
Canllaw i Gyflenwi Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Cyflwyniad
Mae'r Gronfa yn cefnogi pobl a chymunedau i ffynnu. Ni yw'r ariannwr cymunedol mwyaf yn y Deyrnas Unedig ac rydym yn dosbarthu arian a godwyd gan y Loteri Genedlaethol i gymunedau ledled y Deyrnas Unedig. Rydym yn un o 12 o ddosbarthwyr arian y Loteri Genedlaethol, ac rydym yn rhan o deulu ehangach y Loteri Genedlaethol.
Mae ein hariannu yn cael effaith gadarnhaol ac yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Rydym yn cefnogi prosiectau sy'n canolbwyntio ar beth sy'n bwysig, gan gynnwys ffyniant economaidd, cyflogaeth, pobl ifanc, iechyd meddwl, unigrwydd a helpu'r Deyrnas Unedig i gyrraedd sero net erbyn 2050.
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn bob wythnos at achosion da ledled y Deyrnas Unedig. Ers dechrau’r Loteri Genedlaethol ym 1994, mae £43 biliwn wedi cael ei godi i achosion da. Mae arian y Loteri Genedlaethol wedi cael ei ddefnyddio i gefnogi dros 635,000 o brosiectau - 225 prosiect i bob ardal cod post.
Ein hegwyddorion
Mae’r Gronfa yn dilyn set o egwyddorion allweddol sy’n sail i gaffael ac sy’n cyd-fynd â rheolau, rheoliadau a pholisïau caffael, ac ymrwymiad y Gronfa i gefnogi cymunedau i ffynnu.
Arddangos Arfer Da
Mae arferion caffael y Gronfa wedi’u halinio â Safonau Masnachol y Llywodraeth i fodloni disgwyliadau ar gynllunio, rheoli a gweithredu gweithgareddau caffael.
Cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol y sector cyhoeddus
Mae prosesau caffael y Gronfa yn cydymffurfio â gofynion polisi cyfreithiol a llywodraethol:
- gweithgarwch agored, teg a thryloyw
- mae’r math o gystadleuaeth yn gymesur â’r gwerth a’r gofynion er mwyn annog busnesau sydd newydd ddechrau neu fentrau bach a chanolig (SME’s) trwy gymhwyso egwyddorion darbodus i weithgarwch caffael ac osgoi prosesau gor-gymhleth i leihau costau cyflenwyr
- cydymffurfio â’r gofynion diogelu data
- gweithredu gwerth cymdeithasol fel un o’r meini prawf craidd ar gyfer gwerthuso:
- Dod dros COVID-19: helpu cymunedau lleol i reoli a dod dros effeithiau COVID-19
- brwydro yn erbyn newid hinsawdd: stiwardio'r amgylchedd yn effeithiol
- cyfle cyfartal: lleihau'r bwlch cyflogaeth anabledd a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn y gweithlu
- llesiant: Gwella iechyd a llesiant a gwella cydlyniad cymunedol.
Bod yn hwyluswyr
Codi statws tymor hir y swyddogaeth caffael ar draws y Gronfa i fod yn hwyluswyr a gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid.
Y tîm caffael
Mae Caffael yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni amcanion busnes y Gronfa. Tra bod Caffael yn gyfrifol am lunio polisi caffael, yn unol ag arferion gorau ar gyfer y sefydliad, rydym hefyd yn gyfrifol am gyflawni datrysiadau sy’n rhoi’r gwerth gorau am arian ar gyfer yr holl nwyddau a gwasanaethau y mae’r busnes eu hangen.
Mae'r tim Caffael yn rheoli'r broses caffael ar gyfer yr holl anghenion busnes pan fo gwerth y contract yn cyrraedd trothwy penodol. Mae ein gwasanaethau yn amrywio o gefnogi datblygu manylebau i ddyfarnu contractau a darparu cefnogaeth ôl-gontract. Rydym hefyd yn rheoli'r broses caffael ar gyfer unrhyw anghenion sydd o natur gymhleth neu risg uchel.
Ar gyfer anghenion sydd â gwerth contract dan y trothwy, sydd ar hyn o bryd yn £30,000 yn cynnwys TAW, mae'r Gronfa yn gweithredu hunanwasanaeth caffael, sy'n golygu fod gweithwyr y Gronfa yn gallu ymgymryd â gweithgareddau caffael, cyn belled â'u bod yn dilyn canllaw a pholisi'r sefydliad.
Ein gweledigaeth ar gyfer caffael
Ein gweledigaeth ar gyfer caffael yw ymgysylltu, cefnogi a galluogi'r Gronfa i gyflawni ei phwrpas i gefnogi pobl a chymunedau i ffynnu. Rydym yn credu y gellir cyflawni hyn trwy feithrin dull cynhwysol, cydweithredol, arloesol a strategol tuag at gaffael, sy'n
canolbwyntio ar atebion, sy'n effeithiol yn fasnachol, yn cyflawni nodau ac amcanion y Gronfa o ran gwerth cymdeithasol.
Ein datganiad cenhadaeth ar gaffael
Byddwn yn alluogwyr ar draws pob gweithgarwch caffael gan ddarparu gwasanaeth ardderchog, ychwanegu gwerth wrth gyflawni, a darparu gweithrediadau effeithlon. Bydd ein gweithgarwch caffael yn dilyn arferion da, yn hyrwyddo gwerth cymdeithasol, yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac yn optimeiddio gwerth sy'n alinio ag egwyddorion a nodau'r Gronfa o fod yn bwrpasol, yn canolbwyntio ar effaith, yn berthnasol ac yn ychwanegu gwerth.
Amlinelliad o’r gwasanaeth
Mae’r Gronfa yn ymrwymedig i sicrhau fod ein prosesau caffael yn sicrhau fod arian cyhoeddus yn cael ei wario mewn ffordd sy’n deg, cyfartal a thryloyw.
Caiff pob gweithgarwch caffael sydd o dan £30,000 yn cynnwys TAW, ar hyn o bryd, ei wneud heb ymyrraeth y tim Caffael cyn belled ag y cedwir at bolisïau caffael y Gronfa a'r rheoliadau ariannol.
Rhaid i bob gweithgarwch caffael sydd dros £30,000 yn cynnwys TAW, ar hyn o bryd, gael ei wneud ar y cyd â'r adran Caffael a'i weinyddu ganddynt.
Noder y gall y trothwyon hyn newid yn ddarostyngedig i ganllawiau’r llywodraeth.
Amcangyfrif o Lefel y Gwariant |
Gweithgarwch caffael yn cael ei wneud gan |
Proses caffael |
---|---|---|
Hyd at £12,000 yn cynnwys TAW |
Y defnyddiwr | 1 dyfynbris pris sefydlog ysgrifenedig |
£12,001 - £30,000 yn cynnwys TAW | Y defnyddiwr | 3 dyfynbris pris sefydlog ysgrifenedig |
£30,001 - £213,477 yn cynnwys TAW |
Caffael | Proses Caffael gystadleuol yn unol â’r Rheoliadau Caffael Cyhoeddus |
£213,478+ yn cynnwys TAW |
Caffael | Proses Caffael gystadleuol yn unol â’r Rheoliadau Caffael Cyhoeddus |