Yr hyn rydym eisiau ei ariannu
Rhaid i brosiectau helpu plant a'u gofalwyr i gysylltu â'r amgylchedd naturiol
Er enghraifft, gallech chi:
- greu lle awyr agored i blant a'u gofalwyr chwarae a rhyngweithio â'r amgylchedd naturiol
- cynnal gweithdai dan do am sut i dyfu eich blodau, ffrwythau neu lysiau eich hun
- cynnal gweithgareddau synhwyraidd sy'n helpu plant a gofalwyr i feithrin cysylltiadau â natur
Rydym yn agored i ddysgu gan brosiectau eraill sydd eisoes yn helpu pobl i wneud hyn. Dyma rai enghreifftiau a allai helpu i ysbrydoli eich prosiect chi:
Dylai eich prosiect gael ei ddylunio gyda'r bobl rydych chi'n eu cefnogi
Dylech chi:
- eu cynnwys yn y ffordd y caiff ei ddatblygu, ei gyflawni a'i arwain
- gwneud defnydd o'u sgiliau a'u diddordebau presennol
- ategu’r gwasanaethau presennol maen nhw'n eu defnyddio a chreu cysylltiadau â nhw
- llenwi unrhyw fylchau mewn gwasanaethau lleol
Dylai prosiectau gefnogi pobl sy'n profi tlodi, anfantais neu wahaniaethu
Rydym am ariannu cymunedau sy’n agored i niwed neu gymunedau sydd wedi'u heithrio. Yn enwedig y bobl sy'n ei chael hi anoddaf cael mynediad at gymorth. Felly byddwn yn disgwyl i chi ddangos i ni sut y byddwch yn cyrraedd y bobl hyn.
Gallwch chi ddefnyddio ystadegau i’ch helpu i ddangos i ni gyda phwy rydych chi'n gweithio. Ond yn bwysicaf oll mae dweud wrthym am y cyd-destun lleol. Dywedwch wrthym am eich gwybodaeth, eich profiad a'ch ymgysylltiad â phobl sy'n wynebu'r heriau hynny.
Rhaid i chi werthuso eich prosiect
Byddwn yn disgwyl i chi gasglu gwybodaeth ddefnyddiol i lywio eich prosiect a rhannu eich dysgu.
Cefnogaeth i ddeiliaid grant Meithrin Natur
Bydd gennych gefnogaeth i’ch helpu i gyflawni eich prosiect. Rydym yn ariannu sefydliadau eraill i’ch helpu trwy ein cronfa, Cefnogaeth i ddeiliaid grant Meithrin Natur.
Gweithio gydag oedolion sy’n wynebu risg, plant a phobl ifanc
Mae angen i chi gael polisi ar waith sy'n egluro sut y byddant yn ddiogel. Os cewch grant bydd angen i chi ddilyn ein disgwyliadau ar ddiogelu.
Mae gan wefan yr NCVO wasanaethau cyngor a gwybodaeth am ddiogelu plant.
Cyflwyno eich prosiect yn y Gymraeg a’r Saesneg
Mae’n rhaid i brosiectau yng Nghymru fod yn ddwyieithog. Mae hyn yn golygu y dylai pobl allu ymgysylltu â’ch prosiect yn y Gymraeg a’r Saesneg.
I’ch helpu chi i wneud hyn, dylech:
- ddarllen ein canllawiau ar sut i reoli prosiectau dwyieithog (PDF, 128KB)
- darllen am ein safonau iaith Gymraeg
- ymgynghori â chymunedau Cymraeg wrth gynllunio eich prosiect
Gallwch gynnwys cost gwasanaethau dwyieithog yn eich cyllideb, er enghraifft cost cyfieithu deunyddiau hyrwyddo.
Am ragor o gefnogaeth, cysylltwch â thîm y Gymraeg ar: cymorthcymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk
Ystyried eich effaith amgylcheddol
Rydym am ariannu sefydliadau sy'n ystyried eu heffaith ar yr amgylchedd
Yn eich ffurflen gais, dywedwch wrthym sut bydd eich prosiect yn lleihau niwed i’r amgylchedd. Neu sut y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Gallai hyn gynnwys lleihau teithio, gwastraff neu ddefnydd o ynni.
Dylech chi: