Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Ein heffaith

Cymuned yw’r man cychwyn 

Rydym yn helpu cryfhau cymunedau. Mae cymunedau cryf yn:

  • newid bywydau pobl

  • helpu pobl i deimlo'n fwy diogel, yn iachach ac yn fwy hyderus

  • rhoi ymdeimlad o reolaeth i bobl dros eu dyfodol

Rydyn ni'n buddsoddi lle mae ei angen fwyaf. A lle mae'n bwysig i gymunedau. Ein nod yw gwneud grantiau’n syml ac yn hyblyg fel y gall sefydliadau wneud eu gwaith gorau a chreu newid parhaol.

Cymunedau yw lle mae newid yn digwydd. Nid fel dewis olaf pan fydd systemau eraill yn methu, ond fel sylfaen ar gyfer dyfodol iachach, tecach a mwy gobeithiol. Pan fydd cymunedau'n ffynnu, rydyn ni i gyd yn gwneud hynny.

David Knott - Prif Swyddog Gweithredol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Lawrlwythwch yr adroddiad

Mae'r adroddiad hwn yn dangos effaith ein gwaith rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025.

Cymunedau sy’n gwneud y gwahaniaeth - Ein heffaith yn 2024-25 (PDF, 5.4 MB)

Cymunedau sy’n gwneud y gwahaniaeth - Ein heffaith yn 2024-25 (Dogfen Word, 465 KB)

Gwyliwch ein fideo effaith

Dysgwch ragor am y cymunedau rydyn ni'n gweithio gyda nhw yn ein fideo effaith.

Pwy rydyn ni'n ei gefnogi 

Rydym yn ariannu prosiectau ym mhob etholaeth yn y DU. Ond rydym yn blaenoriaethu'r cymunedau sydd ei angen fwyaf. Aeth dros hanner ein harian (51%) i gymunedau sy'n profi'r tlodi a'r anfantais fwyaf.

Cynyddu cefnogaeth i sefydliadau ar lawr gwlad 

Mae ein grantiau Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn blaenoriaethu cefnogi sefydliadau llai ar lawr gwlad. Mae'n helpu dod â phobl ynghyd, meithrin perthnasoedd cryf a gwella cymunedau.

Yn 2023, gwnaethom ddyblu swm a hyd y grantiau Arian i Bawb. Gall sefydliadau nawr wneud cais am hyd at £20,000 am dros 2 flynedd. Yn flaenorol, roedd hyn hyd at £10,000 dros flwyddyn.

Roedd grantiau hirach a mwy yn helpu'r sefydliadau a ariannwyd gennym i:

  • weithio'n fwy effeithiol

  • gwella darpariaeth eu prosiectau

  • cefnogi mwy o bobl

Mae cael grant yn rhoi'r sefydlogrwydd i ni fel sefydliad. Gallwn roi'r hyder hwnnw i bobl y bydd y sefydliad yno i gefnogi pobl am gyfnod hirach.

Deiliad grant - Lloegr

Ein 4 nod a arweinir gan y gymuned 

Mae ein nodau’n arwain sut rydym yn ariannu a chefnogi cymunedau. Roedd 90% o'r grantiau a ddaeth i ben yn 2024 a 2025 yn cefnogi o leiaf un o'n 4 nod a arweinir gan y gymuned.

Roedd y grantiau hyn yn cefnogi cymunedau i:

  • ddod ynghyd (81%)

  • byw bywydau iachach (51%)

  • helpu plant a phobl ifanc i ffynnu (38%)

  • bod yn amgylcheddol gynaliadwy (14%)

Canlyniadau a gyflawnwyd gan y grantiau 

Mae gan bob nod set o ganlyniadau yr ydym am eu gweld mewn cymunedau.

Ar draws ein grantiau, mae'r canlyniadau a gefnogir yn cynnwys:

  • gwella lles, iechyd corfforol neu feddyliol pobl (79%)

  • gwell cysylltiadau a pherthnasoedd (72%)

  • gweithgareddau neu ddigwyddiadau’n cael eu cyflwyno ar-lein neu wyneb yn wyneb (60%)

  • rhoi ymdeimlad o ddiogelwch, perthyn neu ymddiriedaeth i bobl (53%)

  • darparu neu wella lleoedd i bobl ddod at ei gilydd (53%)

  • galluogi pobl i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymuned (42%)

Cymunedau’n dod ynghyd

Dysgwch sut mae ein grantiau wedi helpu pobl i gysylltu, lleihau unigrwydd a chreu mannau croesawgar.

Cymunedau’n helpu plant a phobl ifanc i ffynnu

Dysgwch sut roedd ein grantiau’n cefnogi babanod, plant a phobl ifanc.

Mae cymunedau'n iachach

Dysgwch sut roedd prosiectau a ariennir yn cefnogi lles corfforol, meddyliol ac emosiynol.

Mae cymunedau'n amgylcheddol gynaliadwy

Dysgwch am sut mae ein grantiau’n cefnogi prosiectau sy'n gwarchod natur, lleihau niwed amgylcheddol ac ymateb i newid hinsawdd.