Beth sydd angen dweud wrthym wrth i chi wneud cais
Gallwch weld rhestr lawn o’r cwestiynau ffurflen gais ar gyfer prosiectau wedi eu lleoli yn:
Ewch i’r dudalen ‘Sut i ymgeisio’ pan fyddwch yn barod i ddechrau eich cais. <LINK>
Deall anghenion eich cymuned
Pan fyddwch yn gwneud cais am grant mae’n rhaid i ni ddeall eich prosiect a sut bydd o fudd i’ch cymuned.
Dylai eich prosiect fod yn berthnasol ac yn effeithiol. Wrth gynllunio dylech ystyried sut:
bydd eich prosiect yn newid ymddygiad ac agweddau pobl tuag at yr amgylchedd ac effeithiau newid hinsawdd
byddwch yn cynnwys pobl leol unwaith i’r prosiect gychwyn
bydd eich prosiect o fudd i’r gymuned
byddwch yn gwneud eich gweithgareddau’n fwy cynhwysol
byddwch yn goroesi rhwystrau all atal pobl rhag cymryd rhan
Os yw eich prosiect yn cynnwys gofod gwyrdd
Dywedwch wrthym sut bydd pobl yn:
helpu cynnal a gofalu amdano, er enghraifft, drwy wirfoddoli
defnyddio neu fwynhau’r gofod pan fydd wedi gorffen
Cynnwys y bobl rydych yn eu cefnogi
Ystyriwch sut gall y bobl a fydd yn elwa o’r prosiect hefyd gymryd rhan yn ei drefnu. Er enghraifft, gallent:
wirfoddoli gyda’ch sefydliad
ymuno â’ch bwrdd neu bwyllgor
helpu gyda thasgau sy’n cefnogi’r prosiect
Cyfriflenni banc
Rydym angen cyfriflen banc o’r 3 mis diwethaf er mwyn gwirio’r cyfrif lle byddwn yn talu’r grant.
Mae’n rhaid i’ch cyfrif banc a chyfriflen gwrdd â’n gofynion. Os nad ydynt, bydd angen ailgeisio pan fyddwch wedi sicrhau hynny.
Rhaid i chi ddarparu:
cyfrif banc sy’n cwrdd â’n canllawiau ar reolaethau ariannol a llywodraethu ariannol
cyfriflen banc diweddar (os yw eich cyfrif wedi ei agor yn y 3 mis diwethaf, bydd angen darparu llythyr croeso neu restr trafodion wrth y banc yn lle)
Gofynion cyfriflen banc
Rhaid i’ch cyfriflen banc diweddar neu restr trafodion ddangos:
enw cyfreithiol eich sefydliad
y cyfeiriad lle danfonir datganiadau
enw a logo’r banc
cyfeiriad y banc
rhif y cyfrif a chod didoli
amrediad y dyddiadau mae’r gyfriflen yn ei gynnwys (neu’r dyddiad agorwyd y cyfrif os ydych yn darparu llythyr croeso wrth y banc)
Dyma enghraifft o gyfriflen banc byddem yn ei dderbyn.
Os ydych yn danfon llythyr croeso wrth y banc, rhaid iddo:
gynnwys dyddiad o fewn y 3 mis diwethaf
dangos enw’r cyfrif banc (dylai hyn fod yn enw cyfreithiol y sefydliad)
dangos rhif y cyfrif a’r cod didoli
Ariannu prosiectau adeiladu neu dir
Os ydych angen grant ar gyfer gwaith adeiladu neu dir, rhaid i chi ddarparu’r canlynol:
prawf o berchnogaeth o’r tir neu adeilad
prydles am o leiaf 5 mlynedd a phrawf o ganiatâd gan berchennog neu landlord i wneud y gwaith
llythyr wrth y perchennog yn caniatáu prydles am o leiaf 5 mlynedd a phrawf o berchnogaeth gan y perchennog neu landlord i wneud y gwaith
Efallai bydd angen gwirio a ydych angen caniatâd cynllunio.
Cadw pobl yn ddiogel
Bydd angen polisi mewn lle sydd yn esbonio sut byddwch yn cadw pobl yn ddiogel.
Os cewch grant, rhaid i chi ddilyn ein disgwyliadau diogelu ar gyfer sefydliadau rydym yn eu hariannu.