Pwy all ymgeisio
Mae’n rhaid i chi ymgeisio fel rhan o bartneriaeth. Byddwn yn rhoi arian i'r sefydliad arweiniol, ac yna gallen nhw dalu'r partneriaid eraill am y gwaith y maen nhw'n ei wneud.
Gofynion y sefydliad arweiniol
Rhaid i’ch sefydliad fod yn un o’r rhain:
- sefydliad gwirfoddol neu gymunedol cyfansoddedig
- grŵp neu glwb cyfansoddedig
- elusen gofrestredig
- sefydliad elusennol corfforedig (CIO)
- cwmni nid-er-elw
- cwmni budd cymunedol (CIC)
- cymdeithas budd cymunedol
Fel y sefydliad arweiniol, rhaid i chi hefyd:
- sicrhau bod y prosiect a'r partneriaid yn bodloni ein telerau ac amodau
- defnyddiwch ein templed cytundeb partneriaeth (PDF, 224KB)
Gofynion y bartneriaeth
Rhaid i'ch partneriaeth fod â phrofiad o weithio:
- gyda phlant dan 5 mlwydd oed a'u gofalwyr
- yn yr amgylchedd naturiol
Rydym am i sefydliadau ddod â'u gwybodaeth o wahanol sectorau ynghyd. Er enghraifft:
- blynyddoedd cynnar
- natur a'r amgylchedd
- iechyd a lles
Gall partneriaethau hefyd gynnwys:
- ysgolion, cyn belled â bod eich prosiect o fudd i'r cymunedau o amgylch yr ysgol ac yn eu cynnwys
- cyrff statudol, megis awdurdodau lleol, cynghorau tref, plwyf a chymuned
- sefydliadau'r sector preifat
Gall y sefydliadau hyn fod yn rhan o bartneriaeth, ond ni chant fod y sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais am arian.
Y gofynion o ran aelodau bwrdd neu bwyllgor
I ymgeisio, mae’n rhaid i’ch sefydliad gael o leiaf 3 aelod bwrdd neu bwyllgor nad ydynt yn perthyn. Os ydych chi’n gwmni mae’n rhaid i chi gael o leiaf 3 chyfarwyddwr nad ydynt yn perthyn.
Rydym yn ystyried bod pobl yn perthyn os ydynt:
- yn briod neu mewn partneriaeth sifil
- mewn perthynas hirdymor neu’n byw â'i gilydd
- yn perthyn trwy waed neu trwy bartner
- yn byw yn yr un cyfeiriad