Ein blaenoriaethau amgylcheddol
Newid hinsawdd a cholled byd natur yw dau o’r heriau mwyaf i ni eu hwynebu.
Dywedai gwyddonwyr mai un o’r bygythiadau mwyaf i bobl ar draws y byd yw newid hinsawdd. Ar yr un pryd, mae’r Deyrnas Unedig wedi colli cryn dipyn o’i byd natur a bywyd gwyllt. Mae angen arnom blaned iach a sefydlog er mwyn byw’n dda, aros yn ddiogel ac adeiladu cymunedau cryf.
Mae’r rhain yn broblemau byd-eang. Ond gall gweithredu lleol wneud gwahaniaeth. Dyna pam rydym yn cefnogi prosiectau cymunedol sy’n:
adfer byd natur
helpu cymunedau i baratoi am newid hinsawdd
Beth rydym eisiau ei ariannu i helpu byd natur a’r amgylchedd
Rydym eisiau ariannu prosiectau sy’n cwrdd ag o leiaf un o’r amcanion yma:
helpu pobl i gysylltu gydag a gofalu am fyd natur yn eu hardal
gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r amgylchedd
helpu pobl i fynd i’r afael â llygredd yn eu cymunedau
Dylai eich prosiect wneud o leiaf un o’r pethau yma:
helpu sefydliadau cymunedol i wella’u heffaith ar yr amgylchedd (gall hyn gynnwys eich sefydliad eich hun)
helpu pobl i gymryd camau gweithredu sy’n lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd
helpu cymunedau i addasu i effeithiau newid hinsawdd
adfer, harddu neu greu gofodau ar gyfer bywyd gwyllt a mwynhad pobl ohono
Mae’r amcanion yma yn cydweddu i’n nodau. Wrth i chi gwblhau’ch cais, dewiswch y nod ‘Mae cymunedau’n gynaliadwy o ran yr amgylchedd’
Esiamplau o brosiectau a gweithgareddau y gallwn eu hariannu
Lleihau carbon ac ynni
Mae prosiectau a gweithgareddau y gellir eu hariannu yn cynnwys:
mesurau effeithlonrwydd ynni fel pympiau gwres, insiwleiddio, ffenestri neu doi wedi’u huwchraddio
gosod paneli solar a storio batris
archwiliad ynni er mwyn adnabod faint o ynni sy’n cael ei ddefnyddio, pryd mae’n cael ei ddefnyddio, ble mae’n cael ei wastraffu a chyfleoedd i arbed arian ac adnoddau
Gofodau byd natur ac awyr agored
Mae prosiectau a gweithgareddau yn gellir eu hariannu yn cynnwys:
gwella ardaloedd awyr agored fel gofodau cyhoeddus neu gampfeydd awyr agored
ailwylltio
gwarchod, adfywio neu harddu cynefinoedd bywyd gwyllt
gwella mynediad at ofodau cyhoeddus i gefnogi iechyd a lles
casglu sbwriel
Addysg a pharatoi hinsawdd
Mae prosiectau a gweithgareddau y gellir eu hariannu yn cynnwys:
gweithgareddau addysg hinsawdd sy’n helpu pobl i:
ddeall y system hinsawdd
deall yr effaith ddynol ar hinsawdd
gwneud penderfyniadau gwybodus ar faterion sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd
gwneud newid ymddygiadol cadarnhaol
prosiectau ymchwil sy’n cefnogi ymyriadau amgylcheddol neu hinsawdd hir-dymor
cynlluniau gwydnwch cymunedol sy’n helpu i baratoi at ddigwyddiadau yn ymwneud â’r hinsawdd fel llifogydd neu dywydd poeth
addasiadau i adeiladau fel rhwystrau llifogydd neu loriau gwrth-ddŵr
Byw’n gynaliadwy
Mae prosiectau a gweithgareddau y gellir eu hariannu yn cynnwys:
prosiectau bwyd cynaliadwy gan gynnwys rhandiroedd cymunedol
gweithgareddau sy’n dysgu am fwyta fforddiadwy a chynaliadwy
prosiectau sy’n annog neu’n cefnogi opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy
lleihau gwastraff fel ailgylchu, atgyweirio ac ailddefnyddio defnydd