Pwy na all ymgeisio
Ni allwn dderbyn ceisiadau gan:
- gyrff statudol neu gyhoeddus
- ysgolion
- unigolion
- masnachwyr unigol
- sefydliadau sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r DU
- cwmnïau a all dalu elw i gyfarwyddwyr, cyfranddalwyr neu aelodau (gan gynnwys Cwmnïau sy’n Gyfyngedig gan Gyfranddaliadau)
- sefydliadau sy'n gwneud cais i fwy nag un o'n rhaglenni ar gyfer yr un prosiect dros yr un cyfnod. Nid ydym yn darparu ariannu dyblyg. Cewch wneud cais i raglen arall os ydych eisoes wedi cael penderfyniad aflwyddiannus.
- sefydliadau dan gytundeb Cefnogi Ymgeiswyr
- sefydliadau a ariennir drwy grant Cefnogi deiliaid grant Meithrin Natur
- un sefydliad yn gwneud cais ar ran un arall
Cael help gyda’ch ffurflen gais
Peidiwch â defnyddio busnesau preifat, ysgrifenwyr ceisiadau nac ymgynghorwyr i ysgrifennu eich cais. Ni fyddwn yn eu derbyn. Nid oes unrhyw un wedi ei awdurdodi i weithredu ar eich rhan neu hawlio eu bod yn gyflenwr dewisol.
Os ydych chi’n ansicr ynglŷn ag unrhyw beth yn y ffurflen gais, cysylltwch â ni. Gallwch hefyd gael help gan sefydliadau cymorth yr ymddiriedir ynddynt, fel eich awdurdod lleol neu Gyngor Gwirfoddol Sirol (CVC). Gallant roi cymorth a chyngor i chi ar ysgrifennu eich cais.