Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Ein polisi’r Gymraeg ar gyfer grantiau

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw'r ariannwr cymunedol mwyaf yng Nghymru. Rydym ni’n dosbarthu 40% o arian y Loteri Genedlaethol i achosion da sy'n cefnogi dibenion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y DU. 

Mae ein grantiau yn cefnogi prosiectau sy'n gwneud cymunedau: 

  • yn wydn  
  • yn fwy cynhwysol 
  • yn amgylcheddol gynaliadwy 

Rhwng Medi 2024 ac Awst 2025, fe wnaethom ddyfarnu 1,110 o grantiau yng Nghymru gwerth cyfanswm o £60 miliwn. 

Ein rhaglenni ariannu 

Nid oes dyddiad cau i'r rhan fwyaf o'n rhaglenni ariannu. Ein dwy brif raglen ariannu yw 'Arian i Bawb Y Loteri Genedlaethol' a 'Pawb a’i Le'. 

Arian i Bawb Y Loteri Genedlaethol 

Mae'r grantiau yn amrywio o £300 i £20,000 i gefnogi'r hyn sy'n bwysicaf i bobl a chymunedau. Byddwn yn ariannu sefydliadau sydd â syniadau prosiect gwych a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan gynnwys prosiectau sydd: 

  • yn dod â phobl at ei gilydd i adeiladu perthnasoedd cryf o fewn ac ar draws cymunedau  
  • yn gwella'r lleoedd a'r mannau sy'n bwysig i bobl leol 
  • yn helpu mwy o bobl i gyrraedd eu potensial trwy ddarparu cymorth cynnar – yn enwedig i bobl, cymunedau a sefydliadau sy'n wynebu mwy o bwysau oherwydd yr argyfwng costau byw  

Pawb a’i Le 

Mae'r grantiau yn amrywio o £20,000 i £500,000 ar gyfer prosiectau lle mae pobl a chymunedau'n gweithio gyda'i gilydd, gan ddefnyddio eu cryfderau i wneud newid cadarnhaol ar y materion sydd bwysicaf iddynt. 

Yn ogystal â'r rhaglenni hyn, rydym ni weithiau'n lansio rhaglenni ariannu strategol gyda dyddiadau cau ceisiadau penodol. Mae'r rhain fel arfer yn cael eu datblygu yn seiliedig ar adborth gan gwsmeriaid a rhanddeiliaid, ac wedi'u cynllunio i fynd i'r afael ag anghenion penodol o fewn cymunedau ledled Cymru.  

Mae enghreifftiau yn cynnwys: 

Rydym ni hefyd yn gweithredu rhaglenni ariannu ledled y DU sy'n agored i ymgeiswyr yng Nghymru. 

Beth mae ein Safonau'r Gymraeg yn ei ddweud 

O ran darparu cyllid, mae Safon 90 yn berthnasol: 

Safon 90: Rhaid i chi gynhyrchu a chyhoeddi polisi ar ddyfarnu grantiau (neu, lle bo'n briodol, diwygio polisi presennol) sy'n ei gwneud yn ofynnol i chi ystyried y materion canlynol wrth wneud penderfyniadau mewn perthynas â dyfarnu grant:  

(a) pa effeithiau, os o gwbl (a p'un a yw'n gadarnhaol neu'n negyddol), y byddai dyfarnu grant yn ei gael ar y canlynol: 

(ii) cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, ac  

(ii) ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

(b) sut y gellid gwneud neu weithredu'r penderfyniad (er enghraifft, drwy osod amodau grant) fel y byddai'n cael effeithiau cadarnhaol, neu fwy o effeithiau cadarnhaol, ar 

(i) gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, ac 

(ii) ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg;  

(c) sut y gellid gwneud neu weithredu'r penderfyniad (er enghraifft, drwy osod amodau grant) fel na fyddai'n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai yn cael llai o effeithiau andwyol ar: 

(i) gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, ac 

(ii) ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg;  

(d) p’un a oes angen i chi ofyn i'r ymgeisydd am unrhyw wybodaeth ychwanegol er mwyn eich cynorthwyo i asesu effeithiau dyfarnu grant ar: 

(i) gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, ac 

(ii) trin y Gymraeg heb fod yn llai ffafriol na'r iaith Saesneg. 

Gwasanaeth dwyieithog 

Mae gwybodaeth a deunyddiau cais ar gyfer ein holl raglenni ariannu yng Nghymru a ledled y DU ar gael yn Gymraeg a Saesneg, gyda statws cyfartal. Gallwch wneud cais: 

  • drwy Ein Porth Ar-lein 
  • gan ddefnyddio ffurflenni ar-lein 
  • drwy gyflwyno cais copi caled yn y naill iaith neu'r llall 

Gallwch hefyd ddewis cyfathrebu â ni yn Gymraeg neu Saesneg, a bydd eich cais yn cael ei asesu yn yr iaith y caiff ei gyflwyno. 

Y Gymraeg o fewn y broses ymgeisio 

Nid oes gan y Gronfa raglen ariannu benodol ar gyfer prosiectau Cymraeg. Yn hytrach, mae ein holl raglenni, boed yng Nghymru yn unig neu'n y DU gyfan, yn agored i geisiadau gan bob sefydliad.  

Mae'r Gymraeg wedi'i hymgorffori trwy gydol ein proses ariannu. Cyn gwneud cais, gofynnir i bob ymgeisydd ddarllen ein canllaw ar Reoli eich prosiect yn ddwyieithog. Mae'n esbonio beth i'w ddisgwyl a sut rydym ni’n cefnogi cyflwyno’n ddwyieithog. 

Rydym ni’n croesawu ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu Saesneg. Rydym ni hefyd yn gofyn i ymgeiswyr nodi eu dewis iaith ar gyfer cyfathrebu, gan ganiatáu iddynt wneud cais mewn un iaith a chyfathrebu â ni mewn iaith arall os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny. 

Bydd pob cais sy’n cael ei gyflwyno yn Gymraeg - neu unrhyw gais Saesneg lle mae cyswllt wedi nodi'r Gymraeg fel ei iaith gyfathrebu - yn cael ei asesu gan Swyddog Ariannu Cymraeg. Nid ydym byth yn cyfieithu ceisiadau o'r Gymraeg i'r Saesneg at ddibenion asesu ac mae'r broses o asesu a rheoli grantiau yn digwydd mewn ffordd naturiol ddwyieithog. 

Rhaid i bob ymgeisydd lenwi ein ffurflen Monitro Buddiolwyr wrth wneud cais ac, yn dibynnu ar y grant a ddyfarnwyd, eto ar ddiwedd y prosiect. Mae'r ffurflen hon yn ein helpu i ddeall pwy sy'n elwa o brosiectau sy’n cael eu hariannu gan y Loteri Genedlaethol mewn cymunedau ar lawr gwlad ledled Cymru. Mae'n cynnwys cwestiwn am sgiliau Cymraeg buddiolwyr eich prosiect.  

Mae telerau ac amodau ariannu yn ddogfen gyfreithiol rwymol y mae'n rhaid i bawb sy'n derbyn grantiau ei llofnodi ac ymrwymo iddi cyn i arian gael ei dalu. Mae'n nodi eich cyfrifoldebau fel sefydliad a ariennir. Mae hyn yn cynnwys gofyniad cyfreithiol i ystyried y Gymraeg drwy gydol eich prosiect ac, lle bo hynny'n briodol, i gyflwyno gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Yr hyn rydyn ni'n ei ddisgwyl 

Fel dosbarthwr arian cyhoeddus, rydym ni’n gosod disgwyliadau clir ar y prosiectau rydyn ni'n eu hariannu.  

Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • y gallu i weithredu'n ddwyieithog, a bod yn agored ac yn hygyrch i siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg 
  • peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg (gan gynnwys sicrhau bod deunyddiau, gwybodaeth a gwasanaethau ar gael yn Gymraeg)  
  • cynyddu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg, megis darparu gwasanaethau yn Gymraeg a chynyddu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithgareddau a ariennir 

Cynllunio a chyflawni prosiectau 

Rydym ni’n disgwyl i brosiectau:  

  • ystyried y Gymraeg cyn dechrau eu cais ac ystyried beth fydd y prosiect ei angen i weithredu'n ddwyieithog neu yn Gymraeg 
  • ystyried a oes angen siaradwyr Cymraeg i lenwi unrhyw swyddi, er mwyn sicrhau bod buddiolwyr y prosiect yn gallu cyrchu’r gwasanaeth yn eu hiaith gyntaf neu'u iaith o ddewis. 
  • ystyried anghenion ieithyddol buddiolwyr eu prosiect wrth benderfynu ar sgiliau ieithyddol ar gyfer rolau swyddi gan y bydd achlysuron pan fydd angen iaith yn bwysicach na dewis iaith. Er enghraifft, prosiectau sy'n gweithio gyda phlant bach, pobl â dementia, neu'r rhai sy'n delio â phroblemau iechyd meddwl. 
  • hysbysebu pob rôl swydd yn ddwyieithog, p’un a yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ai peidio 
  • dylunio ac argraffu'r holl ddeunyddiau sy'n ymwneud â'u prosiect yn ddwyieithog fel bod y wybodaeth yr un mor hawdd i'w gweld a'i darllen yn Gymraeg ag y mae yn Saesneg - darganfyddwch fwy am sut i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eich sefydliad  
  • cael gwefannau dwyieithog gyda'r gallu i newid yn hawdd rhwng ieithoedd os yw ein grant yn talu am y wefan newydd. Os nad ydym yn ariannu gwefan, bydd angen i dudalen we y sefydliad sy'n hyrwyddo'r prosiect a ariennir fod yn ddwyieithog 
  • defnyddio ein logo dwyieithog bob amser wrth hyrwyddo eich prosiect a'i hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol, gan ein tagio pryd bynnag y bo modd @TNLComFundWales 

Proses asesu 

Cyn i chi wneud cais i'r Gronfa, efallai eich bod eisoes wedi trafod eich syniad prosiect gyda ni, gan gynnwys unrhyw ofynion Cymraeg.  

Pan fyddwn ni’n derbyn cais, bydd ein Swyddogion Ariannu yn adolygu eich ymatebion i'r prif gwestiynau sy'n ymwneud â'r Gymraeg. Byddant yn asesu a yw'r grŵp wedi ystyried anghenion ieithyddol y gymuned mae'r prosiect yn ei gwasanaethu'n ddigonol.  

Yn benodol, byddant yn ystyried y meysydd canlynol: 

  • Deall y cyd-destun ieithyddol lleol: P'un a yw'r sefydliad yn dangos gwybodaeth am ddemograffeg ieithyddol yr ardal. Byddwn yn gwirio hyn yn enwedig mewn perthynas â phrosiectau y tu allan i Gymru a fydd yn darparu gwasanaethau yng Nghymru. Os nad yw prosiect yn glir ar hyn, byddwn yn argymell eu bod yn ymgynghori ag ystadegau'r Cyfrifiad neu gysylltu â'r Fenter Iaith leol. 
  • Ystyried anghenion iaith cymunedol: P'un a yw'r prosiect yn cyfrif am ofynion ieithyddol y gymuned wrth gynllunio a chyflawni. Er enghraifft, os yw rôl swydd wedi’i hariannu yn gofyn am sgiliau Cymraeg, a yw'r rhain yn cael eu hadlewyrchu'n glir yn yr hysbyseb swydd? 
  • Sicrhau mynediad cyfartal drwy'r Gymraeg: P'un a yw'r prosiect yn cynnig cyfle cyfartal i bawb yn y gymuned gymryd rhan mewn gweithgareddau neu wasanaethau yn Gymraeg a p’un a yw gwasanaethau dwyieithog yn cael eu hysbysebu. Ni fydd prosiectau sy'n cyfyngu ar ddefnydd o'r Gymraeg yn cael eu hariannu, er y gellir gwneud eithriadau ar gyfer gwasanaethau arbenigol lle mae'r ddarpariaeth Gymraeg lawn yn heriol. 
  • Hyrwyddo'r Gymraeg: Ydy'r prosiect yn cefnogi defnydd ehangach o'r Gymraeg yn unol â Strategaeth y Gymraeg 2050. Rydym yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau sy'n anelu at gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg. Ar gyfer enghreifftiau o brosiectau rydyn ni wedi'u hariannu sy'n hyrwyddo'r iaith, ffoniwch ni ar 0300 123 0735 neu e-bostiwch cymorthcymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk
  • Darparu cymorth os oes angen: Os nad yw sefydliad wedi darparu ateb boddhaol i'r cwestiwn ar yr iaith Gymraeg, neu os nad ydynt yn siŵr o'r gofynion, byddant yn cael eu rhoi mewn cysylltiad ag aelod o dîm iaith Gymraeg y Gronfa am arweiniad. 
  • Cynnwys costau gweithredu dwyieithog: P'un a yw'r prosiect yn cynnwys cyflwyno dwyieithog, fel cyfieithu neu ddylunio gwefan. Rydym yn argymell dyrannu o leiaf £500, er y gall yr union swm amrywio yn dibynnu ar y prosiect. 

Os ydych chi'n llwyddiannus 

Monitro a chefnogaeth  

Mae cydymffurfiaeth â'r amod ariannu Cymraeg yn cael ei fonitro yn yr un modd â'n hamgylchiadau ariannu eraill. Rydym yn disgwyl gweld tystiolaeth: 

  • bod y prosiect ar gael yn ddwyieithog 
  • nad yw’r prosiect yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol ar unrhyw adeg  

Gall methu â bodloni'r amod hwn effeithio'n negyddol ar eich grant presennol, ac unrhyw grantiau yn y dyfodol. 

Os hoffech gefnogaeth i gynnwys y Gymraeg yn eich prosiect neu weithgareddau, anfonwch e-bost at ein tîm iaith Gymraeg yn cymorthcymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk.

Dathlu gyda'ch cymuned 

Rhannwch eich llwyddiant ac effaith eich grant: 

Rydym yn eich annog i barhau i dynnu sylw at y gwahaniaeth mae eich grant yn ei wneud trwy gydol cyfnod eich grant.  

Er mwyn helpu pob prosiect i ddeall ein gofynion iaith Gymraeg, rydym yn gweithio gyda Thîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg i ddarparu sesiynau hyfforddiant chwarterol trwy Teams. Os nad ydych wedi derbyn gwahoddiad i'r sesiynau, anfonwch e-bost at cymorthcymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk

Tendrau  

Rydym yn dilyn yr un rheolau ag a ddisgrifir uchod ar gyfer asesu tendrau. Bydd y testun isod yn cael ei gynnwys ym mhob dogfen dendro ar gyfer tendrau Cymru a'r DU gyfan:  

"Yn unol â Safonau'r Gymraeg Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, os bydd eich prosiect/gwasanaeth ar gael yng Nghymru, rhaid i chi alluogi pobl i gymryd rhan yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan drin y ddwy iaith yn gyfartal. Rhaid i siaradwyr Cymraeg allu cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau yn Gymraeg a rhaid cynhyrchu pob deunydd yn ddwyieithog.”