Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Cefnogaeth a’m hachubodd – stori Sam

Roedd Sam, mam i dri o blant, yn ei chael hi'n anodd ymdopi â heriau magu ei phlant, ac mae gan ddau ohonynt anghenion ychwanegol. Roedd hi ar ben ei thennyn pan aeth i Home-Start Wrecsam gyntaf a dechreuodd pethau newid. Gyda'u cefnogaeth mae Sam a'i phlant yn magu hyder bob dydd.

Mae Sam yn byw yn Wrecsam gyda'i gŵr Stephen, eu bechgyn gefeilliaid pedair oed, a'u mab dwy oed. Mae'r efeilliaid wedi cael diagnosis o oedi cyffredinol (global delay) ac anghenion iechyd cymhleth.

Tra roedd ei phartner yn y gwaith, dechreuodd Sam deimlo'n fwyfwy ynysig. Roedd hi'n meddwl nad oedd pobl yn deall ymddygiad ei phlant ac yn gadael y tŷ llai a llai.

Pan gyrhaeddon nhw Home-Start Wrecsam gyntaf, prin oedd Sam yn ymdopi. Ond gydag anogaeth a chefnogaeth gan Gyfarwyddwr Home-Start, Pam Hoyle, dechreuodd pethau newid yn fuan.

Rhywun ar eich ochr chi

"Fyddwn i ddim wedi goroesi heb dîm Home-Start. Pan fydd pobl yn dweud eu bod nhw'n boddi, roeddwn i eisoes o dan y dŵr. Prin oeddwn i'n dal gafael. Pam wnaeth fy achub."

Sam, defnyddiwr gwasanaeth

Gyda chymorth a chred Pam, mae bywydau Sam a'i phlant wedi cael eu trawsnewid. Gwnaeth y bechgyn gynnydd a oedd yn amhosibl i Sam ar un adeg, gan gyrraedd cerrig milltir bach a dod â gobaith yn ôl i fywyd bob dydd.

Ni newidiodd cefnogaeth bopeth ar unwaith, ond gwnaeth i bob diwrnod deimlo'n fwy hylaw.

Sut mae arian y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi Home-Start Wrecsam

Gyda chefnogaeth gan arian y Loteri Genedlaethol, mae Home-Start Wrecsam yn helpu teuluoedd lleol sy'n wynebu pwysau ac yn ei chael hi'n anodd cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Maent yn gweithio ochr yn ochr â theuluoedd i gryfhau perthnasoedd, meithrin hyder a helpu plant i ffynnu.

Mae llawer o deuluoedd yn teimlo dan bwysau mawr, nid yn unig oherwydd bywyd teuluol bob dydd ond [hefyd] oherwydd pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i’r gwasanaethau cywir ar yr amser iawn. Mae Home-Start yn helpu trwy bontio bylchau a chynnig cefnogaeth pan fydd teuluoedd yn teimlo ar goll neu ar eu pen eu hunain, un diwrnod ar y tro.

Pam - Cyfarwyddwr Home-Start Wrecsam

Os oes gennych chi syniad ar gyfer prosiect sy'n helpu teuluoedd â phlant ifanc i ffynnu, cymerwch olwg ar ein rhaglenni ariannu.