Meithrin Natur
- Lleoliad y prosiect: Cymru
- Swm: £700,000 i £2,000,000
- Penderfyniad mewn: 13 wythnos
- Statws y rhaglen: Yn agored i geisiadau
Nod y rhaglen ariannu hon yw gwella iechyd a lles plant a'u gofalwyr yng Nghymru. Rydym yn chwilio am brosiectau sy'n gwneud hyn drwy eu helpu i gysylltu â'r amgylchedd naturiol.
Pwy ydym yn ei olygu wrth blant a gofalwyr
Mae plant a gofalwyr yn cynnwys:
- babanod a phlant dan 5 oed
- rhieni sy’n feichiog
- teulu, gofalwyr maeth, gofalwyr â thâl neu ofalwyr di-dâl
Yr hyn rydym yn ei olygu wrth amgylchedd naturiol
Rydym yn golygu rhoi profiadau cadarnhaol ac ystyrlon i blant a'u gofalwyr gyda byd natur a mannau awyr agored. Fel parciau, afonydd neu goedwigoedd. Mae'n ymwneud â'u helpu i gael mynediad at natur a'r mannau hyn, rhyngweithio â nhw a dysgu gofalu amdanynt.
Y math o brosiectau rydym am eu hariannu
Gallwch ymgeisio am grant os yw eich prosiect yn ychwanegol i waith presennol eich sefydliad gyda phlant ifanc a’u teuluoedd. Y nod yw eich helpu i gynyddu eich capasiti i ddefnyddio’r amgylchedd naturiol i gefnogi canlyniadau iechyd a lles cadarnhaol.
Pwy all ymgeisio
Mae’n rhaid i chi weithio mewn partneriaeth i ymgeisio am yr arian grant hwn. Rydym am i sefydliadau ddod â'u gwybodaeth o wahanol sectorau ynghyd.
Y canlyniadau y mae’n rhaid i’ch partneriaeth eu cyflawni
Rhaid i chi ddangos i ni sut y bydd eich partneriaeth yn:
- cynnal gweithgareddau sy'n helpu plant a'u gofalwyr i gysylltu â'r amgylchedd naturiol. A gwella eu hiechyd a'u lles.
- cynnwys plant a'u gofalwyr yn nyluniad a chyflwyniad y prosiect
- gwella neu ddatblygu mannau naturiol cynhwysol a hygyrch
- cefnogi pobl sy'n profi tlodi, gwahaniaethu neu anfantais
- gwerthuso eich prosiect
Am ragor o fanylion, gweler Yr hyn yr ydym am ei ariannu.
Faint allwch chi ymgeisio amdano
Rydym yn cynnig hyd at £25,000 mewn grant datblygu. Ar ôl defnyddio'r grant hwn i ddatblygu eich prosiect gallwch wneud cais am hyd at £2 filiwn i gyflawni eich prosiect, am hyd at 6 blynedd.