Ein hadroddiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2021

Mae’n ofynnol i bob sefydliad sydd â 250 neu fwy o gyflogeion gyhoeddi data ar eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau (y gwahaniaeth mewn cyflog fesul awr rhwng gweithwyr gwrywaidd a benywaidd) bob blwyddyn.

Mae’r ffigurau a nodir isod wedi’u cyfrifo gan ddefnyddio’r methodolegau safonol a ddefnyddir yn Rheoliadau 2017 Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gwybodaeth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau). Sylwch fod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn wahanol i gyflog cyfartal, sy’n cyfeirio at dalu dynion a menywod yn gyfartal am yr un gwaith neu waith cyfatebol ac mae'n ofyniad cyfreithiol.

Ar 31 Mawrth 2021, roedd 822 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Ein bwlch cyflog canolrifol yw 2.0% a’n bwlch cyflog cymedrig yw 4.8%.

Mae’r bwlch cyflog canolrifol wedi gostwng o 2.8% yn 2020 ac mae ein bwlch cyflog cymedrig hefyd wedi gostwng o 5.3%. Rydym ymhell islaw’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ledled y DU o 15.4% yn 2021.

Bwlch cyflog bonws rhwng y rhywiau

Yn 2020, cafodd 716 o weithwyr fonws - 486 o fenywod a 230 o ddynion. Mae hyn yn cynrychioli 96% o'r holl fenywod a 96% o'r holl ddynion yn y Gronfa. Y bwlch bonws cymedrig rhwng y rhywiau – y gwahaniaeth rhwng cyflog bonws cyfartalog cyflogeion benywaidd perthnasol (a gymerwyd fel un grŵp) a chyflog bonws cyfartalog gweithwyr gwrywaidd perthnasol (a gymerwyd hefyd fel un grŵp) - yw 18.4%. Y bwlch bonws canolrifol rhwng y rhywiau yw 0%.

Chwartelau cyflog

Mae'r tabl canlynol yn dangos dosbarthiad y rhywiau ar draws Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae'r chwartel cyntaf yn cynnwys cyflogeion ar y cyfraddau cyflog uchaf ac mae'r pedwerydd chwartel yn cynnwys cyflogeion ar y cyfraddau cyflog isaf.

Chwartel yn ôl cyflog

Benywaidd

Gwrywaidd

Y chwarter uchaf (cyflog uchaf)62%

38%

Chwarter canol uchaf70%30%
Chwarter canol isaf70%30%
Y chwarter isaf (cyflog isaf)70%30%

Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'n gwaith tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) ar draws y Gronfa. Mae hyn yn cynnwys defnyddio data fel hyn ac, yn bwysig, adborth a phrofiadau cydweithwyr, i fynd i'r afael ar y cyd ag unrhyw anghydbwysedd fel sefydliad.

Yn ddiweddar, sefydlodd David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, bwyllgor newydd lywio EDI traws-Gronfa, y mae'n ei gadeirio. Bydd y pwyllgor yn cyhoeddi strategaeth sy'n nodi'r camau gweithredu, y llinell amser a'r metrigau penodol y byddwn yn eu defnyddio fel gwneuthurwr grantiau a sefydliad. Bydd yr holl gamau a gymerwn tuag at wella yn gyson â'n hymrwymiad o'r newydd i EDI.

Darllenwch ein hadroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau 2020