Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Ein heffaith – mae cymunedau'n iachach

Gall pobl brofi iechyd gwael am lawer o wahanol resymau. Anghydraddoldebau iechyd yw gwahaniaethau annheg yn iechyd pobl sy'n dod o'r amodau maen nhw'n byw ynddynt. Ledled y DU, mae anghydraddoldebau iechyd yn eang ac yn hirsefydlog.

Mae cymunedau’n chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl i fyw bywydau iachach.

Dysgwch ragor am ein nod mae cymunedau’n iachach.

Yr effaith mewn niferoedd 

Rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025, fe wnaethom gefnogi cymunedau i fod yn iachach drwy ddyrannu £175.6 miliwn mewn grantiau.

Roedd grantiau a oedd yn canolbwyntio ar y nod hwn ac a ddaeth i ben yn 2024 a 2025 yn cefnogi dros 1.2 miliwn o bobl ledled y DU.

Roedd 51% o'r grantiau yn cefnogi cymunedau i fyw bywydau iachach.

Pa grantiau a gyflawnwyd

Roedd ein grantiau’n cefnogi'r nod hwn drwy helpu:

  • gwella lles, iechyd corfforol neu iechyd meddwl (79%)

  • cyflwyno gweithgareddau neu ddigwyddiadau sy'n helpu iechyd a lles (15%)

  • darparu neu wella lleoedd sy'n cefnogi iechyd a lles (11%)

  • gwella gwasanaethau iechyd a lles cymunedol (8%)

Prosiect a ariannwyd gennym - Group Recovery Aftercare Community Enterprise 

Mae Group Recovery Aftercare Community Enterprise (GRACE) yn cefnogi pobl yn Nwyrain Swydd Dunbarton, yr Alban, sy'n delio â thrawma fel dibyniaeth, heriau iechyd meddwl, unigrwydd, neu’r system gyfiawnder.

Mae'n eu helpu i ailadeiladu eu bywydau gan gynnig gweithgareddau fel:

  • celf

  • dosbarthiadau digidol

  • ioga

  • teithiau cerdded iechyd

  • cymorth gan gymheiriaid

"Dwi'n teimlo'n fendigedig bob dydd. Dwi yn y sefyllfa ffodus fy mod yn gweld bywydau pobl yn cael eu newid o'm blaen. Mae pobl yn dod i mewn ac maen nhw ar eu gliniau, wedi torri yn emosiynol, ac yna'n sydyn maen nhw'n hwyluso dosbarthiadau ac yn rhannu eu profiadau cadarnhaol gyda phobl newydd sy'n dod i mewn."

Robert Smith, sylfaenydd Group Recovery Aftercare Community Enterprise

Darllenwch sut mae Robert yn helpu pobl i ailadeiladu eu bywydau y tu hwnt i adferiad.