Arolwg Rhoi Cymunedau’n Gyntaf: Taflen wybodaeth a Hysbysiad Preifatrwydd

Gwybodaeth am yr arolwg hwn

Beth yw pwrpas yr arolwg?

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (y Gronfa) yn dechrau sgwrs am sut y gall gefnogi cymunedau’r DU orau i lwyddo a ffynnu yn y dyfodol. Mae’r arolwg byr hwn yn rhan o gam cyntaf ein proses Adnewyddu Strategol. Byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth a ddarperir gennych i helpu hysbysu penderfyniadau am sut y gallwn ni wneud y gwahaniaeth mwyaf gyda’n cymunedau, ac ar eu cyfer, yn y dyfodol.

Pwy sy’n cynnal yr arolwg?

Y Gronfa sy’n cynnal yr arolwg hwn. Wrth i’n proses Adnewyddu Strategol fynd yn ei blaen, mae’n bosibl y byddwn ni’n comisiynu partner allanol i weithio â ni a rhannu ymatebion yr arolwg â nhw. Bydden nhw o dan gytundeb â ni i ddefnyddio’r ymatebion at y dibenion arfaethedig gwreiddiol yn unig.

Pam ydw i’n cael fy ngwahodd i gymryd rhan?

Mae’r arolwg ar agor i unrhyw un a hoffai gymryd rhan.

Beth fydd ynghlwm â’r arolwg?

Arolwg byr ar-lein ydyw, gyda phum cwestiwn testun rhydd am eich cymuned a rhai cwestiynau cyd-destunol, gan gynnwys am unrhyw un o’r cymunedau o ddiddordeb y gallech fod yn ymateb amdanynt yn eich atebion.

A oes rhaid i mi gymryd rhan?

Na, does dim rhaid i chi gymryd rhan. Mae’n hollol wirfoddol. Os ydych chi’n dewis peidio â chymryd rhan, ni fydd yn effeithio ar unrhyw fusnes y byddwch yn ei gael â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Hysbysiad Preifatrwydd – Eich Hawliau Diogelu Data

Sut rydym ni’n casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol yn yr arolwg hwn. Gofynnwn nad ydych chi’n rhoi eich enw na manylion personol eraill. Fodd bynnag, petaech chi’n dewis datgelu gwybodaeth a allai eich adnabod yn eich ymatebion testun rhydd, bydd datgeliad y wybodaeth hon yn seiliedig ar eich cydsyniad (yn unol ag Erthygl 9(2)(a) o Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU).

Casglu data categori arbennig

Data personol sydd angen mwy o amddiffyniad oherwydd ei fod yn sensitif yw data categori arbennig. Mae’n cynnwys gwybodaeth fel tarddiad hiliol neu ethnig, barn wleidyddol ac iechyd. Oherwydd nad ydym yn casglu unrhyw wybodaeth a fyddai’n eich adnabod yn bersonol, mae unrhyw beth yr ydych yn ei ddweud wrthym am y mathau hyn o bethau’n aros yn ddienw.

Rydym am roi gwybod i chi am hyn am dri rheswm:

  • Os ydych chi’n ateb arolwg ar ran sefydliad, neu fel unigolyn sydd eisiau dweud wrthym am eu cymuned o ddiddordeb, byddwn ni’n gofyn am wybodaeth am y gymuned neu’r cymunedau o ddiddordeb a gynrychiolir gennych. Efallai byddwch chi hefyd yn dewis dweud wrthym am y wybodaeth categori arbennig yn ymatebion eich arolwg oherwydd eich bod yn teimlo bod hynny’n berthnasol i’r adborth a roddwch. Yn y ddwy sefyllfa, mae datgeliad y wybodaeth categori arbennig hon yn ddienw.
  • Os ydych chi’n datgelu gwybodaeth a allai eich adnabod yn eich ymatebion testun rhydd, mae hyn yn gwneud y data categori arbennig a ddarparwyd gennych yn adnabyddadwy. Eich dewis chi yw hyn, a bydd datgeliad y wybodaeth hon yn seiliedig ar eich cydsyniad (yn unol ag Erthygl 9(2)(a) o Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU).
  • Os ydych chi’n gwirfoddoli data personol ac rydych chi’n dewis tynnu eich cydsyniad wedi hynny, byddwn ni’n cymryd pob cam ymarferol ac yn dileu’r wybodaeth a ddarperir. Fodd bynnag, ni allwn warantu y byddwn ni’n gallu adnabod dychweliadau unigol oherwydd bwriedir i’r arolwg fod yn ddienw.

Eich hawliau diogelu data a sut rydym ni’n diogelu eich gwybodaeth bersonol

Nodir yr hawliau sydd gennych yn Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU (UK GDPR) fel y mae’n berthnasol yn y DU, ac wedi’i deilwra gan Ddeddf Diogelu Data 2018. Gwybodaeth bellach am eich hawliau.

Fel y nodir uchod, nid ydym yn bwriadu casglu data personol y gallai eich adnabod. Rydym yn rhannu’r wybodaeth hon am eich hawliau data rhag ofn y byddwch chi’n rhannu data personol â ni yn eich ymatebion.

Bydd gan y Gronfa fynediad uniongyrchol at yr ymatebion a roddir gennych i’r arolwg. Bydd ymatebion yr arolwg yn cael eu dadansoddi gan nifer cyfyngedig o staff yn y Gronfa.

Efallai bydd y Gronfa’n cyhoeddi neu’n rhannu canfyddiadau o’r arolwg hwn, ond ni fydd yn bosibl adnabod unigolion neu sefydliadau o fewn adroddiadau sydd ar gael yn gyhoeddus. Defnyddir gwybodaeth ddienw ar gyfer adroddiadau mewnol ac allanol, cyhoeddiadau a chyflwyniadau.

Sut i gysylltu â ni

Os oes unrhyw bryderon neu gwestiynau gennych am yr arolwg, cysylltwch â puttingcommunitiesfirst@tnlcommunityfund.org.uk.

I gael rhagor o wybodaeth neu i arfer eich hawliau diogelu data, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data: The National Lottery Community Fund, Apex House, 3 Embassy Drive, Birmingham, B15 1TR neu data.protection@tnlcommunityfund.org.uk

Eich hawl i gwyno

Os ydych chi’n anfodlon â’r ffordd y mae eich data personol wedi cael ei ddefnyddio, cysylltwch â’r Gronfa. Gallwch hefyd gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF neu