Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2024–25
Mae'r adroddiad hwn yn esbonio sut y cyflawnodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ei Safonau’r Gymraeg rhwng mis Medi 2024 a mis Medi 2025.
Beth wnaeth ein gwaith Safonau’r Gymraeg ei gyflawni yn 2024–25
Fe wnaethom ni barhau i fodloni Safonau'r Gymraeg yn 2024–25, sydd wedi bod yn berthnasol i'r sefydliad ers 2017. Mae'r safonau hyn yn sicrhau bod y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal pan fyddwn ni’n darparu gwasanaethau yng Nghymru.
Dros y flwyddyn, fe wnaethom ni ddyfarnu dros 1,100 o grantiau gwerth cyfanswm o £60 miliwn i gymunedau ledled Cymru.
Cyhoeddwyd yr holl wybodaeth ariannu newydd ac wedi’i diweddaru sy'n benodol i Gymru yn ddwyieithog. Mae hyn yn cynnwys canllawiau, deunyddiau cais, a chynnwys perthnasol ar y wefan.
Fe wnaethom gyflwyno ein gwasanaeth cwsmeriaid, ein digwyddiadau, a'n gweithgaredd ymgysylltu yn ddwyieithog, gyda chefnogaeth staff sy'n siarad Cymraeg. Roedd ystyriaethau'r Gymraeg hefyd wedi'u hymgorffori o fewn datblygu polisi, cynllunio gweithredol a phrosesau mewnol.
Fe wnaethom ni barhau i gefnogi gweithio dwyieithog drwy adnoddau mewnol Cymraeg, arferion recriwtio a gweithgaredd datblygu staff.
Mae ein gwaith i gyflawni Safonau'r Gymraeg yn helpu i wneud y canlynol:
- Sicrhau mynediad cyson a theg at gyllid a gwasanaethau i ddefnyddwyr yr iaith Gymraeg
- Cefnogi a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg drwy weithgareddau a ariennir a chyfathrebu â'r cyhoedd.
- Cryfhau gallu sefydliadol i ddarparu gwasanaethau'n ddwyieithog ar draws Cymru
Ni chafwyd unrhyw gwynion ynghylch gwasanaethau Cymraeg yn ystod y cyfnod adrodd.
Mae'r gwaith hwn yn dangos sut mae ymgorffori Safonau'r Iaith Gymraeg ar draws y sefydliad yn cefnogi darpariaeth gwasanaeth effeithiol, yn cryfhau atebolrwydd, ac yn cyfrannu at ddefnydd ehangach o'r Gymraeg mewn cymunedau ledled Cymru.
Darllenwch yr adroddiad llawn i ddarganfod mwy: