Cefnogi Cymdeithas Sifil

Cefndir

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw ariannwr gweithgareddau cymunedol mwyaf y Deyrnas Unedig. Rydym yn dosbarthu arian a godir gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da sydd â'r nod o wella bywydau a chymunedau. Rydym yn credu y dylai pobl arwain ar wella'u bywydau a'u cymunedau. Mae hwn yn golygu canolbwyntio ar y sgiliau, asedau ac egni y gall pobl alw arnynt a'r potensial yn eu syniadau.

Un o elfennau craidd strategaeth y Gronfa yw cefnogi cymdeithas sifil weithgar, bywiog ac amrywiol. Yma, byddwn yn dweud ychydig yn fwy am beth rydym yn ceisio cyflawni a sut y byddwn yn ei wneud. Mae'r strategaeth hon yn seiliedig ar y nifer mawr o sgyrsiau rydym wedi'u cynnal ac yn parhau i'w cynnal, gyda mudiadau cymdeithas sifil, Llywodraethau a Gweinyddiaethau Datganoledig a phobl mewn cymunedau ym mhob cwr o'r Deyrnas Unedig.

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ymroddedig i helpu creu cymdeithas sifil lle byddwn i gyd yn:

  1. Fwy gwydn, yn sefydliadol ac yn ariannol
  2. Hael fel arweinwyr a chymheiriaid
  3. Cynnwys pobl a chymunedau wrth wneud penderfyniadau
  4. Rhannu a defnyddio data'n fwy effeithiol
  5. Defnyddio technoleg ddigidol i gyflawni ein huchelgais

1. Gwydnwch sefydliadol ac ariannol

Rydym eisiau i fudiadau cymdeithas sifil fod â'r hyder, capasiti a gallu i bennu eu llwybrau eu hunain a chael yr adnoddau iawn i gyflawni eu cenhadaeth. Ond i achub ar gyfleoedd yn effeithiol a chwrdd â heriau'n uniongyrchol, mae angen hefyd iddynt fedru addasu ac ymateb i'r amgylchedd heriol y maent yn gweithio oddi fewn iddynt.

Mae hyn yn golygu y bydd ganddynt:

  • Ddealltwriaeth glir o'u diben
  • Model gweithredu sy'n cefnogi eu gweithgareddau'n gynaliadwy
  • Hyblygrwydd ariannol ac adnoddau i gyflawni eu nodau.

Sut mae llwyddiant yn edrych?

  • Mudiadau sy'n cyflwyno gwaith y maent yn gwybod ei fod yn diwallu anghenion pobl - nid dim ond yr hyn y mae comisiynwyr neu arianwyr yn fodlon talu amdano.
  • Mudiadau sydd â dealltwriaeth glir o'r sgiliau ac adnoddau y mae eu hangen i gyflawni eu diben.
  • Mudiadau sy'n hyderus i wneud penderfyniadau eofn am eu strategaeth, gan gynnwys dweud na wrth arianwyr a chomisiynwyr.
  • Mudiadau sydd â mynediad i arian a chefnogaeth briodol pan fydd eu hangen arnynt.

Sut fydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cefnogi newid:

  1. Byddwn yn cefnogi ceisiadau am grantiau sy'n rhoi digon o amser a gofod i fudiadau ganolbwyntio ar adeiladu eu gwydnwch a sicrhau bod y ffocws hwn yn rhan o'n sgyrsiau parhaus gyda'r holl ymgeiswyr a deiliaid grant trwy ein rhaglenni grant Pawb a'i Le, Reaching Communities, Community Led Activities, Improving Lives, People and Communities a'r rhai safonol.
  2. Byddwn yn cydweithio â'n deiliaid grant a phartneriaid i ddeall sut mae gwydnwch sefydliadol ac ariannol yn amrywio fesul daearyddiaeth, maint a pha un a yw grwpiau yn y modd cychwynnol, cynhaliaeth neu dwf.
  3. Byddwn yn cydweithio â chynghrair o arianwyr a chomisiynwyr, gan gynnwys rhwydweithiau sydd eisoes yn bodoli, i herio sut rydym yn addasu ein dulliau cefnogi mudiadau i fod yn fwy hyblyg, gwydn a chynaliadwy yn ariannol.

2. Arweinyddiaeth hael

Mae gennym i gyd ran i chwarae wrth lunio llwyddiant cymdeithas sifil yn y dyfodol ac mae hwn yn dibynnu ar gryfder ein perthnasoedd a'n dull o weithio mewn partneriaeth. Wrth arweinyddiaeth hael rydym yn golygu:

  • Pryderon o ran datblygiad a llwyddiant yr 'ecosystem' yn hytrach na dim ond y 'mudiad’.
  • Parodrwydd i rannu cyfrifoldeb a phŵer i gyflawni'r budd cyffredin.
  • Naws agored wrth rannu profiad, gwybodaeth a sgiliau.
  • Yr ymgyrch i greu cynghreiriau gydag unigolion, grwpiau a chymunedau i gyflawni nodau ar y cyd.

Sut mae llwyddiant yn edrych?

  • Arweinwyr sy'n ymwneud â meithrin gwerthoedd a rennir ac sy'n deall sut y gall rolau a sgiliau gwahanol weddu i'w gilydd er budd cyffredin yn hytrach na statws a swydd.
  • Partneriaethau sy'n edrych ar y darlun mawr yn hytrach na blaenoriaethau ei gilydd neu sy'n dod â mudiadau bach y mae eu gwreiddiau o fewn profiadau cymunedau ynghyd gyda mudiadau mwy sydd â'r capasiti i greu newidiadau ar raddfa fwy.
  • Cyllid, data a systemau a rennir sy'n rhoi'r capasiti a gwybodaeth i bobl a mudiadau y mae arnynt eu hangen i gyflawni eu cenhadaeth.

Sut fydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cefnogi newid:

  1. Byddwn yn cefnogi ceisiadau grant sy'n galluogi arweinwyr i feddwl am eu rôl mewn cymdeithas sifil a meithrin perthnasoedd cefnogol yn weithredol.
  2. Byddwn yn cefnogi ein ceisiadau sydd wedi'u symbylu gan egwyddorion arweinyddiaeth hael trwy ein cynnig ariannu Partneriaeth newydd a dod â'r arbenigedd, sgiliau ac adnoddau iawn ynghyd er mwyn peri i newid ddigwydd yn lleol, rhanbarthol ac yn genedlaethol.
  3. Byddwn yn dathlu ac yn rhannu enghreifftiau o sut mae arweinyddiaeth hael yn cael ei wneud yn dda.
  4. Byddwn yn tyfu ein galluoedd i rannu data a chefnogi partneriaethau i agor eu data a systemau fel y byddant o fudd i eraill.
  5. Byddwn yn adolygu sut y gall caffael, data ac eiddo deallusol ychwanegu gwerth ehangach at gymdeithas sifil, fel rhan o ddangos meddylfryd arweinyddiaeth hael yn ein gwaith i gyd.

3. Grymuso cymunedau

Mae cymunedau cryfion a bywiog wedi'u hadeiladu a'u hadnewyddu gan y bobl sy'n byw ynddynt a dylid galluogi cymunedau i wneud y newidiadau y maent eisiau eu gweld. Mae hwn yn digwydd ar ei orau pan fydd profiadau pobl o lygad y ffynnon yn siapio sut mae gwasanaethau a gweithgareddau'n cael eu dylunio. Wrth rymuso cymunedau rydym yn golygu:

  • Rhannu pŵer yn fwy cyfartal i greu cyfleoedd i bobl leisio eu barn a chael effaith.
  • Cynnwys pobl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon wrth wneud penderfyniadau.
  • Gwerthfawrogi amrywiaeth profiadau pobl a chreu cyfleoedd iddynt ddefnyddio eu profiad i greu newid ar gyfer pobl eraill.

Sut mae llwyddiant yn edrych?

  • Mae gan bobl yr hyder a'r pŵer i ddylanwadu ar y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau a'u cymunedau.
  • Mae pobl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon yn arwain ar gyrru newid cymdeithasol.
  • Mae arweinyddiaeth mudiadau cymdeithas sifil yn adlewyrchu'r bobl a'r cymunedau y maent yn eu cefnogi.

Sut fydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cefnogi newid:

  1. Byddwn yn cefnogi ceisiadau am grantiau gan fudiadau sy'n ymgorffori profiadau pobl o faterion cymdeithasol o lygad y ffynnon i gyd-gynhyrchu eu gweithgareddau.
  2. Byddwn yn ariannu grymuso cymunedol trwy ein rhaglen Arweinwyr â Phrofiad o Lygad y Ffynnon.
  3. Byddwn yn cydweithio â'n deiliaid grant a phartneriaid i wella'n dealltwriaeth o arfer gorau wrth greu modelau cyflwyno a arweinir gan gyfranogwyr.
  4. Byddwn yn adnabod y rhwystrau i gyllid y mae mentrau a arweinir gan gyfranogwyr yn eu hwynebu ac yn eu lleihau'n rhagweithiol.

4. Data a Mewnwelediad

Mae gan rannu data pwrpasol a llawn mewnwelediad ar y cyd y pŵer i wella sut mae mudiadau cymdeithas sifil, arianwyr, comisiynwyr a gwasanaethau statudol yn gwneud penderfyniadau. Wrth ddefnyddio data a mewnwelediad yn fwy effeithiol, rydym yn golygu;

  • Cael mynediad i ddata pwrpasol sy'n galluogi pobl, mudiadau a chymunedau i fyfyrio, dysgu, profi a gwella
  • Data sy'n feintiol ac yn ansoddol, gan ymgorffori egwyddor dim storïau heb ystadegau a dim ystadegau heb storïau.

Sut mae llwyddiant yn edrych:

  • Mae gan fudiadau fynediad i'r data a'r mewnwelediad sy'n adlewyrchu eu gwahaniaethau, boed trwy gael mynediad i systemau monitro a dadansoddi, y prosesau iawn ar gyfer mesur canlyniadau, neu ymchwil a gwerthuso gwell.
  • Gall mudiadau cymdeithas sifil gyrchu data a thystiolaeth sy'n ddefnyddiol ac yn gwella'r penderfyniadau y maent yn eu gwneud.
  • Mae mudiadau cymdeithas sifil yn gwybod sut i fwyafu a rhannu eu data eu hunain.
  • Mae gan arianwyr ofynion cydlynol a all gael eu cyflwyno gydag adnoddau cymesur a phriodol.

Sut fydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cefnogi newid:

  1. Byddwn yn rhannu data a mewnwelediad defnyddiol am ein cyllid ochr yn ochr â data pwrpasol gan fudiadau trydydd parti.
  2. Byddwn yn dod â chynghrair o fudiadau cymdeithas sifil ynghyd i herio sut rydym yn cywain ac yn defnyddio data a thystiolaeth.
  3. Byddwn yn sicrhau bod ein dull o gywain data a thystiolaeth yn briodol ac yn gymesur, ac yn cefnogi deiliaid grant i gywain a darparu data a thystiolaeth sy'n werthfawr i'w mudiad a chymdeithas sifil ehangach.
  4. Byddwn yn cefnogi ceisiadau am grantiau i'n rhaglenni ariannu safonol sy'n galluogi mudiadau i wella'u gallu i gofnodi, prosesu a rhannu data a thystiolaeth am eu gwaith sy'n llawn ystyr a mewnwelediad.

5. Hyderus yn ddigidol ac yn gysylltiedig

Mae technoleg ddigidol yn parhau i roi mwyfwy o gyfleoedd i ni fabwysiadu dulliau newydd o wella bywydau a chymunedau. Wrth hyderus yn ddigidol ac yn gysylltiedig rydym yn golygu:

  • Mudiadau cymdeithas sifil sy'n defnyddio offer a sgiliau digidol i gysylltu â chymunedau a chyflwyno gweithgareddau sy'n cwrdd â disgwyliadau pobl.
  • Gall arianwyr helpu darparu cefnogaeth briodol (ariannol ac anariannol) i helpu mudiadau cymdeithas sifil i gynyddu eu capasiti a sgiliau digidol.

Sut mae llwyddiant yn edrych:

  • Symudiad mewn sut mae cymdeithas sifil yn gweld digidol, sydd i'w weld trwy fudiadau o bob maint yn defnyddio offer digidol priodol i newid eu dulliau gweithio mewn ffordd gadarnhaol.
  • Mudiadau cymdeithas sifil sydd â'r hyder i ddefnyddio offer a gwasanaethau digidol yn ogystal â mynediad i gefnogaeth ac adnoddau i wella'u sgiliau.
  • Newid yn y ffordd y mae arianwyr - gan gynnwys Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol - yn blaenoriaethu ceisiadau a fydd yn achub ar y cyfleoedd y gall digidol eu cynnig.

Sut fydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cefnogi newid:

  1. Byddwn yn lansio ymgynghoriad ar draws y Deyrnas Unedig i gywain gwybodaeth am y cyfleoedd a'r rhwystrau y mae mudiadau cymdeithas sifil yn eu hwynebu wrth fod yn hyderus ac yn gysylltiedig yn ddigidol a sut y gall arianwyr addasu ein gweithgareddau gwneud grantiau i'w cefnogi'n well.
  2. Byddwn yn adnabod ac yn cydweithio â mudiadau arbenigol a all gefnogi mudiadau cymdeithas sifil llai neu newydd i wella'u sgiliau a galluoedd digidol.
  3. Byddwn yn dod â chynghrair o arianwyr cymdeithasol a thechnegol ynghyd i rannu dysgu ac arfer gorau ac ymchwilio i gyfleoedd ariannu ar y cyd sy'n cefnogi'r defnydd o ddigidol.
  4. Byddwn yn lansio rhaglen ariannu digidol newydd gwerth miliynau o bunnoedd i gefnogi ceisiadau o bob cwr o'r Deyrnas Unedig i alluogi mudiadau cymdeithas sifil i adeiladu eu sgiliau digidol ac ymgorffori dulliau digidol yn eu gwaith.