Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Canu fel un – stori Graeme

Pan gafodd Graeme ei lethu gan ei swydd llawn straen a'i gyfrifoldebau gofalu am y teulu, bu'n rhaid iddo gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith. Roedd yn teimlo ar goll ac yn unig. Ond gydag anogaeth ei ffrind, mynychodd gôr cymunedol a wnaeth iddo deimlo fel rhan o rywbeth eto.

Roedd Graeme, 62 oed, dan lawer o bwysau yn ei swydd heriol. Roedd yn gweithio oriau hir ac yn cefnogi ei fab anabl pan roedd yn cyrraedd adref. Pan gafodd dau aelod o'i deulu ddiagnosis o ganser, roedd yn ei chael hi'n anodd ymdopi.

Bu'n rhaid i Graeme gymryd sawl mis i ffwrdd o'r gwaith. Yn ystod y cyfnod hwn, anogodd ei ffrind ef i ymuno â chôr lleol a oedd yn rhan o Raglen Pals yn Stockton-on-Tees.

Dod o hyd i harmoni

Ar y dechrau roedd Graeme yn nerfus yn yr amgylchedd newydd hwn. Ond pan ddechreuon nhw ganu newidiodd popeth. Roedd yn teimlo'n llai unig ar unwaith.

"Dechreuais fynd bob wythnos ac yn gyflym iawn dechreuais gymryd rhan yn y gwahanol weithgareddau. Mae mor hawdd ymgolli yn eich dioddefaint eich hun a diflastod bywyd bob dydd, ond fe wnaeth y côr fy nhynnu allan o hynny."

Graeme, defnyddiwr gwasanaeth

Bu Graeme gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd. Er gwaethaf eu cefndiroedd a'u diddordebau gwahanol, fe wnaethon nhw ddod o hyd i dir cyffredin trwy angerdd a rennir.

Sut mae arian y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi Rhaglen Pals

Gyda chefnogaeth gan arian y Loteri Genedlaethol, mae Rhaglen Pals yn darparu gweithgareddau lles i ddynion o bob cymuned. Mae'n dod â nhw at ei gilydd, gan ddarparu cefnogaeth i'w gilydd.

Yn ogystal â'r côr mae eu gweithgareddau'n cynnwys:

  • diwrnodau allan

  • dosbarthiadau coginio

  • teithiau cerdded lleol

  • garddio

Roedd gwneud pethau fel garddio, rhywbeth hollol y tu allan i’m byd arferol, a chwrdd â’r dynion hyn na fyddwn i byth wedi cwrdd â nhw, yn hynod werthfawr. Mae gennym ni fywydau mor wahanol, ond eto rydym ni i gyd yn wŷr, yn dadau, yn weithwyr ac yn rhannu cariad at ein cymuned a set gyffredin o werthoedd.

Graeme - defnyddiwr gwasanaeth

Os oes gennych chi syniad ar gyfer prosiect sy'n helpu i ddod â phobl a chymunedau at ei gilydd, cymerwch olwg ar ein tudalennau ariannu.