Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Ar beth allwch chi wario’r arian arno

Gallwn ariannu

Gallwn ariannu costau prosiect uniongyrchol, fel:

  • offer
  • digwyddiadau untro
  • costau staff
  • hyfforddiant
  • cludiant
  • cyfleustodau
  • treuliau gwirfoddolwyr
  • costau cyfieithu
  • costau marchnata a chyfathrebu
  • costau gwerthuso
  • ffioedd proffesiynol a chyfreithiol
  • prosiectau tir bychan neu adnewyddu

Gallwn hefyd ariannu rhai costau prosiect anuniongyrchol (gelwir y rhain weithiau yn gostau cyffredinol). Gallai hyn gynnwys:

  • rhent neu yswiriant
  • rhan o gyflog rhywun and ydynt yn gweithio’n uniongyrchol ar y prosiect, fel uwch reolwr neu weithiwr gweinyddol

Er enghraifft, os yw’r prosiect rydych yn gwneud cais amdano yn gyfystyr a hanner gwaith eich sefydliad, efallai y byddwn yn ariannu hanner eich costau cyffredinol. Weithiau gelwir hyn yn adferiad cost llawn. Dysgwch sut i gyfrifo costau cyffredinol yn ein canllaw i adferiad cost llawn.

Costau cyfalaf

Gallwn hefyd ariannu rhai costau cyfalaf, ond ni fyddwn yn ariannu prosiectau sydd yn bennaf ar gyfer costau cyfalaf.

Gall hyn gynnwys prynu tir, adnewyddu mannau neu dirlunio i'ch helpu i gyflawni'r prosiect.

Er enghraifft, talu am dai gwydr neu lochesi bach eraill i gynnal gweithgareddau ynddynt.

Ariannu ar gyfer ar gyfer prosiectau tir neu adnewyddu

Os oes angen arian arnoch ar gyfer prosiectau tir neu adnewyddu, mae angen i chi naill ai:

  • fod yn berchen ar y tir neu'r adeilad,
  • bod â phrydles na ellir ei therfynu am bum mlynedd,
  • cael llythyr gan y perchennog yn dweud y bydd y tir neu'r adeilad yn cael ei brydlesu i chi am o leiaf bum mlynedd, neu
  • cael llythyr swyddogol gan y perchennog neu'r landlord sy'n dweud eich bod chi'n cael gwneud gwaith ar yr adeilad.

Dylech hefyd weld a oes angen caniatâd cynllunio arnoch ar gyfer y gwaith.

Yr hyn na allwn ei ariannu

Ni allwn ariannu:

  • costau ôl-weithredol (costau am bethau sydd eisoes wedi digwydd, neu rydych chi eisoes wedi talu amdanynt)
  • alcohol
  • costau wrth gefn, benthyciadau, gwaddolion neu log
  • talu rhywun arall i ysgrifennu eich cais ar eich rhan
  • gweithgareddau codi arian (lle rydych chi'n defnyddio ein harian i godi mwy o arian)
  • treth ar werth (TAW) y gallwch ei hawlio'n ôl
  • gweithgareddau crefyddol (gallwn ariannu sefydliadau crefyddol os yw eu prosiect o fudd i'r gymuned ehangach ac nad yw'n cynnwys cynnwys crefyddol)
  • gweithgareddau y mae'n ofynnol yn gyfreithiol i gyrff statudol eu gwneud
  • gweithgareddau sy'n helpu plant neu bobl ifanc gyda'u gwaith ysgol yn ystod amser ysgol
  • teithio dramor
  • prosiectau sy'n digwydd y tu allan i'r DU
  • gweithgareddau sy'n gwneud elw er budd preifat
  • arian parod a fydd yn cael ei roi'n uniongyrchol i unigolion