Pwy all wneud cais
Gallwch wneud cais os yw eich sefydliad yn:
sefydliad gwirfoddol neu gymunedol sy’n gyfansoddiadol
grŵp neu glwb cyfansoddiadol
elusen wedi’i chofrestru
sefydliad corfforedig elusennol (CIO)
cwmni nid-er-elw
cwmni buddiant cymunedol (CIC)
ysgolion, os yw’r prosiect yn helpu’r gymuned gyfan, ac nid yr ysgol yn unig
grwpiau chwaraeon, os yw’r prosiect yn agored i’r gymuned ehangach
corff statudol (gan gynnwys awdurdodau lleol, a chynghorau tref, plwyf a chymunedol)
cymdeithas budd cymunedol
Gofynion ar gyfer aelodau bwrdd neu bwyllgor
Rhaid cael o leiaf 2 gyfarwyddwr nad ydynt yn perthyn.
Rydym yn ystyried fod pobl yn perthyn os ydynt:
yn briod neu mewn perthynas sifil
mewn perthynas hir-dymor neu yn byw gyda’i gilydd
yn perthyn drwy waed neu trwy bartner
Ysgolion a sefydliadau sy’n gweithio gydag ysgol
Gallwn ariannu ysgolion neu sefydliadau sy'n gweithio gydag ysgol os yw’ch prosiect yn amlwg o fudd i'r gymuned ehangach. Ni ddylai eich prosiect fod o fudd i ddisgyblion, athrawon neu rieni’r ysgol yn unig.
Rydym yn chwilio am brosiectau sy’n:
dod â'r gymuned leol a'r ysgol at ei gilydd
defnyddio gofodau neu adnoddau ysgol ar gyfer gweithgareddau cymunedol y tu allan i oriau ysgol
helpu pobl yn y gymuned ehangach i gysylltu, dysgu, neu gymryd rhan mewn rhywbeth ystyrlon
Rhaid i brosiectau fynd y tu hwnt i gyfrifoldebau arferol yr ysgol. Er enghraifft, ni allwn ariannu:
gweithgareddau sy'n seiliedig ar y cwricwlwm neu unrhyw beth a ddylai ddigwydd yn ystod y diwrnod ysgol
gwelliannau i adeiladau ysgolion, ardaloedd awyr agored, neu offer oni bai eu bod ar gael i'w defnyddio gan y gymuned ehangach
hyfforddiant ar gyfer staff ysgol neu gymorth sy'n canolbwyntio ar addysg
teithiau ysgol, clybiau ar ôl ysgol, neu amgylcheddau dysgu amgen
Os nad ydych yn siŵr a yw eich syniad yn gymwys, gwiriwch gyda ni cyn i chi wneud cais.