Ein Hadroddiad ar y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau 2017

Pasiodd llywodraeth y Deyrnas Unedig ddeddfwriaeth y llynedd sy'n mynnu bod mudiadau sydd â 250 neu fwy o gyflogeion yn cyhoeddi data ar eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau (y gwahaniaeth mewn tâl yr awr rhwng cyflogeion gwrywaidd a benywaidd).

Mae'r ffigurau isod wedi eu cyfrifo gan ddefnyddio'r fethodoleg safonol a ddefnyddir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gwybodaeth Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau) 2017.

Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol rydym yn ymroddedig i ddatblygu cydraddoldebau a dathlu amrywiaeth cymunedau ar draws y Deyrnas Unedig.

Rydym wedi'n hymrwymo i gyfle cyfartal a thrin yr holl gyflogeion yn gyfartal. Rydym yn adolygu'n rheolaidd sut gallwn wella hwn ar gyfer cyflogeion presennol ac yn y dyfodol.

Ar 31 Mawrth 2017, roedd 836 o gyflogeion cyfwerth ac amser llawn yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Ein bwlch cyflog cymedrig yw 3.2% ac nid oes gennym fwlch cyflog canolrif (mae tâl canolrif menywod 0.2% yn uwch na dynion). Sylwer bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau'n wahanol i dâl cyfartal, sy'n cyfeirio at dalu dynion a menywod yn gyfartal am yr un gwaith neu waith cyfwerth.

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ystyried bod y ffigurau hyn yn ganlyniad cadarnhaol. Mae'r canlyniadau hyn yn cymharu'n ffafriol â bwlch cyflog y Gwasanaeth Sifil o 11.0% cymedrig a 12.7% canolrif.

Bwlch bonws rhwng y rhywiau

Yn 2016, derbyniodd 208 o gyflogeion fonws - 139 o fenywod a 69 o ddynion. Mae hyn yn cynrychioli 24% o'r holl fenywod a 22% o'r holl ddynion yn y Gronfa. Y bwlch bonws cymedrig yw 2.7% a'r bwlch bonws canolrif yw 0%.

Chwarteli tâl

Mae'r tabl a ganlyn yn dangos y dosbarthiad rhyw ar draws Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae'r chwartel cyntaf yn cynnwys cyflogeion ar y cyfraddau tâl isaf ac mae'r pedwerydd chwartel (uchaf) yn cynnwys cyflogeion ar y cyfraddau tâl uchaf.

Chwartel fesul cyflog

Benywaidd

Gwrywaidd

Chwartel cyntaf (isaf)

63%

37%

Ail chwartel

67%

33%

Trydydd chwartel

69%

31%

Pedwerydd chwartel (uchaf)

61%

39%

Rydym yn ystyried bod cydraddoldeb yn fater o ddifrif, fel a ddangosir gan y ffigurau hyn. Rydym yn ceisio cyflawni gweithlu amrywiol yn weithredol ac yn adrodd ar y data hwn yn ein hadroddiad blynyddol (PDF).

Er hynny nid ydym yn hunanfodlon, ac i gynnal amrywiaeth rhwng y rhywiau byddwn yn:

  • Parhau i fonitro ein hysbysebu a recriwtio
  • Monitro ein cyfleoedd dyrchafiad a chynnydd mewnol
  • Cefnogi polisïau gweithio hyblyg a gwerthuso swyddi