Gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r amgylchedd
Rydym eisiau ariannu prosiectau sy’n helpu gofalu am yr amgylchedd ac sy’n ymateb i heriau hinsawdd.
Byddwn yn ariannu prosiectau sy’n:
gwneud defnydd gwell o adnoddau naturiol
helpu pobl i leihau allrydiau carbon neu arbed ynni mewn bywyd bob dydd
Gwneud defnydd gwell o adnoddau naturiol
Gellir gwneud hyn drwy:
gynnal sesiynau atgyweirio neu ailddefnyddio cymunedol fel:
trwsio beiciau, dyfeisiau trydanol neu gelfi
atgyweirio dillad
gwneud blychau ffenest allan o wastraff pren
sefydlu prosiectau tyfu bwyd organig a llesiant
lleihau gwastraff ac ailddosbarthu bwyd sy’n weddill o archfarchnadoedd neu siopau, y byddai fel arfer yn mynd yn wastraff
gweithio gyda byd natur i wella’r amgylchedd lleol, fel plannu coed i leihau gwres mewn ardaloedd trefol neu greu gerddi glaw
Helpu pobl i leihau allrydiau carbon neu arbed ynni mewn bywyd bob dydd
Gellir gwneud hyn drwy:
osod paneli solar neu nodweddion arbed ynni eraill mewn adeiladau cymunedol
cynnig sesiynau cynghori neu weithdai i helpu pobl i wneud gwahaniaethau bach, positif, fel lleihau gwastraff neu ddewis opsiynau teithio isel mewn carbon
codi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd, dewisiadau bwyd, tyfu lleol, coginio neu arbed ynni
Enghreifftiau o brosiectau a gweithgareddau y gallwn eu hariannu
Agor hwb amgylcheddol gyda chompostio cymunedol
Mae sefydliad yn creu hwb amgylcheddol newydd sy’n cynnig gweithgareddau i bobl o gefndiroedd difreintiedig.
Fel rhan o’r prosiect, mae gwirfoddolwyr yn sefydlu ac yn cynnal safle compostio cymunedol, gan helpu preswylwyr i leihau gwastraff a dysgu arferion ymarferol, cynaliadwy.
Enghreifftiau o brosiectau na allwn eu hariannu
Addysg amgylcheddol yn yr ysgol
Mae prosiect yn darparu addysgu amgylcheddol yn yr ystafell ddosbarth fel rhan o’r cwricwlwm. Mae’n ailadrodd cynnwys sydd yn cael ei ddysgu yn yr ysgol yn barod ac nid yw’n cynnig buddiannau ychwanegol tu hwnt i wersi arferol.