Cefnogaeth i ddeiliaid grant Meithrin Natur
- Lleoliad y prosiect: Cymru
- Swm: £500,000 i £1,000,000
- Penderfyniad mewn: 2 wythnos
- Statws y rhaglen: Yn agored i geisiadau
Rydym yn chwilio am sefydliad neu bartneriaeth i gefnogi prosiectau yng Nghymru a ariennir gan Meithrin Natur.
Os ydych yn llwyddiannus, byddwch yn darparu cefnogaeth i sefydliadau sy’n derbyn y Grant Datblygu ac yn nes ymlaen grant yng ngham 2. Byddwn yn eich cysylltu â’r prosiectau sydd angen cefnogaeth.
Mae’n rhaid i chi ddeall sut mae’r amgylchedd naturiol yn gallu cefnogi iechyd a lles plant.
Wrth amgylchedd naturiol, rydym yn golygu rhoi profiadau cadarnhaol ac ystyrlon gyda byd natur a mannau awyr agored. Fel parciau, afonydd neu goedwigoedd. Mae'n ymwneud â'u helpu nhw i gael mynediad at fyd natur a'r mannau hyn, rhyngweithio â nhw a dysgu gofalu amdanynt.
Y profiad sy’n angenrheidiol i ymgeisio
Rhaid i'ch sefydliad neu bartneriaeth:
- weithio gyda plant dan 5 mlwydd oed
- weithio gyda natur a'r amgylchedd
- weithio gydag iechyd a lles
- defnyddio arferion diogelu, yn enwedig ar gyfer plant dan 5 mlwydd oed
Rhaid bod gennych hefyd brofiad o helpu sefydliadau eraill gyda:
- meithrin capasiti. Byddwn ni eisiau gwybod sut rydych chi wedi helpu i wella hyder a sgiliau mewn sefydliadau eraill
- cyd-gynhyrchu gyda phlant dan 5 oed a'u gofalwyr. Mae cyd-gynhyrchu yn golygu sut rydych chi wedi dylunio prosiectau neu wasanaethau gyda'r bobl sy'n cael eu cefnogi ganddyn nhw
- dylunio a gofalu am fannau awyr agored sy'n fuddiol i bobl a natur
- gwerthuso a rhannu eu dysgu
- gweithio mewn partneriaethau
- gweithio'n ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg
- gweithio ledled Cymru
Yr hyn rydyn ni’n ei olygu wrth blant a gofalwyr
Pan rydyn ni’n dweud plant a gofalwyr, mae hyn yn cynnwys:
- babanod a phlant dan 5 mlwydd oed
- rhieni sy’n feichiog
- teulu, gofalwyr maeth, gofalwyr sy’n cael eu talu neu ofalwyr di-dâl
Faint allwch chi ymgeisio amdano
Gallwch ymgeisio am hyd at £1 miliwn i gyflawni eich prosiect, dros saith mlynedd.
Y dyddiad cau terfynol ar gyfer ymgeisio yw 30 Hydref 2025. Byddwn yn rhoi gwybod am ein penderfyniad yn gynnar yn 2026.