E-byst Loteri ffug

Rydym yn ymwybodol fod nifer o gwsmeriaid wedi derbyn cyfathrebiadau twyllodrus drwy Drydar gan rywun sy’n defnyddio ein henw. Mae’r negeseuon hyn yn datgan fod unigolion wedi eu dewis i dderbyn swm mawr o arian, i’w hunain neu eu sefydliad.

Mae’r negeseuon hyn wedi eu creu yn dwyllodrus gan bobl yn camddefnyddio ein henw ac enwau ein staff, a nid ydynt yn cynrychioli Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol mewn unrhyw ffordd.

Nid yw Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dyfarnu rhodd-daliadau nag arian gwobr. Rydym yn dyfarnu arian wedi ei godi gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i achosion da ledled y DU, a bydd grantiau dim ond yn cael eu dyfarnu i bobl a sefydliadau sydd wedi ymgeisio’n uniongyrchol â ni.

Camelot sydd yn delio â’r gwerthiant o docynnau’r Loteri Genedlaethol a thalu allan am wobrau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Camelot ar 0845 910 0000.

Os ydych wedi ymateb, dylech dorri pob cysylltiad gyda’r twyllwr. Os ydych wedi rhoi eich manylion banc, dylech rybuddio eich banc ar unwaith.

Os oes twyll wedi cael ei gyflawni, dylech ei adrodd i Action Fraud: www.actionfraud.police.uk