Sut i leihau eich effaith ar yr amgylchedd
Mae’r argyfwng hinsawdd yn fater i bawb.
Dyna pam fod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cefnogi grwpiau a chymunedau yn y DU i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.
Yn yr erthygl hon, fe gewch hyd i syniadau am sut i wneud hynny, a dysgu am rai o’r cyfleoedd ariannu a allai helpu.
Dechrau arni
Gall meddwl am eich effaith ar yr amgylchedd, a’r hyn y gallwch ei wneud i’w wella, deimlo’n heriol. Ond, mae bod yn gall am leihau gwastraff a defnyddio ynni’n fwy effeithlon yn gallu eich helpu i arbed arian ar eich costau rhedeg hefyd.
Dyma rai awgrymiadau syml i ddechrau arni.
Gwastraffu llai, ailgylchu mwy
Atal gwastraff rhag mynd i safleoedd tirlenwi trwy ailgylchu mwy o’r hyn rydych chi’n ei ddefnyddio.
Mae’r Ymddiriedolaeth Garbon wedi cyhoeddi amrywiaeth eang o ganllawiau ac adnoddau am ddim i helpu i fynd i’r afael â Sero Net, effeithlonrwydd ynni a lleihau gwastraff carbon.
Newid i gyflenwr ynni gwyrdd
Gallwch hefyd ddarganfod sut i newid i gyflenwr ynni gwyrdd a chystadleuol trwy’r busnes cymdeithasol Big Clean Switch. Mae’r Ymddiriedolaeth Garbon hefyd yn cynnig canllawiau ar leihau’r defnydd o ynni yn y cartref i’ch ysbrydoli.
Cynllunio digwyddiadau mwy gwyrdd
Mae ystyried yr amgylchedd wrth gynllunio digwyddiadau’n ffordd syml ac effeithiol i arbed adnoddau, amser ac arian. Un ffordd dda o wneud hyn yw edrych i’ch cymuned am syniadau. Mae gan yr Eden Project lawer i’ch ysbrydoli am beth i’w wneud, a’r hyn i’w ystyried.
Lle i gael rhagor o help
Mae llawer o gymorth ar gael i’ch helpu i wneud yr hyn y gallwch gyda’r adnoddau sydd gennych chi.
Grwpiau a phrosiectau yng Nghymru
Mae Egin yn bartner i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol sy’n cynnig cymorth mentora am ddim, help i lunio cynllun gweithredu ar yr hinsawdd, hyfforddiant, a chymuned ar-lein i rannu gwybodaeth a syniadau.