Gweithgaredd Trydar Ffug

Rydym yn ymwybodol fod nifer o gwsmeriaid wedi derbyn cyfathrebiadau twyllodrus drwy Drydar gan rywun sy’n defnyddio ein henw. Mae’r negeseuon hyn yn datgan fod unigolion wedi eu dewis i dderbyn swm mawr o arian, i’w hunain neu eu sefydliad.

Mae’r negeseuon hyn wedi eu creu yn dwyllodrus gan bobl yn camddefnyddio ein henw ac enwau ein staff, a nid ydynt yn cynrychioli Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol mewn unrhyw ffordd.

Nid yw Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dyfarnu rhodd-daliadau nag arian gwobr. Rydym yn dyfarnu arian wedi ei godi gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i achosion da ledled y DU, a bydd grantiau dim ond yn cael eu dyfarnu i bobl a sefydliadau sydd wedi ymgeisio’n uniongyrchol â ni.

Camelot sydd yn delio â’r gwerthiant o docynnau’r Loteri Genedlaethol a thalu allan am wobrau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Camelot ar 0845 910 0000.

Beth i’w wneud os ydych wedi cael eich effeithio

  • Peidiwch byth ag ymateb i’r mathau hyn o gyfathrebiad. Dylech ddileu unrhyw negeseuon rydych yn ei dderbyn a dweud wrth eich ffrindiau a’ch cydweithwyr i wneud yr un peth.
  • Os ydych wedi ymateb, dylech dorri pob cysylltiad gyda’r twyllwr. Os ydych wedi rhoi eich manylion banc, dylech rybuddio eich banc ar unwaith.
  • Os oes twyll wedi cael ei gyflawni, dylech ei adrodd i Action Fraud:www.actionfraud.police.uk