Sut i ymgeisio
Dysgwch am y grant hwn mewn digwyddiad
Cofrestrwch ar gyfer digwyddiad yn eich ardal neu ar-lein:
- Pen-y-bont ar Ogwr: 18 Medi, 10:30am to 1:30pm
- Caerdydd: 22 Medi, 10:30am to 1:30pm
- Y Drenewydd: 30 Medi, 10:30am to 1:30pm
- Bangor: 2 Hydref, 10:30am to 1:30pm
- Wrecsam: 8 Hydref, 10:30am to 1:30pm
- ar-lein ar 9 Hydref, 2pm tan 4pm neu 15 Hydref, 11am tan 1pm
Cysylltwch â ni am sgwrs am eich syniad
Gallwch:
- e-bostio meithrinnatur@cronfagymunedolylg.org.uk, neu
- ffonio 0300 123 0735 (ar agor o 9am i 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener)
Byddwn yn eich cysylltu â swyddog ariannu yn eich ardal o fewn 5 diwrnod o'ch cysylltiad â ni.
Byddwn yn gofyn i chi:
- sut rydych chi wedi gweithio gyda phlant a gofalwyr o'r blaen. A sut y byddwch chi'n eu cynnwys yn nyluniad, cyflawniad a gwerthusiad y prosiect.
- pa sefydliadau y byddwch chi'n gweithio gyda nhw
- pa brofiad sydd gennych o weithio mewn partneriaethau
- sut rydych chi'n gwybod bod angen eich prosiect, gan gynnwys unrhyw fylchau mewn gwasanaethau lleol y bydd eich gwaith yn eu llenwi
- pa brofiad sydd gennych chi o weithio gyda natur a'r amgylchedd
- ble bydd eich prosiect yn digwydd
- am y gweithgareddau y byddwch chi'n eu cynnal
- sut y byddwch chi'n defnyddio’r grant datblygu
Y broses ymgeisio
Mae’n rhaid i chi wneud cais am grant datblygu yn gyntaf. Dim ond partneriaethau sydd wedi cael y grant hwn fydd yn gallu ymgeisio am grant i gyflawni’r prosiect yn nes ymlaen.
Cam 1: datblygu’r prosiect
Gall partneriaethau ofyn am grant datblygu hyd at £25,000. Gall hyn eich helpu i dalu am bethau fel:
- amser staff
- sesiynau ymgysylltu â phlant a'u gofalwyr
- cynnal cyfarfodydd partneriaeth
Bydd cefnogaeth ar gael i ddatblygu eich prosiect.
Os ydych chi'n addas i ymgeisio, byddwn yn anfon ffurflen atoch i ddweud mwy wrthym am eich syniad. Bydd angen i chi gyflwyno'r ffurflen hon erbyn 12pm, 1 Rhagfyr 2025.
Gweler y cwestiynau yn y ffurflen grant datblygu.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi a ydych chi'n cael grant datblygu erbyn mis Mawrth 2026.
Cam 2 – cyflawni’r prosiect
Ar ôl i chi ddatblygu eich prosiect, byddwch yn gallu gwneud cais am grant o hyd at £2 filiwn i'w gyflawni. Dim ond os ydych wedi cael grant datblygu y gallwch chi wneud cais am hwn.
Gallwn ariannu prosiectau a fydd yn para hyd at 6 mlynedd. Gallwn ariannu rhan o'ch prosiect neu'ch prosiect cyfan.
Byddwn yn anfon ffurflen gais fanylach atoch i wneud cais.
Gweler y cwestiynau yn y ffurflen gais.
Bydd angen i chi gyflwyno'r ffurflen hon erbyn 31 Gorffennaf 2026.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi a ydych chi'n cael y grant hwn erbyn Hydref 2026.
Os ydych chi angen cymorth i gyfathrebu
Os yw'n anodd neu'n amhosibl i chi ymgeisio ar-lein, rhowch wybod. Gallwn gynnig ffyrdd eraill o ymgeisio, megis ffurflen sy’n gweithio all-lein.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw anghenion cymorth cyfathrebu.
Yr hyn y byddwch ei angen i ymgeisio
Byddwn yn gofyn am:
- enw cyfreithiol eich sefydliad
- ei gyfeiriad
- y math o sefydliad ydyw
- unrhyw rifau cofrestru (er enghraifft, rhifau elusen neu gwmni)
Gwiriwch y manylion hyn yn ofalus. Gall gwybodaeth anghywir oedi eich cais.
Gwybodaeth am fanylion ariannol eich sefydliad
Byddwn yn gofyn am:
- gopi o'ch cyfrifon diweddaraf
- copi o'ch cyfrifon drafft, os yw eich cyfrifon yn hŷn na 10 mis
- copi o'ch rhagamcanion 12 mis, os yw eich sefydliad yn llai na 15 mis oed
- dyddiad gorffen eich cyfrifyddu
- cyfanswm eich incwm am y flwyddyn
Gwybodaeth am eich tîm
Mae angen i chi ddweud wrthym am ddau o bobl yn eich sefydliad. Dylai un fod y prif gyswllt y byddwn yn gallu siarad â nhw ynglŷn â’r prosiect. Dylai’r llall fod yn berson uwch sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am yr ariannu.
Byddwn yn gofyn am eu:
- henwau
- manylion cyswllt
- cyfeiriadau cartref
- dyddiadau geni
Mae’n rhaid iddynt:
- gael cyfeiriadau e-bost ar wahân
- fyw yn y DU
- beidio a bod yn perthyn
Yr hyn rydyn ni’n ei olygu wrth berthyn
Rydym yn ystyried fod pobl yn perthyn os ydynt:
- yn briod neu mewn partneriaeth sifil
- mewn perthynas hirdymor neu’n byw gyda’i gilydd
- yn perthyn trwy waed neu drwy bartner
- yn byw yn yr un cyfeiriad
Byddwn yn gwirio’r wybodaeth a rowch i ni
Fel sefydliad sy’n dosbarthu arian cyhoeddus, byddwn yn gwirio’r wybodaeth a rowch i ni. Dysgwch ragor am y gwiriadau.
Cytuno i’n telerau ac amodau
Mae’n rhaid i chi ddarllen ein telerau ac amodau a chytuno iddynt cyn cyflwyno eich cais.
Sut rydym yn defnyddio eich data personol
I gael gwybod sut rydym yn defnyddio a storio eich data personol, darllenwch ein hysbysiad phreifatrwydd.