gennym ni neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r amodau a thelerau hyn, neu unrhyw amodau ychwanegol a ddisgrifir yn ein cynnig grant i chi.

3.2. Rydych yn methu â gwneud cynnydd da gyda'ch prosiect neu rydych yn annhebygol, yn ein barn ni, o gwblhau'r prosiect neu gyflawni'r effaith y cytunwyd arnynt gyda ni.

3.3. Mae arian cyfatebol sydd gennych ar gyfer y prosiect yn cael ei ddileu neu os byddwch yn derbyn cyllid dyblyg ar gyfer yr un costau prosiect a ariennir gan y grant.

3.4. Rydych yn darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, naill ai ar adeg y cais neu ar ôl dyfarnu'r grant, gweithredu'n anonest, neu os ydych chi neu unrhyw un arall sy'n ymwneud â'r prosiect yn destun ymchwiliad gennym ni, gan gorff rheoleiddio neu'r heddlu.

3.5. Rydych yn gwneud neu'n methu â gwneud unrhyw beth sy'n difenwi ni neu'r Loteri Genedlaethol neu yr ydym ni'n ystyried ei fod yn peryglu arian cyhoeddus am unrhyw reswm, neu rydym yn terfynu neu'n atal unrhyw grant arall rydym wedi'i roi i chi.

3.6. Rydych yn mynd, neu os yn ein barn ni rydych yn debygol o fynd, i ddwylo'r gweinyddwyr, datodiad, derbynyddiad, diddymiad neu, yn Yr Alban, os caiff ystâd eich mudiad ei secwestru.

4. Rydych yn cydnabod y canlynol:

4.1. trwy dderbyn y grant hwn:

  • 4.1.1. rydych yn cadarnhau bod y wybodaeth yn eich cais wedi'i awdurdodi gan gorff llywodraethu eich mudiad;
  • 4.1.2. bod eich mudiad yn gallu darparu'r prosiect a ddisgrifir yn eich cais; a
  • 4.1.3. nid yw'r grant yn ystyriaeth ar gyfer unrhyw gyflenwad trethadwy at ddibenion TAW;

4.2. bod y grant i'ch defnydd chi'n unig a ni allwch drosglwyddo neu rannu'r grant (nag unrhyw ran ohono) i unrhyw un arall oni bai gymeradwywyd gennym ni. Os rydym yn cytuno i chi rannu neu drosglwyddo'r grant, chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod eich partneriaid a derbynyddion eraill o'r grant yn derbyn ac yn cydymffurfio gyda'r amodau a thelerau hyn ac yn dilyn unrhyw arweiniad a gyhoeddwyd gennym ni. Os nad ydynt yn llwyddo i wneud hynny, gallwn arfer ein hawliau yng nghymal 3, sy'n cynnwys terfynu'r grant a gofyn am ad-daliad. Mae'n rhaid i chi ymrwymo i gytundeb cyfreithiol rwymol gydag unrhyw un rydych yn rhannu'r grant â nhw a darparu copi i ni ar gais;

4.3. os defnyddir unrhyw ran o'r grant i brynu neu adeiladu, adnewyddu, estyn neu newid adeiladau neu dir, neu i brynu neu ehangu cerbydau neu offer, mae'n rhaid i chi gydymffurfio â'n hamodau grant cyfalaf ychwanegol ni;

4.4. ni fyddwn yn cynyddu'r grant os byddwch yn gwario mwy na'r gyllideb gytunedig ar eich prosiect a gallwn warantu'r grant dim ond cyhyd â bydd y Loteri Genedlaethol yn parhau i weithredu a'n bod ni'n derbyn digon o gyllid ganddo;

4.5. mae'r grant yn dod o arian cyhoeddus a ni fyddwch yn ei ddefnyddio mewn ffordd sy'n gyfystyr â chymorth gwladwriaethol anghyfreithlon. Os pennir bod y grant yn gymorth gwladwriaethol anghyfreithlon, byddwch yn ad-dalu'r swm cyfan ar unwaith. Os oes gennych bryderon am gymorth gwladwriaethol, byddwch yn ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol;

4.6. ni fyddwn yn atebol am unrhyw gostau neu ddeilliannau a geir gennych chi neu drydydd partïon sy'n deillio naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o'r prosiect, neu o fethu â thalu neu ddiddymu'r grant, ac eithrio i'r graddau a ganiateir gan y gyfraith; a

4.7. Bydd yr Amodau a Thelerau hyn yn parhau i fod yn berthnasol am (i) flwyddyn ar ôl talu'r rhandaliad grant olaf; neu (ii) hyd nes bod y prosiect wedi'i gwblhau; neu (iii) am gyhyd ag yr erys arian grant heb ei wario; p'un bynnag yw'r hiraf. Bydd cymalau 1.3, 1.4, 1.11, 1.14, 1.19, 1.20, 1.21, 2.3, 2.4, 4.5 a 4.6 yn parhau ar ôl i'r Amodau a Thelerau hyn ddod i ben.