Rheoli eich prosiect yn ddwyieithog
Os ydych chi'n derbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiect yng Nghymru, rhaid i chi gynnig gwasanaethau eich prosiect yn y ddwy iaith. Mae hyn yn unol â'n Safonau'r Gymraeg ac yn un o delerau ac amodau grantiau. Mae hefyd yn gyfle gwych i wneud yn siŵr bod eich prosiect yn hygyrch i bawb yn eich cymuned.
Beth mae hyn yn ei olygu
Mae'n bwysig eich bod chi'n meddwl am sut rydych chi'n mynd i gyflawni'ch prosiect yn ddwyieithog cyn i chi gyflwyno'ch cais am grant. Mae hyn oherwydd bydd angen i chi gynnwys unrhyw gostau cysylltiedig yng nghyllideb eich prosiect.
Mae'n werth ystyried:
- os ydych chi'n bwriadu creu deunyddiau ysgrifenedig fel rhan o'ch prosiect, bydd angen iddynt fod ar gael yn y ddwy iaith lle bo hynny'n bosibl (fel taflenni, posteri, llyfrynnau a gwefannau)
- os ydych chi'n bwriadu cyflogi aelod o staff neu ddod â nhw i mewn yn y tymor byr gyda'ch grant, mae angen i chi wybod a oes angen siaradwr Cymraeg arnoch chi i gyflawni'r dyletswyddau hynny
- bydd angen rhoi hysbysebion ar gyfer swydd newydd neu staff sesiynol yn y cyfryngau ac ar-lein yn ddwyieithog, a rhaid i'r broses recriwtio, fel cyfweliadau, fod ar gael yn y naill iaith neu'r llall
- bydd angen i unrhyw ffilmiau sy’n cael eu cynhyrchu gyda'n grantiau fod yn ddwyieithog lle bo hynny'n bosibl, neu fel ffilmiau Cymraeg a Saesneg ar wahân
- bydd angen i brosiectau sy’n cael eu hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol fod yn ddwyieithog pryd bynnag y bo modd
- rydych chi'n meddwl am natur ieithyddol y gymuned rydych chi'n gweithio ynddi yn ystod oes y grant, ac i gynnig unrhyw wasanaeth yn unol â hynny
Beth sydd angen i chi ei wneud
Mae angen i chi ystyried costau eich prosiect o weithio yn ddwyieithog yn ofalus fel y gellir eu cynnwys yng nghyllideb y prosiect. Gallai’r rhain gynnwys:
- cyfieithu deunyddiau cyhoeddusrwydd a deunyddiau hyrwyddo
- cyfieithu gwefannau neu gwmnïau dylunio gwefannau dwyieithog
- cyfieithu hysbysebion swyddi
- costau hysbysebu swyddi yn y cyfryngau yn y Gymraeg a'r Saesneg
Creu canllaw prosiect dwyieithog
Mae'n syniad da cwblhau canllaw prosiect dwyieithog, sy'n nodi sut rydych chi'n bwriadu cyflawni eich prosiect yn ddwyieithog. Bydd hyn yn ein helpu wrth asesu eich cais. Mae hefyd yn ddogfen ddefnyddiol i'r rhai sy'n rheoli'r prosiect, ac i'ch defnyddwyr gwasanaeth weld pa wasanaethau sydd gennych chi ar gael yn Gymraeg.
Gallwch ddarganfod mwy am Greu Canllaw Prosiect Dwyieithog yma.