Adborth gan gwsmeriaid

Dyma rai enghreifftiau o'r hyn rydym wedi'i wneud gyda'ch adborth:

  • Rydym wedi gwella'n gwefan i wneud y tudalennau gwe'n fwy sefydlog ac i'w gwneud hi'n haws i ddod o hyd i'r wybodaeth gywir
  • Rydym wedi defnyddio adborth gan gwsmeriaid yn barhaus gan ddefnyddio ein ffurflenni cais i'w gwella ar gyfer pob rhaglen ariannu newydd a ddatblygwn, gan sicrhau perfformiad gwell y nodweddion rhyngweithiol a gwneud y cwestiynau'n haws i'w deall
  • Rydym yn gweithio ar ddiwygio ein harweiniad ariannu i'w wneud e'n haws ei ddeall ac yn cynnwys cwsmeriaid wrth brofi hwn.

Gweld ein cynnydd:

  • Rydym yn pennu targedau uchel ar gyfer ein hunain i sicrhau ein bod yn darparu lefelau boddhad uchel ar gyfer ein cwsmeriaid. Rydym yn gofyn i sampl o'n cwsmeriaid am adborth bob tri mis ac yn dadansoddi'r canlyniadau i weld sut y gallwn ni wella:
  • Boddhad cwsmeriaid – canlyniadau Chwefror 2015 - ar raddfa o 1 i 10, graddiodd 85 y cant o'n cwsmeriaid ein gwasanaethau fel 8 neu'n uwch.

Rydym wedi datblygu set o egwyddorion cwsmeriaid sy'n amlinellu sut y bwriadwn wella ein gwasanaeth dros y blynyddoedd i ddod.

Wrth gyflawni eu dyletswyddau, mae ein staff yn ymrwymedig i fod yn agored, yn barod i wrando, yn llawn parch ac yn ymatebol, waeth p'un a yw'r cyswllt yn un personol, dros y ffôn neu drwy ohebiaeth â chi.

Mae gan ein staff hawl i gyflawni eu dyletswyddau'n ddiogel heb gael eu rhwystro neu wynebu bygythiad o gamdriniaeth neu niwed corfforol. Os byddant yn profi'r fath ymddygiad, mae ganddynt yr hawl i ddod â'r alwad ffôn neu gyfarfod i ben. Ni fyddwn yn ymateb i e-byst, galwadau neu lythyron ymosodol.

Rydym yn gwerthfawrogi'ch adborth yn fawr. Os oes gennych sylwadau am y gwasanaethau y mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn eu darparu, rydym wir am eu clywed nhw. Cysylltwch â ni yn ymholiadau.cymru@cronfagymunedolylg.org.uk.