Neidio i'r prif gynnwys

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais gan ddefnyddio’n ffurflen ar-lein

Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r ffurflen gais ar gyfer y wlad y lleolir eich prosiect ynddi.

Gallwch arbed eich cais wrth i chi ei lenwi. Mae hyn yn eich galluogi i ddychwelyd yn nes ymlaen os bydd angen.

Wrth gwblhau ‘Manylion ychwanegol am eich prosiect’, dewiswch ‘Mae fy mhrosiect yn cefnogi cymunedau i fod yn gynaliadwy o ran yr amgylchedd’ fel categori eich prosiect.

Os yw eich prosiect wedi ei lleoli yng Ngogledd Iwerddon

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein hon ar gyfer prosiectau yng Ngogledd Iwerddon

Os yw eich prosiect wedi ei lleoli yn yr Alban

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein hon ar gyfer prosiectau yn Yr Alban

Os yw eich prosiect wedi ei lleoli yng Nghymru

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein hon ar gyfer prosiectau yng Nghymru

Os ydych angen cymorth gyda’ch ffurflen gais

Os nad ydych yn gallu cwblhau eich ffurflen gais, gallwn gynnig ffyrdd gwahanol i chi ddweud wrthym am eich prosiect. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • fersiwn Hawdd ei Ddarllen o’r ffurflen gais a’r canllaw

  • fersiwn PDF o’r ffurflen gais 

  • rhannu fideo i ddisgrifio syniad eich prosiect, yn hytrach na disgrifio drwy eiriau

  • fersiwn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) o’r ffurflen gais a chanllaw 

Os ydych angen cymorth, cysylltwch â ni. 

Gwneud cais yn gynnar

Cyflwynwch eich cais o leiaf 12 wythnos cyn eich bod angen y grant. Rhaid i chi aros am gymeradwyaeth cyn dechrau’r prosiect neu wario arian.

Beth sy’n digwydd ar ôl gwneud eich cais

Pan fyddwn yn derbyn eich cais:

  • byddwn yn adolygu’r cais ac yn ymateb o fewn 12 wythnos

  • efallai byddwn yn cysylltu i drafod eich prosiect neu i ofyn am fwy o fanylion

Os ydych yn llwyddiannus:

  • byddwn yn eich e-bostio ac yn rhoi’r arian yn eich cyfrif o fewn 14 niwrnod

  • gallwch ddechrau’r prosiect cyn gynted ag y byddwch yn derbyn ein he-bost

  • efallai byddwn yn cysylltu i weld sut mae’ch prosiect yn dod yn ei flaen.

Rhannwch eich stori

Gadewch i’ch cymuned wybod am y grant a sut byddant yn elwa ohono.

Bydd eich e-bost llwyddiant ariannu yn esbonio sut i hysbysebu eich grant a chefnogi eich cymuned.

Dysgu mwy am hyrwyddo eich prosiect. 

Amodau a thelerau

Pan fyddwch yn gwneud cais, rhaid i chi gytuno i’n hamodau a thelerau.

Sut byddwn yn defnyddio eich data personol

Mae ein datganiad preifatrwydd yn esbonio sut byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.