Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Ein heffaith - mae cymunedau'n amgylcheddol gynaliadwy

Rydym eisiau cefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu dros blaned fwy cynaliadwy. Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd sy'n achosi problemau amgylcheddol sy'n effeithio ar ein hiechyd, ein lles ac ansawdd bywyd.

Dysgwch ragor am ein nod mae cymunedau’n amgylcheddol gynaliadwy.

Yr effaith mewn niferoedd 

Rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025, fe wnaethom gefnogi cymunedau i fod yn amgylcheddol gynaliadwy drwy ddyrannu £69.2 miliwn mewn grantiau.

Roedd grantiau a oedd yn canolbwyntio ar y nod hwn ac a ddaeth i ben yn 2024 a 2025 yn cefnogi dros 500,000 o bobl ledled y DU.

Roedd 14% o'r grantiau yn cefnogi cymunedau i fod yn amgylcheddol gynaliadwy.

Pa grantiau a gyflawnwyd

Roedd ein grantiau’n cefnogi’r nod hwn drwy helpu gwneud y canlynol:

  • mwy o bobl yn cael mynediad i fyd natur (14%)

  • pobl yn gwella effaith eu cymuned ar yr amgylchedd (8%)

  • sefydliadau cymunedol i wella eu heffaith ar yr amgylchedd (5%)

Prosiect a ariannwyd gennym - Incredible Edible Lambeth

Mae Incredible Edible Lambeth yn rhwydwaith o dyfwyr bwyd sy'n gwella mynediad i natur yn y gymuned. Fe wnaethom ariannu'r grŵp i weithio gyda sefydliadau i gynnal digwyddiadau mewn gerddi cymunedol ledled Lambeth.

"Ar lawer o'r ystadau hyn, mae mynediad gwael iawn i fyd natur, felly rhoddodd y digwyddiadau hyn gyfle i drigolion ryngweithio â mannau gwyrdd, pobl eraill, bwyd a gweithgareddau. Roedd yn llawen iawn."  

Victoria Sherwin, aelod sefydlu Incredible Edible Lambeth

Darllenwch ragor am sut y daeth Victoria yn rhan o Incredible Edible Lambeth.