Lawrlwytho logo Caru'n Cynefin

Rhannu eich stori

Mae IKEA Limited a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dod at ei gilydd i gefnogi cymunedau ffyniannus, gwydn a chynaliadwy ledled y DU. Mae Caru’n Cynefin yn archwilio'r syniad y gall cymunedau fod yr un mor bwysig i ni â'n cartrefi. Nod y rhaglen yw ysbrydoli a helpu pobl i gymryd mwy o ran yn eu cymuned leol fel lle cadarnhaol a chartrefol i fod ac I gwrdd â phobl eraill.

Gall rhannu newyddion am eich prosiect gyda'ch cymuned fod yn ffordd wych o sicrhau eu bod nhw’n cymryd rhan ac yn ymgysylltu. Os oes gennych stori ysbrydoledig neu enghraifft o sut mae'r grant hwn wedi gwneud gwahaniaeth i chi a'ch cymuned, cysylltwch â ni drwy cyfathrebu.cymru@cronfagymunedolylg.org.uk.

Rhowch wybod i bobl am eich grant a'r gwaith anhygoel rydych chi'n ei wneud yn eich cymuned.

Gallwch ledaenu'r gair ar gyfryngau cymdeithasol, ac rydym yn gofyn i chi ddefnyddio #LoteriGenedlaethol a'r tagiau canlynol wrth wneud cyhoeddiadau, rhannu sylw yn y wasg neu rannu straeon:

Twitter

  • @IKEAUK
  • @TNLCommunityFund

Facebook

  • @IKEAUK
  • @TNLCommunityFund

Lawrlwytho logo Caru'n Cynefin

Defnyddiwch y logo hwn ar bob deunydd sy'n wynebu'r cyhoedd (er enghraifft, datganiad i'r wasg). Gellir lawrlwytho hwn drwy glicio ar y ddolen berthnasol:

Lawrlwytho logo yn Saesneg

Lawrlwytho logo yn Gymraeg

Gofynion maint lleiaf

Bydd angen i chi fodloni ein gofynion maint gofynnol p'un a ydych yn defnyddio'r logo ar-lein neu mewn fformat printiedig:

  • argraffedig ydy 44mm o led x 14mm o uchder
  • sgrin ydy 125px o led x 40px o uchder.

Defnyddiwch y logo a gyflenwir drwy sianeli swyddogol bob amser a pheidiwch byth â’i addasu na'i ail-greu.

Angen help i rannu eich stori?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am roi cyhoeddusrwydd i'ch grant, anfonwch e-bost atom yn branding@tnlcommunityfund.org.uk.