Neidio i'r prif gynnwys

Helpu pobl i ymgysylltu gydag a gofalu am fyd natur

Helpu pobl i ymgysylltu gydag a gofalu am fyd natur yn eu hardal nhw 

Rydym eisiau ariannu prosiectau sy’n helpu pobl i fwynhau a gofalu am fyd natur yn agos i adref.

Byddwn yn ariannu prosiectau sy’n: 

  • gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofodau gwyrdd lleol 

  • helpu cysylltu pobl leol gyda byd natur

Gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofodau gwyrdd lleol

Gellir gwneud hyn drwy:

  • greu gerddi cymunedol neu ardaloedd a rennir ar gyfer tyfu bwyd neu blanhigion

  • creu neud adfer gofodau gwyrdd a gafodd eu diystyru

  • cynnal sesiynau gwirfoddoli i ofalu am ofodau gwyrdd

  • gwella parciau neu leoedd chwarae fel eu bod yn cefnogi byd natur a bywyd gwyllt

Helpu cysylltu pobl leol gyda byd natur

Gellir gwneud hyn drwy:

  • gynnal ysgolion fforest neu weithgareddau dysgu yn yr awyr agored i helpu pobl i ymgysylltu â byd natur a gwella eu lles 

  • trefnu gweithgareddau mewn byd natur ar gyfer pobl nad sydd fel arfer yn cael mynediad at ofodau gwyrdd

  • creu neu wella gofodau tyfu cymunedol gyda nodweddion sy’n garedig i fywyd gwyllt

  • cynnig cyfleoedd gwirfoddoli mewn ffarmio cymunedol neu arddwriaeth gan gynnwys darparu therapi awyr agored sy’n cefnogi pobl a’r amgylchedd

Enghreifftiau o brosiectau a gweithgareddau y gallwn eu hariannu

Gofodau wedi eu seilio ar fyd natur ar gyfer dysgu a chwarae

Mae grŵp cymunedol yn sefydlu cychod gwenyn i gefnogi peillio, cynyddu bioamrywiaeth a dysgu pobl am fyd natur a chynhyrchu bwyd.

Maent hefyd yn datblygu gofod ysgol fforest gyda chysgodfa fach a ffensys i greu gofod diogel a chroesawgar ar gyfer coedwriaeth a chwarae mewn byd natur.

Ehangu gofod cymunedol 

Mae sefydliad yn trawsnewid gofod nas defnyddir drwy ehangu gofod gwyrdd a rennir. Mae hyn yn creu mwy o le i bobl fwynhau a chysylltu gyda byd natur.

Cynnal gweithgareddau awyr agored

Mae grŵp yn cynnal gweithgareddau cyson fel teithiau ar hyd y gamlas neu’r parc, garddio a phicniciau cymunedol.

Enghreifftiau o brosiectau a gweithgareddau na allwn eu hariannu

Dosbarth awyr agored a gardd y synhwyrau mewn ysgol

Mae ysgol yn creu ystafell ddosbarth awyr agored a gardd i’r synhwyrau. Mae’r gofod o fudd i’r disgyblion yn bennaf. Ond mae mynediad cyfyngedig i’r gymuned ehangach

Paneli solar i glwb chwaraeon

Caiff paneli solar eu gosod mewn lleoliad chwaraeon sydd ddim yn ofod y’i defnyddir yn aml gan y gymuned. Maent o fudd yn bennaf i’r rhai sydd yn ymwneud â gweithgareddau chwaraeon. Ac mae budd cyfyngedig i’r gymuned ehangach.

Trawsnewid gardd gan fyfyrwyr coleg 

Mae myfyrwyr coleg yn gwella gardd fel rhan o gwrs gan ddarparwr addysg amgen. Mae’r prosiect yn cefnogi dysgu. Ac nid yw o fudd i’r gymuned ehangach. 

Gŵyl gymunedol un tro 

Mae gŵyl gymunedol un tro yn cynnwys ymrwymiad i gynaliadwyedd. Does ganddo ddim gweithgareddau amgylcheddol ac nid yw’n ailino gyda’n hamcanion ariannu.