Neidio i'r prif gynnwys

Gwobrau Bach Gwyrdd

  • Lleoliad y prosiect: Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Cymru
  • Swm: £300 i £20,000
  • Penderfyniad mewn: 0 wythnos
  • Statws y rhaglen: Yn agored i geisiadau

Mae’r argyfwng hinsawdd a byd natur yn effeithio ar bawb. Ond gall gweithredu lleol wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rydym eisiau ariannu prosiectau sydd â chynaliadwyedd amgylcheddol yn brif nod iddynt.

Byddwn yn ariannu prosiectau sydd yn cwrdd ag o leiaf un o’n blaenoriaethau:

  • helpu pobl i ymgysylltu a gofalu am fyd natur yn eu hardal

  • gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r amgylchedd

  • helpu pobl i fynd i’r afael â llygredd yn eu cymunedau

Gallwch ddefnyddio’n grant i:

  • gychwyn gweithgaredd newydd neu barhau gydag un sy’n bodoli’n barod (os yw’n cwrdd â’n blaenoriaethau)

  • helpu’ch sefydliad neu gymuned (neu’r ddau) i addasu i heriau newydd

  • cynnal digwyddiadau un tro sydd â buddiannau clir i’r amgylchedd

Mae’r grantiau yma ar gyfer prosiectau sydd wedi eu lleoli yn un o’r gwledydd canlynol:

  • Gogledd Iwerddon

  • Yr Alban

  • Cymru

Nid ydych yn gallu defnyddio’r un grant i gynnal prosiectau mewn mwy nag un wlad.

Dysgwch mwy am grantiau amgylcheddol i brosiectau sy’n cael eu cynnal yn Lloegr.