Fframwaith strategol

Pobl yn Arwain

Rydym yn cefnogi pobl a chymunedau i ffynnu.

Ein fframwaith strategol

Pan fydd pobl yn arwain, mae cymunedau’n ffynnu.

Mae pobl yn deall beth sydd ei angen yn eu cymunedau’n well na neb arall.
Rydym yn gwrando, cydweithio ac yn ariannu fel bod pethau da’n digwydd.

Dyna pam rydym yn falch o ddyfarnu arian a godwyd gan chwaraewyr y
Loteri Genedlaethol ar draws y Deyrnas Unedig.

Ein nodau ar waith

  • Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cefnogi syniadau a phrosiectau sydd o bwys i bobl a chymunedau.
  • Rydym yn defnyddio ein grantiau a’n perthnasoedd i helpu creu cymunedau cryfach a mwy cysylltiedig.
  • Mae elusennau a mudiadau cymunedol ar draws y Deyrnas Unedig yn fywiog, amrywiol ac yn weithgar.
  • Gwelir gwerth, effeithlonrwydd ac ymddiriedaeth yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Ein hegwyddorion

Byddwn yn cael ein harwain yn y dewisiadau a wnawn gan set o egwyddorion:

Ar gyfer pawb

Mae ein grantiau’n agored i bob cymuned beth bynnag yw eu man cychwyn ac rydym yn deall y bydd angen cefnogaeth ychwanegol ar rai.

Cryfderau pobl

Rydym yn dechrau gyda'r hyn y gall pobl ei gyfrannu, a'r potensial yn eu syniad.

Catalydd i bobl eraill

Rydym yn gwrando ar, dysgu gan, gweithredu ar ac yn hwyluso'r pethau sydd o bwys i bobl, cymunedau a'n partneriaid.

Cyfeiriad a rennir, dulliau amrywiol

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth y cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw ar draws y Deyrnas Unedig, yn gyson o ran ansawdd y cyfleoedd a gynigiwn, ac yn cefnogi pobl i daclo anghydraddoldeb.

Hyder, nid rheolaeth

Mae gennym ffydd mewn gallu pobl i beri i bethau gwych ddigwydd, gan gredu y dylai ein hariannu alluogi yn hytrach na rheoli.

Prosesau syml, barn dda

Rydym yn defnyddio prosesau syml a chymesur sy'n ein galluogi i ffurfio barn dda.

Defnyddio adnoddau'n dda

Rydym yn gwneud dewisiadau gwybodus am yr adnoddau a roddir i ni gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol: gyda gwybodaeth, gyda phobl a gydag arian, ac mewn ffordd sy'n amgylcheddol gynaliadwy.