Neidio i'r prif gynnwys

Ar beth allwch wario’r arian 

Rydym yn ariannu amrywiaeth o gostau i helpu’ch prosiect i lwyddo. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cefnogaeth arbenigol, er enghraifft help gan sefydliad amgylcheddol neu fyd natur 

  • offer 

  • digwyddiadau un tro gyda buddiannau amgylcheddol clir

  • costau staff a hyfforddiant

  • trafnidiaeth a chyfleustodau

  • treuliau gwirfoddolwyr

  • costau rhedeg eich sefydliad 

  • prosiectau cyfalaf neu dir ar raddfa fach – gan gynnwys adnewyddu ac addasiadau i wella effaith amgylcheddol

Beth na allwn ei ariannu

Nid ydym yn gallu ariannu:

  • gweithgareddau neu gostau sy’n cynnwys anifeiliaid domestig yn unig

  • costau sydd wedi eu talu yn barod

  • alcohol 

  • costau wrth gefn, benthyciadau, gwaddolion neu log

  • rhywun arall i ysgrifennu’ch cais ar eich rhan

  • gweithgareddau sy’n gwneud elw neu yn codi arian

  • TAW y gallwch ei adhawlio

  • gweithgareddau crefyddol (gallwn ariannu sefydliadau crefyddol os yw’r prosiect o fudd i’r gymuned ehangach ac nad yw’n cynnwys deunydd crefyddol)

  • gwasanaethau neu weithgareddau statudol

  • cefnogaeth gwaith ysgol yn ystod oriau ysgol

  • teithio dramor 

  • prosiectau sy’n cymryd lle tu allan i’r Deyrnas Unedig

  • gweithgareddau sy’n gwneud elw preifat

  • rhoi arian yn uniongyrchol i unigolion

Os nad ydych yn siŵr os gall rhywbeth gael ei ariannu, cysylltwch â ni.